Sut i benderfynu pa blaid sy’n cael dy bleidlais yn etholiad y Senedd
Gall penderfynu pwy i roi dy bleidlais iddynt fod yn anodd, yn enwedig pan fydd cymaint o wahanol bobl a phleidiau yn chwilio am dy gefnogaeth. Paid poeni os nad wyt ti’n gwybod ble i gychwyn neu’n teimlo ychydig yn ansicr am y broses.
Nid oes rhaid i ti fod yn arbenigwr gwleidyddol i wneud dewis sy’n teimlo’n iawn i ti. Gall rhoi ychydig o amser i edrych ar yr opsiynau helpu ti i deimlo’n fwy hyderus pan fyddi di’n bwrw dy bleidlais.
Meddylia beth sy’n bwysig i ti
Cyn i ti gychwyn edrych ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud, ceisia feddwl am dy fywyd a dy brofiadau personol. Pa faterion sydd bwysicaf i ti? Efallai dy fod di’n poeni am yr amgylchedd, y ffordd mae ysgolion yn cael eu rhedeg, neu ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl. Efallai dy fod di’n canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu gyfleoedd gwaith i bobl ifanc. Mae’n syniad da ysgrifennu ychydig o bethau sy’n bwysig i ti, gall helpu ti i ganolbwyntio ar yr hyn rwyt ti wir eisiau gan arweinydd y dyfodol.
Edrycha ar y maniffestos
Maniffesto yw dogfen ble mae plaid wleidyddol yn egluro eu prif syniadau a nodau. Meddylia amdano fel rhestr o addewidion maen nhw’n eu gwneud i’r cyhoedd os byddan nhw’n ennill yr etholiad. Nid oes rhaid i ti ddarllen pob tudalen i gael syniad o’u cynlluniau. Mae’r rhan fwyaf o bleidiau bellach yn creu crynodebau byr neu fideos defnyddiol sy’n llawer haws i’w dilyn. Gweler a yw eu cynlluniau’n cyd-fynd â’r rhestr o bethau sy’n bwysig i ti. Dyma ffordd wych i ti weld sut maen nhw’n bwriadu newid pethau yng Nghymru.

Edrycha ar dy ymgeiswyr lleol
Yn 2026, mae’r ffordd rwyt ti’n pleidleisio yn newid. Bydd gen ti un bleidlais i ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Bydd rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob plaid ar y papur pleidleisio. Oherwydd y system ‘rhestr gaeedig’ newydd, rwyt ti’n pleidleisio dros y blaid gyfan yn hytrach na dewis un person penodol. Fodd bynnag, mae gweld yr enwau ar y rhestr yn helpu ti i ddeall y math o bobl y mae’r blaid wedi dewis i gynrychioli ti.
Gallet ti edrych ar yr ymgeiswyr ar-lein i weld beth maen nhw wedi’i gyflawni dros dy gymuned neu beth maen nhw’n ei gynrychioli. Weithiau maen nhw’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus neu sesiynau ar-lein lle gellir mynd i ofyn cwestiynau. Gall gweld eu gwerthoedd a gwefan y blaid helpu ti i benderfynu a ydyn nhw’n addas i gynrychioli dy lais.
Defnyddia adnoddau ar-lein defnyddiol
Mae gwefannau ar gael i helpu ti i ddewis pwy i roi dy bleidlais iddynt. Mae rhai’n rhestru’r pleidiau a’r ymgeiswyr yn dy ardal leol, fel Pwy Alla i Bleidleisio ar Gyfer. Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan y Clwb Democratiaeth a’i bwriad yw bod yn adnodd di-bleidiol, sy’n golygu nad yw’n hyrwyddo plaid benodol ac yn anelu at fod yn deg.
Mae’n bwysig cofio nad yw’r gwefannau yma yn cael eu cynnal gan y llywodraeth nac gan bleidiau gwleidyddol. Oherwydd hyn, gallant weithiau gael eu rhagfarn eu hunain neu efallai na fyddant yn dangos y darlun llawn. Defnyddia’r adnoddau hyn yn ofalus bob amser a cheisia wirio’r wybodaeth maen nhw’n ei rhoi i ti. Mae’n syniad da edrych ar y maniffestos swyddogol neu wefannau’r pleidiau yn uniongyrchol i sicrhau bod gen ti’r wybodaeth fwyaf cywir cyn i ti wneud dy ddewis terfynol.

Ffydd ym marn dy hun
Efallai y byddi di’n clywed llawer o wahanol farnau gan ffrindiau, teulu, neu bobl ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n iawn gwrando arnyn nhw, ond cofia bob amser mai dy ddewis di ydyw. Nid oes ateb cywir nac anghywir o ran sut rwyt ti’n defnyddio dy bleidlais – mae’n ymwneud â’r hyn rwyt ti’n meddwl sydd orau i dy ddyfodol a’r wlad.
Rhagor o wybodaeth ar hwb Etholiadau y Senedd sydd â llawer o wybodaeth am yr etholiad, pleidleisio a dy etholaeth.
Unwaith y mae gen ti ychydig o wybodaeth, gwrando ar reddf dy hun. Mae dy bleidlais yn breifat, a ti yw’r unig un sydd angen bod yn hapus gyda dy benderfyniad.
Adnoddau defnyddiol
Y Comisiwn Etholiadol – Adnoddau i Bobl Ifanc: Mae’r wefan hon yn lle gwych i ddysgu am hanfodion democratiaeth. Mae’n dadansoddi sut mae etholiadau’n gweithio mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, yn helpu ti i deimlo’n fwy hyderus am dy hawl i bleidleisio a sut i gymryd rhan.
Senedd Cymru – Pleidleisio am y Tro Cyntaf: Mae’r dudalen hon wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru. Mae’n cwmpasu popeth sydd angen i’w wybod am etholiad 2026, gan gynnwys sut i gofrestru, beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod, a sut mae’r system bleidleisio newydd yn gweithio.
Ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd: Mae cyfnod cyn etholiadau yn gallu bod yn swnllyd iawn ar-lein gyda llawer o gamwybodaeth a thwyllwybydoaeth yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r ymgyrch hon yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu ti sut i wirio ffeithiau dy ffrwd er mwyn gallu gwneud dewis gwybodus am dy bleidlais.
Meic: Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru. Rydym yn cynnig cefnogaeth ar bob math o bynciau, ac mae ein gwefan yn llawn blogiau a gwybodaeth ddefnyddiol ar faterion sy’n bwysig i ti. Ymwela â’n hadran bleidleisio am ragor o arweiniad fel bod pobl yn clywed dy lais di.
