Hide Page
Wrapped christmas presents on a green table

Nadolig ar Gyllideb

Gall y Nadolig fod yn gyfnod llawn hwyl, ond gall hefyd rhoi straen ar dy arian. Dyma rhai ffyrdd syml i gynllunio o flaen llaw, cadw i gyllideb, a pharhau i fwynhau’r cyfnod.

Pam bod y Nadolig yn gallu teimlo’n ddrud

Yn aml, mae’r Nadolig yn dod gyda rhestr hir o bethau i dalu amdano. Anrhegion, bwyd, nosweithiau allan, teithio i ymweld â theulu, efallai gwisg newydd neu ddwy. Gall hysbysebion a chyfryngau cymdeithasol gwneud i ti feddwl  bod pawb yn gwario lot o arian, sy’n rhoi pwysau arnat ti i wneud yr un peth. 

Mewn gwirionedd, mae lot o bobl yn stryglo gydag arian aradeg yma’r flwyddyn. Efallai bod gen ti arian poced, swydd ran-amser neu lawn-amser, yn byw ar fenthyciad myfyriwr neu fudd-daliadau, nid ti yw’r unig berson sy’n poeni am sut i ymestyn dy arian ymhellach.

Christmas presents under the christmas tree

Gwneud cynllun cyn gwario arian

Cyllideb yw cynllun o faint o arian sydd gen ti a’r hyn rwyt ti’n gwario. Efallai ei bod yn swnio’n ddiflas, ond gall leihau straen.  

Dechreua wrth gyfrifo faint allet ti neilltuo ar gyfer y Nadolig heb adael dy hun gyda llai o arian am bethau pob dydd fel teithio, bwyd, neu bil ffôn. Gall y rheol 50/30/20 fod yn ddefnyddiol: lle mae hanner dy arian yn mynd tuag at bethau angenrheidiol, 30% tuag at bethau rwyt ti eisiau, a 20% yn cael eu harbed i’r dyfodol. Yna, ysgrifenna lawr y bobl hoffet ti brynu anrhegion iddyn nhw, a tua faint o arian hoffet ti wario arnynt. Cadwa hwn yn dy ap nodiadau neu ar ddarn o bapur er mwyn gwneud hi’n haws cadw trac.

Os yw’n bosib, rho ychydig o arian i’r ochr bob wythnos yn y cyfnod cyn y Nadolig. Gall arbed symiau bach gwneud gwahaniaeth dros amser.

Teen boy writing a list in a notebook

Nid oes rhaid i anrhegion fod yn ddrud

Yn aml, dydy’r anrhegion gorau ddim yn costio lot. Bydd cerdyn wedi’i ddylunio â llaw, bisgedi wedi’u pobi gartref, neu restr chwarae wedi’i greu i rywun arbennig, yn golygu mwy na rhywbeth sydd wedi’i brynu o’r siop. 

Gallet ti hefyd rhoi dy amser fel anrheg. Gall cynnig i helpu gyda thasg, coginio pryd o fwyd, neu drefnu diwrnod allan gyda’ch gilydd, fod yn anrhegion gyda lot o feddwl y tu ôl iddynt. Mae siopa o gwmpas, edrych am ddisgownt, a chwilio mewn siopau elusen hefyd yn ffyrdd da i gadw costau i lawr.

Teen girl making a homemade gift

Siôn Corn Cyfrinachol a Chynlluniau Grŵp

Os oes gen ti grŵp mawr o ffrindiau neu deulu mawr, mae’n gallu bod yn ddrud i brynu anrheg i bawb. Gall Siôn Corn Cyfrinachol helpu, lle mae pawb yn prynu un anrheg i rywun a ddewiswyd ar hap. Bydd gosod terfyn gwario y mae pawb yn hapus ag ef yn cadw pethau’n deg. 

Gallet ti hefyd awgrymu ffyrdd rhatach i ddathlu gyda’ch gilydd, fel noson o wylio ffilmiau neu fynd am dro i weld y goleuadau Nadolig.

Two girls hiding behind a christmas present, not showing their faces to imply anonymity

Bydda’n ofalus o wario cyfrwys

Mae rhai mathau o wariant yn gyfrwys ac yn hawdd i’w fethu. Mae cynlluniau ‘Prynu Nawr, Talu Wedyn’ yn gadael i ti brynu rhywbeth yn syth a thalu amdano wedyn, fel arfer mewn rhandaliadau. Gall fod yn ddefnyddiol, ond mae’n hawdd colli trac o’r ddyled sydd gen ti, a gall fethu taliadau achosi problemau yn y dyfodol. 

Gwylia hefyd am brynu o fewn gemau, sêl dros y cyfnod Nadolig, a siopa ar-lein yn hwyr yn y nos – gall costau gynyddu’n gyflym. Mae’n syniad da i gymryd brêc bach cyn prynu rhywbeth a gofyn i dy hun os wyt ti wir eisiau’r peth.

Christmas themed gift bags and tissue paper

Siarad am arian

Gall bod yn anghyfforddus dweud wrth ffrindiau neu deulu na wyt ti’n gallu gwario cymaint â nhw. Ond bod yn onest yw’r peth gorau i wneud. Efallai bydd pobl yn teimlo’r un fath ac yn falch bod ti wedi dweud rhywbeth. 

Gallet ti ddweud rhywbeth syml fel “dwi’n trio cadw costau i lawr eleni, beth am osod uchafswm gwario ar anrhegion?” Bydd y mwyafrif o bobl yn deall.

Snowman ornament hanging on a tree

Pryderon ariannol yn dy boeni’n ormodol?

Os yw poeni am arian yn effeithio arnat ti, trïa siarad gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt fel ffrind, aelod o’r teulu, athro, neu weithiwr ieuenctid. Mae yna hefyd wasanaethau am ddim sy’n gallu helpu ti i ddeall dy opsiynau a gwneud cynllun. Gallet hefyd siarad gyda Meic! 

Cofia, ystyr y Nadolig yw treulio amser gyda’r bobl sy’n bwysig i ti, ac nid oes rhaid 

idd gostio lot. 

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

Croeso i Meic!
Cymraeg
Welcome to Meic!
English