Hide Page
Person talking on a megaphone out of the phone

Beth i’w Ddisgwyl gan Ymgyrchwyr yn y Cyfnod Cyn Etholiad y Senedd

Wrth i etholiad y Senedd agosáu, mae’n debyg y byddi di’n sylwi ar lawer mwy o weithgarwch gan bleidiau gwleidyddol. Mae ymgyrchwyr yn gweithio i berswadio ti i roi dy bleidlais iddyn nhw.

Efallai y byddi di’n derbyn gwybodaeth trwy dy flwch post, pobl yn mynd o ddrws i ddrws, neu lawer o bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Gall deimlo ychydig yn ddwys, ond mae’n rhan arferol o’r broses. Gall deall sut mae hyn yn gweithio helpu ti i ymlacio a rhoi llai o bwysau arnat ti.

Beth mae ymgyrchwyr yn ceisio’i wneud

Mae ymgyrchwyr eisiau rhannu gweledigaeth eu plaid ar gyfer dyfodol Cymru. Efallai y byddi di’n sylwi ar wahanol ddulliau ymgyrchu yn ystod yr wythnosau yma. Mae taflenni trwy’r drws yn ffordd arferol iawn i bleidiau rannu eu prif addewidion. Efallai y bydd ymgeiswyr neu wirfoddolwyr hefyd mynd o ddrws i ddrws i sgwrsio am yr etholiad. Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn brysur iawn, gyda phobl yn rhannu fideos, hysbysebion, a diweddariadau am yr etholiad.

Bwriad yr holl dactegau yma yw tynnu sylw at y materion sy’n bwysig iddynt a’r hyn y maent yn bwriadu gwneud os ydynt yn ennill. Maen nhw’n ceisio dangos pam mai eu syniadau nhw sydd orau i’r gymuned. Dyma eu ffordd o gysylltu â phleidleiswyr ac egluro sut maent yn bwriadu ymdrin â phethau fel ysgolion, yr amgylchedd, neu gost byw.

Sut i ymdopi â’r holl wybodaeth

Mae’n normal i deimlo bod gormod o wybodaeth yn cael ei roi arnat ti yn y cyfnod yma. Cofia nad oes rhaid ymgysylltu â phob taflen neu bost cyfryngau cymdeithasol. Cymera amser i ddarllen pethau os a phan fyddi di’n teimlo’n barod.

Os yw rhywun yn dod i’r drws, mae’n iawn i ti fod yn gwrtais ond dweud nad oes gen ti ddiddordeb yn siarad ar hyn o bryd. Ti sy’n rheoli faint o wybodaeth rwyt ti eisiau a phryd.

Eye through a magnifying glass

Cadw llygad beirniadol

Mae deunydd ymgyrchu wedi’i gynllunio i wneud i blaid neu ymgeisydd edrych yn dda. Felly byddant yn canolbwyntio’n ar eu cryfderau ac yn dewis peidio sôn am safbwyntiau eraill. Felly, mae’n syniad da i feddwl yn feirniadol am yr hyn wyt ti’n darllen neu’n clywed. Gofynna i dy hun os wyt ti’n cael y darlun lawn. Os yw honiad yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, yna efallai byddai’n dda gwneud chwiliad cyflym ar-lein i weld beth mae ffynonellau eraill yn ei ddweud amdano.

Mae dy lais yn bwysig

Bwriad yr holl ymgyrchu yma yw un peth: ennill dy bleidlais. Efallai dy fod di’n teimlo fel bod pawb yn gwaeddi am dy sylw, arwydd yw hyn bod dy farn di wir yn cyfrif. Paid gadael i’r holl sŵn roi ti dan straen. Cymera’r hyn yr wyt ti ei angen allan o’r wybodaeth darparir, anwybydda’r rhannau sydd ddim yn teimlo’n ddefnyddiol, a chanolbwyntia ar y materion sydd wir yn bwysig i ti.

Adnoddau defnyddiol

Y Comisiwn Etholiadol – Adnoddau i Bobl Ifanc: Mae’r wefan hon yn lle gwych i ddysgu am hanfodion democratiaeth. Mae’n dadansoddi sut mae etholiadau’n gweithio mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, yn helpu ti i deimlo’n fwy hyderus am dy hawl i bleidleisio a sut i gymryd rhan.

Senedd Cymru – Pleidleisio am y Tro Cyntaf: Mae’r dudalen hon wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru. Mae’n cwmpasu popeth sydd angen i’w wybod am etholiad 2026, gan gynnwys sut i gofrestru, beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod, a sut mae’r system bleidleisio newydd yn gweithio.

Ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd: Mae cyfnod cyn etholiadau yn gallu bod yn swnllyd iawn ar-lein gyda llawer o gamwybodaeth a thwyllwybydoaeth yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r ymgyrch hon yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu ti sut i wirio ffeithiau dy ffrwd er mwyn gallu gwneud dewis gwybodus am dy bleidlais.

Meic: Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru. Rydym yn cynnig cefnogaeth ar bob math o bynciau, ac mae ein gwefan yn llawn blogiau a gwybodaeth ddefnyddiol ar faterion sy’n bwysig i ti. Ymwela â’n hadran bleidleisio am ragor o arweiniad fel bod pobl yn clywed dy lais di.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449