I rai, mae cyfnod yr etholiad yn golygu mwy o sgyrsiau gwleidyddol adref, ac efallai dy fod di’n teimlo pwysau i bleidleisio mewn ffordd benodol. Cofia, ti sy’n berchen ar dy bleidlais di!
Efallai dy fod di’n clywed rhieni, gwarchodwyr, neu deulu ehangach yn siarad am blaid benodol fel mai dyma’r unig opsiwn call. Weithiau, efallai bydda’n nhw’n disgwyl i ti bleidleisio yn yr un ffordd. Mae’n berffaith normal i rywun deimlo ychydig o bwysau ar adegau fel hyn. Efallai dy fod di eisiau parchu traddodiad, ond efallai dy fod di’n teimlo bod dy farn di’n wahanol i’w barn nhw.
Deall eu safbwynt nhw
Yn aml, pan fydd aelodau’r teulu’n gwthio eu barn wleidyddol arnat ti, nid bod yn gas y maent. Efallai y byddan nhw’n teimlo fel eu bod nhw’n rhannu rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiannus iddyn nhw ers blynyddoedd. Efallai y byddan nhw’n meddwl eu bod nhw’n helpu ti wrth ddweud wrthyt ti pwy i’w gefnogi. Ceisia gofio mai eu profiadau nhw a’r byd y cawsant eu magu ynddi sydd wedi dylanwadu arnynt. Efallai nad ydynt yn sylwi eu bod nhw’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus neu dan bwysau. Nid yw cydnabod hyn yn golygu bod rhaid i ti gytuno, ond gallai helpu i dawelu dy feddwl rhywfaint.
Ti yn unig sy’n berchen ar dy bleidlais
Mae’n dda cofio bod pleidlais rhywun yn breifat – ni all neb weld pwy rwyt ti’n pleidleisio amdanynt. Nid oes rhaid i ti rannu’r wybodaeth yma gyda dy deulu os wyt ti’n dewis peidio. Os ydyn nhw’n gofyn, yna gallet ti gadw dy ateb yn amwys. Efallai dweud rhywbeth fel, “Dwi’n dal i edrych ar yr holl bleidiau ac yn meddwl am y pethau sy’n bwysig i mi.” Mae hwn yn ateb gonest sydd ddim yn gofyn am ddadl. Mae amddiffyn dy breifatrwydd yn ffordd ddilys i ymdopi â’r pwysau.

Mae gen ti hawl i farn dy hun
Mae’r byd yn newid yn gyflym, ac mae pob cenhedlaeth yn wynebu heriau gwahanol i’r un cynt. Mae’n iawn edrych ar y maniffestos a phenderfynu nad yw dy farn di’n cyd-fynd â’u barn nhw. Mewn gwirionedd, mae hynny’n rhan fawr o dyfu i fyny. Mae ffurfio barn dy hun yn dangos dy fod di’n meddwl drosot ti dy hun.
Os wyt ti’n teimlo fel dy fod di eisiau egluro dy wahanol safbwyntiau, ceisia ddewis amser tawel i wneud hynny. Paid codi’r mater yn ystod dadl danbaid neu bryd o fwyd teuluol llawn tensiwn. Gallet ti ddweud rhywbeth fel: “Dwi’n parchu eich barn chi, ond mae gen i farn wahanol am hyn.”
Paid gadael i bwysau atal ti rhag pleidleisio
Weithiau, gall pwysau teulu deimlo mor drwm fel dy fod di ddim eisiau pleidleisio’n gyfan gwbl. Paid â gadael i hyn dy ddigalonni. Hyd yn oed os yw dy deulu’n anghytuno, dy bleidlais yw dy ffordd o ddylanwadu ar ddyfodol Cymru. Ti yw’r un a fydd yn byw gyda chanlyniadau’r etholiad, felly sicrha bod dy ddewis di’n un rwyt ti’n credu ynddi.
Angen siarad? Siarad â Meic
Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru. Rydym yn cynnig cefnogaeth ar bob math o bynciau, ac mae ein gwefan yn llawn blogiau a gwybodaeth ddefnyddiol ar faterion sy’n bwysig i ti. Ymwela â’n hadran bleidleisio am ragor o arweiniad i leisio dy farn, neu’n hadran am berthynas â theulu.
