Sut mae tannau gwyllt yn cychwyn, yr effaith mae’n ei gael ar dy ardal leol, a ffyrdd syml i amddiffyn dy hun a natur.
Sut mae tannau gwyllt yn gallu cychwyn
Pan fydd y tywydd yn sych iawn, mae’r cefn gwlad a’r parciau lleol dan fygythiad. Mae glaswellt a llwyni yn sychu ac yn gallu mynd ar dân yn hawdd, a gall tanau gwyllt ledaenu’n gyflym ar draws llethrau bryniau a choetiroedd.
Yn aml, mae fflamau’n dechrau ar ddamwain yn ystod dyddiau cynhesach. Gall barbeciws tafladwy a adawir ar laswellt neu feinciau pren losgi’r ddaear oddi tanynt. Gall marwor (embers) poeth gael eu chwythu yn y gwynt a thanio planhigion sych gerllaw.
Gall gollwng sbwriel hefyd achosi problemau heb i ti sylweddoli. Gall poteli gwydr a adawir ar dir sych fod yn chwyddwydrau bach mewn golau haul cryf. Maent yn canolbwyntio pelydrau’r haul ar laswellt sych nes ei fod yn tanio.
Mae gollwng sigaréts yn achos cyffredin arall, oherwydd gallant danio dail sych ymhell ar ôl i rywun gerdded i ffwrdd.
Weithiau mae tanau’n cael eu cynnau’n fwriadol am hwyl, a all colli rheolaeth yn gyflym pan fydd y gwynt yn chwythu.

Effaith tanau gwyllt ar natur ac anifeiliaid
Mae’r cefn gwlad yn gartref i adar, draenogod, brogaod, a llawer o bryfed. Pan fydd tân yn symud ar draws y ddaear, mae’n gallu symud yn llawer cyflymach nag y gall yr anifeiliaid bach. Mae fflamau’n dinistrio eu nythod, eu ffynonellau bwyd, a’u llochesi mewn ychydig funudau yn unig.
Mae gan anifeiliaid gwyllt mwy reddf gref pan fyddant yn synhwyro mwg neu wres. Gall ceirw a llwynogod redeg yn gyflym iawn ac fel arfer maent yn dianc yn gynnar. Maent yn mynd tuag at ardaloedd mwy diogel, agored ymhell cyn i’r fflamau gyrraedd eu cartrefi.
Fodd bynnag, mae anifeiliaid fferm fel defaid a cheffylau yn aml wedi’u hamgáu gan ffensys, waliau cerrig, neu gatiau pren. Ni allant redeg i ffwrdd pan fydd perygl yn agosáu.
Mae’n gwbl naturiol i ti fod eisiau helpu anifeiliaid os wyt ti’n gweld tân. Fodd bynnag, mae ceisio achub bywyd gwyllt dy hun yn gosod ti mewn perygl difrifol. Yr opsiwn fwyaf diogel bob tro yw gadael yr ardal ar unwaith. Mae gan swyddogion tân offer a hyfforddiant arbennig i reoli’r sefyllfaoedd yma’n ddiogel ac maent yn ymwybodol o’r ffordd orau i achub yr anifeiliaid.

Diogelu dy hun rhag fflamau a mwg
Os wyt ti’n gweld tân allan o reolaeth, symud i le diogel yn syth, fel llwybr clir neu ffordd agored. Ffonia 999 ar unwaith fel gall y gwasanaethau brys gyrraedd y lleoliad yn gyflym. Dweud wrth y person ar y ffôn ble rwyt ti trwy ddefnyddio tirnodau, enwau ffyrdd cyfagos, neu adnodd fel What3Words. Mae cadw pellter yn rhoi digon o le i swyddogion tân weithio’n ddiogel.
Mae mwg tannau gwyllt yn cario darnau bach llosg o blanhigion, plastigau, ac ysbwriel sydd yn gallu achosi niwed i’r ysgyfaint. Mae anadlu mwg yn gallu achosi tagiad, dolur gwddf, a llygaid yn dyfrio. Gall waethygu anadlu i rywun sydd ag asthma neu gyflwr anadlu fel arall. Ceisia gael dan do cyn gynted â phosib i amddiffyn dy hun. Cau’r drysau a’r ffenestri i atal y mwg rhag dod i mewn i’r adeilad.
