Eiriolaeth
Beth yw eiriolaeth?
Eiriolaeth ydy dy hawl di i gael dy glywed. Mae’n golygu bod rhywun yno i helpu ti i ddeud wrth bobl am y pethau sy’n bwysig i ti, gan sicrhau dy fod di’n rhan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am dy fywyd.
Os wyt ti’n stryglo i gael pobl i wrando arnat ti, neu’n teimlo’n rhy nerfus i siarad, yna mae eiriolwr yn gallu cefnogi ti a sicrhau bod pobl yn gwrando.
Sut gall Meic helpu?
Os wyt ti angen help i siarad â rhywun neu i rannu dy safbwynt, gall ein cynghorwyr helpu.
Gallem:
- Helpu ti i baratoi: I feddwl am yr hyn rwyt ti eisiau dweud fel dy fod di’n teimlo’n hyderus yn siarad ar ran dy hun (Hunan-eiriolaeth)
- Siarad ar dy ran di: Cysylltu pobl ar dy ran gan ddefnyddio dy union eiriau (Eiriolaeth)
- Trefnu galwad 3 ffordd: Ymuno gyda thi ar alwad ffôn er mwyn cefnogi ti yn fyw a helpu ti i ddeall yr hyn sy’n digwydd
Pryd y gallet ti fod angen eiriolaeth?
Gallet ti ofyn am eiriolaeth bron iawn ymhob sefyllfa ble rwyt ti angen help i siarad â rhywun. Er enghraifft:
- Ysgol: Delio gyda bwlio ac angen help i siarad â’r athrawon
- Doctoriaid: Eisiau gweld doctor am faterion pryder ond yn teimlo’n rhy nerfus i drefnu apwyntiad
- Gwasanaethau Cymdeithasol: Teimlo’n anhapus gyda rhywbeth sy’n digwydd gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ac angen ychydig o gymorth i fynegi dy farn
Sut i gael eiriolaeth
Mae cael help yn syml. Cysyllta â Meic, a bydd ein cynghorwyr yn gweithio gyda thi i ddarganfod y camau gorau ar gyfer dy sefyllfa di.
- Eisiau gwybod beth sy’n digwydd pan fyddi di’n cysylltu â Meic? Cer i weld ein blog.
- Mae Meic yn wasanaeth am ddim a chyfrinachol. Darllen mwy am gyfrinachedd yma.
