Hide Page
Aerial view of the world

Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb

Mae’r blog yma yn edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro ymhell mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau’n agosach at adref, a sut i reoli’r poeni a ddaw gyda hyn.

Beth yw gwrthdaro?

Mae gwrthdaro yn air a ddefnyddir pan fydd gwledydd neu grwpiau yn anghytuno’n ddifrifol fel ei fod yn arwain at ymladd. Mae’n achosi llawer o boen i’r bobl sydd yn byw drwyddo. Mae llawer o bobl yn colli eu cartref, gelwir hyn yn dadleoli ac mae hynny’n golygu bod rhaid iddynt symud i lefydd newydd er mwyn cadw’n ddiogel. Mae llawer o straeon am bobl sydd wedi eu hanafu neu’n colli eu bywydau hefyd. Gall weld hyn ar y newyddion achosi rhywun i deimlo’n drist iawn a theimlo fel na allant wneud dim o gylch y peth.

Effaith tonnog y gwrthdaro

Gall deimlo’n frawychus iawn clywed am wrthdaro mewn rhannau eraill o’r byd. Hyd yn oed os yw’r gwrthdaro yma yn digwydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd, gallwn deimlo’r effeithiau tonnog o hyd. Meddylia am garreg yn cael ei thaflu i mewn i lyn – mae’r sblashis yn teithio llawer ymhellach na ble glaniodd y garreg.

Un ffordd y mae hyn yn digwydd yw trwy bwysau ariannol. Dyma pan fydd pethau’n costio mwy o arian nag yr oeddent cynt, fel ei bod yn anoddach i deuluoedd dalu am yr hyn sydd ei angen arnynt. Efallai byddi di’n sylwi bod pris tanwydd ar gyfer ceir yn codi, neu fod rhai bwydydd yn y siop yn anoddach i’w cael.

Gall y newidiadau yma effeithio ar dy gynlluniau hefyd. Efallai bydd gwyliau yn llawer drutach, neu awyrennau yn cael eu canslo gan nad yw’n ddiogel hedfan dros rai ardaloedd. Gall hyn fod yn siomedig os oeddet ti’n edrych ymlaen at wyliau.

Pan fydd prisiau’n codi, gall achosi llawer o straen gartref. Efallai y bydd rhieni neu ofalwyr yn poeni mwy am arian, ac efallai y byddi di’n teimlo’r tensiwn yma yn y tŷ. Mae’n bwysig gwybod bod y teimladau yma’n ymateb arferol i sefyllfa anodd ledled y byd.

A drop of water into a puddle

Yr effaith ar dy iechyd meddwl

Gall diweddariadau cyson am ryfel gael effaith ar dy iechyd meddwl a lles. Gall gweld fideos o ymladd ar gyfryngau cymdeithasol wneud i’r byd deimlo fel lle anniogel. Efallai dy fod di’n teimlo’n bryderus, yn ei gwneud hi’n anodd canolbwyntio yn yr ysgol neu fwynhau hobïau.

Weithiau, efallai byddi di’n teimlo blinder tosturi. Dyma pan fyddi di’n poeni cymaint am yr hyn sy’n digwydd i eraill nes dy fod di’n dechrau teimlo’n flinedig. Nid yw’n golygu nad wyt ti’n berson caredig – mae’n golygu bod yr ymennydd angen brêc o’r wybodaeth drwm. Mae’n iawn diffodd y newyddion a chanolbwyntio ar fywyd am ychydig. Mae gofalu am dy hun yn helpu ti i aros yn gryf i ofalu am eraill.

Darganfod dulliau ymdopi

Mae yna rai pethau gallet ti eu gwneud i deimlo ychydig mwy o reolaeth. Yn lle gwirio’r newyddion drwy’r dydd, ceisia edrych arno unwaith neu ddwywaith yn unig. Sicrha dy fod di’n cael dy wybodaeth o ffynonellau dibynadwy, yn hytrach na chyfrifon ar hap ar gyfryngau cymdeithasol yn unig.

Os wyt ti eisiau helpu, gallet ti edrych ar elusennau lleol sy’n anfon cymorth at y bobl sy’n cael eu heffeithio. Gall cymorth fod yn bethau fel bwyd, dillad, neu feddyginiaeth. Gall gwneud rhywbeth positif helpu ti i beidio teimlo fel nad oes dim gallet ti ei wneud.

Cofia, nid ti sy’n gyfrifol am drwsio problemau’r byd. Mae’n iawn parhau i wneud y pethau sy’n gwneud ti’n hapus, fel gweld ffrindiau neu barhau â hobïau. Gall glynu wrth drefn helpu ti i deimlo’n ddiogel pan fydd pethau’n teimlo’n ansicr.

Gall siarad am bryderon gyda ffrind neu oedolyn dibynadwy helpu hefyd. Yn aml, gall rhannu dy deimladau’n uchel wneud i bethau deimlo ychydig yn ysgafnach. Os wyt ti eisiau sgwrsio ond ddim yn siŵr at bwy i droi, siarada â Meic!

Mae Meic yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad at wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449