Mae rhai ardaloedd o Gymru yn wynebu risg o lifogydd, yn enwedig yn ystod y gaeaf. Wrth i ni nesáu at fisoedd gwlypach y flwyddyn, dyma rai awgrymiadau am sut i gadw dy hun yn ddiogel mewn llifogydd.
Pam bod llifogydd yn digwydd?
Mae llifogydd yn digwydd pan fydd glaw trwm yn disgyn mewn cyfnod byr o amser ac na all afonydd a nentydd ddraenio’r dŵr dros ben yn ddigon cyflym.
Mae newid hinsawdd yn golygu bod llifogydd yn digwydd yn fwy aml ond paid â phoeni – mae Llywodraeth Cymru yn gwario miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac mae pethau y gallet ti eu gwneud i baratoi ac i gadw dy hun yn ddiogel.
Pa ardaloedd o Gymru sy’n wynebu risg o lifogydd?
Mae ardaloedd yng Nghymru sy’n agos at yr arfordir, afonydd, neu gronfeydd dŵr yn wynebu’r risg uchaf o lifogydd. Gallet ti nodi dy god post yma i wirio’r risg o lifogydd yn dy ardal.

Sut i baratoi ar gyfer llifogydd
1. Gwiria dy risg o lifogydd
Gallet ti ddefnyddio’r adnoddau yma gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru i ffeindio allan os ydy dy ardal yn wynebu risg o lifogydd. Gallet ti hefyd setio lan rhybuddion llifogydd er mwyn derbyn rhybudd os ydyn nhw’n credu bod dy ardal yn debygol o lifo.
2. Ysgrifenna gynllun llifogydd
Rho gynllun yn ei le am beth fyddet ti’n ei wneud os yw dy gartref yn llifo, ysgrifenna e lawr, a’i rannu gyda ffrindiau a theulu fel eu bod nhw’n gwybod beth i wneud. Os wyt ti’n byw mewn tŷ dwy lawr, arhosa i fyny’r grisiau yn ddiogel o’r dŵr llifogydd. Os wyt ti’n byw mewn byngalo neu fflat ar y llawr gwaelod, dylet ti drefnu rhywle arall i fynd iddo ac aros yno nes bod y llifogydd drosodd.
3. Storia eitemau gwerthfawr a teimladol yn uchel
Os wyt ti’n byw mewn ardal risg-uchel, mae’n ddoeth cadw unrhyw beth nad wyt ti eisiau ei golli mewn man uchel trwy gydol y flwyddyn, fel ar ben cwpwrdd neu silff lyfrau. Fel hyn, ni fydd angen i ti boeni am eu symud os bydd llifogydd.

4. Cadw anifeiliaid anwes yn ddiogel
Mae llifogydd yn beryglus i anifeiliaid yn ogystal â phobl! Gwna’n siŵr dy fod yn mynd â dy anifeiliaid anwes gyda thi os bydd rhaid i ti wacáu (gadael adref am gyfnod i fynd i rywle mwy diogel), neu cadwa nhw i fyny’r grisiau, i ddiogel o’r dŵr. Mae gan y RSPCA ganllaw ar sut i gadw anifeiliaid yn ddiogel yn ystod llifogydd.
5. Pacio pecyn llifogydd
Dylet baratoi bag o eitemau hanfodol i fynd gyda ti os oes rhaid i ti wacáu, a bydd yn siŵr bod ti a’r bobl rwyt ti’n byw gyda nhw yn gwybod lle mae o. Dylai cynnwys pethau fel:
- Dogfennau pwysig (fel dogfennau adnabod a yswiriant cartref, os oes gen ti nhw)
- Ffôn, gwefrydd, a phecyn batri
- Tortsh
- Dillad cynnes, gwrth-ddŵr, menig rwber, mwgwd wyneb, ac esgidiau glaw
- Pecyn cymorth cyntaf
- Unrhyw feddyginiaeth bresgripsiwn sydd ei hangen arnat ti
- Cyflenwadau anifeiliaid anwes os oes gen ti rai
- Rhestr o rifau ffôn pwysig, rhag ofn bod dy ffôn yn cael ei golli neu ei ddifrodi (gan gynnwys Floodline, sydd ar agor 24/7 – 0345 988 1188)

6. Diffodd y nwy, y trydan a’r dŵr
Am resymau diogelwch, dylet ti ddiffodd dy gyflenwadau nwy, dŵr, a thrydan yn ystod lifogydd.
- Mae falf y nwy fel arfer wrth ymyl y mesurydd nwy
- Mae prif switsh y trydan fel arfer yn switsh coch ar y blwch ffiwsiau
- Mae falf cau’r dŵr fel arfer o dan sinc y gegin neu lle mae’r bibell ddŵr yn dod i mewn i’r tŷ
Os wyt ti’n ansicr sut i wneud hyn, gallet ti gysylltu â dy gyflenwr ynni am gymorth.
7. Osgoi cysylltiad â dŵr llifogydd
Nid yw dŵr llifogydd yn ddiogel. Fel arfer, mae wedi’i halogi gan bethau fel carthion, cemegau a baw anifeiliaid. Wrth lanhau ar ôl llifogydd, dylet wisgo menig a dillad amddiffynnol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor ar sut i gadw’n ddiogel ac yn iach yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Llifogydd ac Iechyd Meddwl
Gall llifogydd fod yn brofiad trawmatig. Gall y llifogydd eu hunain, yn ogystal â’r gwaith glanhau sy’n dilyn, achosi straen a phryder. Wrth lanhau, cymera egwyl os yw’r sefyllfa’n teimlo’n ormod i’w hwynebu, a gwna’n siŵr i droi at ffrindiau ac anwyliaid am gymorth.
Os wyt ti’n poeni am lifogydd neu’n teimlo’n ofidus oherwydd eu heffaith, mae Meic yma i ti.
Cysyllta â ni am ddim i gael cyngor a gwasanaeth eirioli cyfrinachol.
