Pan fydd gen ti gymaint o wythnosau rhydd o dy flaen, hawdd yw treulio oriau yn sgrolio’r ffôn neu’n chwarae gemau.
Mae treulio amser ar-lein yn hwyl ac yn ymlacio, yn enwedig pan nad oes rhaid i ti boeni am ysgol neu goleg. Fodd bynnag, weithiau gall gormod o amser o flaen y sgrin achosi ti i deimlo’n flinedig neu’n ddiog. Gall ychydig o gydbwysedd iach helpu ti i deimlo’n well a mwynhau’r haf.
Sylwi ar yr arwyddion
Gall fod yn ddefnyddiol sylwi ar y ffordd rwyt ti’n teimlo ar ôl defnyddio dyfeisiau am gyfnod. Efallai bod y llygaid yn teimlo braidd yn sych, neu’r gwddf yn teimlo’n stiff ar ôl eistedd yn yr un lle. Weithiau, gall treulio amser hir ar-lein gael effaith ar dy hwyliau, gan wneud i ti deimlo braidd yn aflonydd neu’n flin. Sylwa ar dy gorff a’r ffordd rwyt ti’n teimlo wrth ddefnyddio dy ffôn, tabled neu gonsol. Os wyt ti’n sylwi dy fod di’n teimlo’n flinedig, efallai ei bod hi’n amser da i roi’r ddyfais i lawr am ychydig. Mae cymryd seibiannau byr rheolaidd yn rhoi cyfle i’r meddwl a’r corff adfywio.

Creu cynllun bras
Yn ystod tymor yr ysgol, mae gen ti drefn glir i’r diwrnod sy’n cadw ti’n brysur. Pan fydd y gwyliau’n dechrau, mae’r drefn honno’n diflannu, ac mae’n hawdd treulio’r holl amser ar ddyfeisiau. Nid oes rhaid i ti gynllunio pob munud o’r diwrnod, ond gall helpu i gael ychydig o syniadau am bethau eraill i’w gwneud sydd ddim yn cynnwys sgrin. Gallai hyn fod yn rhywbeth syml fel chwarae yn yr awyr agored, rhoi cynnig ar goginio rysáit newydd, neu gyfarfod â ffrind. Mae cael cymysgedd o wahanol weithgareddau yn gwneud i’r gwyliau deimlo’n hirach ac yn fwy cyffrous.
Newid dy amgylchedd
Weithiau rydym yn codi’r ffôn am ei fod yno wrth ein hochr, mae’n hawdd! Byddai gwneud newidiadau bach i dy amgylchedd yn ei gwneud hi’n haws cymryd seibiant oddi wrth dechnoleg. Ceisia gadael y ffôn mewn ystafell arall pan fyddi di’n eistedd i fwyta pryd o fwyd. Gall gwefru dyfais ymhell o’r gwely hefyd helpu i gael noson o gwsg gwell. Os nad wyt ti’n gweld y ffôn y peth cyntaf wrth ddeffro, efallai byddi di’n naturiol yn meddwl am bethau eraill i’w gwneud.

Cysylltu mewn ffyrdd gwahanol
Mae sgyrsiau grŵp a chyfryngau cymdeithasol yn wych i gadw cysylltiad â phobl yn yr haf. Er bod rhannu memes a diweddariadau yn ffordd dda i gadw cysylltiad, gall newid pethau ychydig fod yn braf hefyd. Gallet ti awgrymu cwrdd yn y parc lleol, mynd am dro, neu fynd i weld digwyddiad lleol gyda’ch gilydd. Mae gwneud pethau wyneb yn wyneb yn helpu ti i greu bob math o atgofion gyda ffrindiau. Os yw dy ffrindiau’n byw yn bell, beth am gael galwad ffôn neu sgwrs fideo a gwneud rhywbeth wrth siarad, fel LEGO neu beintio?
Bydda’n garedig i ti dy hun
Nid oes swm perffaith o amser sgrin, a bydd pob diwrnod o’r gwyliau yn wahanol. Ar rai diwrnodau, efallai y byddi di’n treulio llawer o amser yn chwarae gemau, ac mae hynny’n hollol iawn. Y nod yw cael cydbwysedd sy’n gwneud i ti deimlo’n hapus ac yn iach.
Os wyt ti’n teimlo bod y sgrin yn gwneud i ti deimlo’n isel neu dan straen, gallet ti siarad â rhywun. Gall helpu ti i ddeall pethau wrth rannu dy deimladau gyda ffrind, aelod o’r teulu, neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Cofia, mae Meic yma i siarad bob dydd.
