Os yw’r syniad o gerdded i mewn i orsaf bleidleisio yn gwneud i ti deimlo ychydig yn nerfus, ti ddim ar ben dy hun. Dyma beth i’w ddisgwyl ar ddiwrnod yr etholiad.
Mae’n brofiad hollol newydd i lawer, ac mae’n naturiol i ti boeni am ‘wneud camgymeriad’. Y newyddion da yw bod y broses wedi’i chynllunio i fod yn syml ac yn gefnogol. Dyma olwg gyflym ar yr hyn a fydd yn digwydd pan fyddi di’n mynd i bleidleisio, fel y gallet ti gerdded i mewn gan deimlo’n barod ac yn dawel dy feddwl.
Ble a phryd i bleidleisio
Bydd dy orsaf bleidleisio yn adeilad lleol, fel ysgol, canolfan gymunedol, neu neuadd eglwys.
Dylet ti fod wedi derbyn cerdyn pleidleisio yn y post sy’n dweud wrthyt ti’n union ble i fynd. Os nad wyt ti wedi derbyn un, neu wedi’i golli, paid â phoeni – nid oes angen y cerdyn i bleidleisio. Edrycha ar wefan dy gyngor lleol i ddod o hyd i gyfeiriad dy orsaf bleidleisio leol.
Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor drwy’r dydd o 7yb i 10yh, felly dewis amser sydd fwyaf addas i ti.
Beth sy’n digwydd y tu mewn
Pan fyddi di’n cyrraedd, cer at aelod o staff wrth y ddesg. Rho dy enw a dy gyfeiriad iddynt. Os yw’n etholiad Senedd, nid oes angen i ti ddod ag unrhyw ddogfen adnabod gyda llun. Unwaith y byddant yn gwirio dy fod di ar y gofrestr, byddant yn rhoi’r papur pleidleisio i ti. Yna byddi di’n mynd â hwn i fwth pleidleisio preifat.

Y tu mewn i’r bwth
Y bwth yw dy le preifat di. Yno mae yna bensil, ond mae croeso i ti ddod â beiro dy hun os yw’n well gen ti.
Bydd cyfarwyddiadau clir ar y papur pleidleisio ar sut i farcio dy bleidlais. Nid oes brys – cymera dy amser. Unwaith y byddi di wedi gwneud dy ddewis, plyga’r papur fel bod dy bleidlais yn aros yn breifat, a’i ollwng i’r blwch pleidleisio. Fel arfer dim ond ychydig funudau y mae’r broses gyfan yn ei gymryd.
Os wyt ti’n teimlo’n nerfus
Mae’n iawn os wyt ti’n teimlo ychydig yn bryderus am fynd ar ben dy hun. Os yw’n gwneud i ti deimlo’n fwy cyfforddus, cer â ffrind neu aelod o’r teulu gyda thi i’r orsaf bleidleisio, ond dim ond ti all fynd i mewn i’r bwth pleidleisio i fwrw dy bleidlais.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau o gwbl tra byddi di yno, mae’r staff yno i helpu. Maen nhw wedi arfer ateb cwestiynau gan rai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf, felly paid ag ofni gofyn. Angen trafod hyn cyn neu ar ôl i ti bleidleisio? Sgwrsia â Meic am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim.
