Hide Page
Close up of a barbed wire fence with a moody sky behind it

Rhiant yn y Carchar: Poeni am Ryddhau’n Gynnar?

Os oes gen ti riant yn y carchar, neu rwyt ti’n poeni amdanynt yn cael eu rhyddhau’n gynnar, ti ddim ar ben dy hun.

Mae llawer o blant a phobl ifanc sydd â rhiant yn y carchar. Beth bynnag yw’r rheswm dros hynny, gall achosi dryswch a theimlo’n ormod weithiau. Efallai dy fod di’n poeni y bydd pobl yn barnu ti, neu yn beio ti am ymddygiad dy rieni.

Efallai dy fod di wedi clywed bod rhai carcharorion yn cael eu rhyddhau’n gynnar fel rhan o gynllun newydd i greu mwy o le mewn carcharau yng Nghymru a Lloegr.

Gallai hyn achosi teimladau o dristwch, pryder, gofid, dicter, hapusrwydd, cyffro, cywilydd, neu ddryswch. Sut bynnag yr wyt ti’n teimlo mae’n iawn, a ti ddim ar ben dy hun.

Y stigma o gael rhiant yn y carchar

Mae’n normal i deimlo euogrwydd, ond cofia nad wyt ti’n gyfrifol am ymddygiad dy rieni. Nid dy fai di yw beth wnaethon nhw.

Efallai byddi di’n poeni beth fydd pobl yn ei feddwl wrth glywed bod gen ti riant yn y carchar. Bosib bod gan bobl gwestiynau, ond mae’n iawn i ti beidio’u hateb os nad wyt ti eisiau. Dy ddewis di ydy’r hyn rwyt ti’n rhannu a gyda phwy.

Ond nid oes rhaid i ti ymdopi ar ben dy hun. Siarada gyda ffrind neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt, fel athro neu weithiwr ieuenctid. Mae siarad am y peth gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt yn gallu helpu pethau i deimlo’n llai o fwgan.

Zoomed in close up of pair of hands holding prison bars

Ymweld â rhiant yn y carchar

Fel arfer, bydd posib i ti ymweld â rhiant yn y carchar. Dylet ti gael dewis, ac nid oes rhaid i ti fynd i’w gweld os nad wyt ti eisiau.

Mae pa mor aml y gallet ti ymweld, ac am ba mor hir, yn ddibynnol ar y carchar. Mae yna lefydd chwarae i blant mewn rhai, a chyfleusterau fel peiriant gwerthu snacs a diodydd.

Bydd yna bobl mewn iwnifform a theuluoedd eraill yn ymweld â’u teulu. Gall yr ystafell ymweld fod yn le swnllyd a phrysur.

Efallai byddi di’n teimlo ychydig yn ofnus ar y cychwyn, ond bydd swyddogion yno i sicrhau dy fod di’n ddiogel. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am beth ellir ei ddisgwyl, gofyn i aelod o’r teulu neu oedolyn arall gallet ti ymddiried ynddynt, fel gweithiwr cymdeithasol. Byddant yn gallu tawelu dy feddwl.

Rhyddhau’n gynnar

Gan bod llawer iawn o garcharau yn orlawn, mae rhai pobl yn cael eu rhyddhau’n gynnar i wneud lle. Os yw dy riant di’n cael ei ryddhau’n gynnar, efallai bydd gen ti deimladau cymysg am hynny. Efallai dy fod di’n gyffrous i’w cael nhw adref, neu efallai dy fod di’n poeni am sut y bydd pethau’n newid.

Er eu bod nhw’n cael eu rhyddhau, mae’n debygol y byddant yn gorfod bod mewn cyswllt rheolaidd â’r gwasanaethau prawf (probation) ac yn gorfod dilyn rheolau am yr hyn maent yn cael, a ddim yn cael, gwneud. Efallai na fydd pethau’n dychwelyd i fel yr oeddent cynt yn syth.

Mae cymorth ar gael os wyt ti’n poeni. Mae yna linell gymorth penodol i’r bobl sy’n poeni am gynllun rhyddhau’n gynnar. Ffonia ar 0808 168 9280. Mae ganddynt dudalen gwe hefyd sydd yn ateb ychydig o gwestiynau cyffredin am y cynllun.

Zoomed in close up of an old fashioned key in an old fashioned lock.

Camdriniaeth gan riant

Os oes gen ti riant yn y carchar am eu bod nhw wedi camdrin ti neu rywun arall yn dy deulu, mae meddwl amdanynt yn cael eu rhyddhau’n gynnar yn gallu codi ofn. Mae’n iawn i ti dal  deimlo’n flin, yn bryderus, neu’n ddolurus am yr hyn ddigwyddodd.

Os gafodd dy riant ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy am ymosodiad treisgar neu rywiol yn erbyn ti, fe ddylet ti fod yn gymwys i’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr. Bydd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr (gweithiwr proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi yn arbennig) yn diweddaru ti pan fydd dy riant ar fin cael ei ryddhau ac yn gadael i ti ofyn am fesuriadau amddiffyn, fel parth gwahardd (exclusion zone) sy’n golygu na allant ddod yn agos i dy gartref, ysgol, coleg, neu waith. Os nad wyt ti’n sicr os wyt ti wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, gellir cysylltu gyda’r llinell gymorth i ddioddefwyr ar 0300 060 6699.  

Cael help

Os wyt ti’n mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd, ffonia 999.

Mae bod â rhiant yn y carchar yn gallu bod yn anodd, ond mae yna wasanaethau sy’n gallu helpu.

  • Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion – cymorth a chyngor am ddim i unrhyw un sydd ag aelod o’r teulu yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Byw Heb Ofn – cysylltu ar y ffôn neu sgwrs ar-lein i gael cymorth a chyngor am gamdriniaeth domestig a trais yn erbyn merched.
  • Llinell Gymorth Rhyddhau Troseddwyr – i unrhyw un sy’n poeni am y cynllun rhyddhau’n gynnar.
  • Cymorth i Ddioddefwyr – helpu ti i ddeall dy hawliau a dargangod ffyrdd i ymdopi. Ffonia ar 08 08 16 89 111
  • Children Heard and Seen –  elusen sy’n darparu cymorth arbennigol i blant, pobl ifanc, a theuluoedd sydd yn cael eu heffeithio gan garcharu.
  • Childline – gwybodaeth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â rhieni yn y carchar. Gallant gysylltu â’r heddlu neu wasanaethau cymdeithasol ar dy ran os wyt ti’n teimlo’n aniogel.

A chofia, mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Cysyllta am wybodaeth, cyngor, ac eiriolaeth am ddim.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

Croeso i Meic!
Cymraeg
Welcome to Meic!
English