Hide Page
Person looking at time on watch

Sut i Greu Rŵtin i Helpu Dy Iechyd Meddwl

Mae creu rŵtin i dy iechyd meddwl yn edrych ar sut gall arferion dyddiol syml dy wreiddio, lleihau straen, a rhoi teimlad o reolaeth i ti pan fydd bywyd yn teimlo’n ormod.

Pam bod rŵtin yn bwysig?

Pan fydd bywyd yn brysur, yn llawn straen, neu’n anrhagweladwy, mae’n gallu cael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl. Er enghraifft, efallai byddi di’n teimlo’n bryderus am arholiadau yn yr ysgol, neu mae shifftiau gwaith yn llethol.


Mae cael rŵtin dyddiol syml yn debyg iawn i angor, daw ag ychydig o strwythur i’r diwrnod fel nad wyt ti’n gwastraffu amser yn penderfynu beth i’w wneud nesaf. Mae deall yn union yr hyn rwyt ti’n ei wneud ar adegau penodol o’r dydd yn gallu lleihau lefelau straen a rhoi teimlad o reolaeth i ti?

Y trap o geisio newid popeth

Y camgymeriad mwyaf pan ddaw at greu rŵtin ydy newid dy fywyd yn gyfan gwbl dros nos. Dweud byddi di’n deffro am 5yb, yfed dau litr o ddŵr, ymarfer corff am awr, darllen llyfr, a stopio defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfan gwbl.

Bydd hyn yn para am ryw ddau ddiwrnod nes i ti flino ar yr holl beth, yna rwyt ti’n rhoi’r ffidl yn y to sy’n gwneud i ti deimlo’n waeth.

I gadw rheolaeth, y peth gorau i wneud yw cychwyn yn fach. Ychwanega un neu ddau arfer bach newydd i’r dydd. Unwaith y byddant yn teimlo’n naturiol, yna ychwanega un arall.

Glass of water

Rŵtin y bore

Mae’r ffordd rwyt ti’n cychwyn y diwrnod yn gosod dy hwyliau am weddill y dydd!

Rho 10 munud i ddeffro cyn edrych ar y ffôn. Mae edrych ar negeseuon, newyddion, neu gyfryngau cymdeithasol yn syth yn llenwi dy ymennydd â straen cyn i ti godi o’r gwely hyd yn oed.

Ceisia edrych trwy’r ffenestr neu gamu tu allan am ychydig funudau. Bydd golau dydd naturiol yn gyrru neges i’r ymennydd ei bod yn amser deffro, gan roi hwb naturiol i fywiogrwydd a hwyliau.

Cychwynna arfer newydd i yfed gwydriad o ddŵr peth cyntaf. Pan fyddi di’n cysgu, mae’r corff yn mynd oriau heb ddŵr, mae ail-hydradu yn helpu i glirio niwl ymennydd y bore.

Rŵtin y pnawn

Erbyn canol y pnawn, mae’n hawdd rhedeg allan o stêm, teimlo’n ddiog, ac yn sownd mewn cylch o gorfeddwl. Mae rhannu’r diwrnod yn rhoi cyfle i’r ymennydd ailosod, ail-ganolbwyntio, ac i waredu ar unrhyw densiwn.

Ceisia fynd am dro byr yn yr awyr agored, symudiadau syml i ymestyn y corff yn dy ystafell wely, neu wrando ar dy hoff gân a symud ychydig. Bydd 10-15 munud o weithgaredd corfforol yn rhyddhau endorffinau sydd yn clirio’r meddwl ac yn codi tymer isel.

Cymera frêc 5 munud i ffwrdd o’r ddesg, gliniadur, neu ffôn. Mae rhoi saib i’r llygaid a’r meddwl rhag gwybodaeth gyson yn helpu i leihau pryder a blinder ymennydd.

Walking

Rŵtin y nos

Mae rŵtin da ar gyfer y nos yn ymwneud â dweud wrth yr ymennydd ei bod yn ddiogel i beidio poeni, i adael i’r diwrnod fynd, ac i orffwys o’r diwedd. Mae paratoi’r meddwl i orffwys yn helpu ti i gael noson o gwsg o ansawdd gwell sydd yn helpu gyda lles meddyliol.

Ceisia ddod i’r arfer o wefru’r ffôn ochr arall yr ystafell yn hytrach nag wrth ochr y gwely. Mae hyn yn helpu i beidio sgrolio yn ddifeddwl yn hwyr yn y nos, sydd yn blocio’r hormonau cwsg mae’r ymennydd ei angen i deimlo wedi gorffwyso.

Os yw’r ymennydd yn rasio unwaith mae’r pen yn cyffwrdd y glustog, noda rhestr o unrhyw beth sydd yn achosi straen neu’r pethau rwyt ti angen eu gwneud yfory. Mae rhoi’r pethau yma ar bapur yn helpu i waredu’r meddyliau fel nad oes rhaid i’r ymennydd geisio cofio popeth.

Ceisia ddod i’r arfer o bacio bag neu ddewis dillad y noson cynt. Mae dileu’r dewisiadau boreol yma yn golygu nad oes rhaid rhuthro, gallet ti ddeffro mewn amgylchedd llawer fwy tawel.

Sgwrsia amdano

Os wyt ti’n dioddef gyda thymer isel, teimlo’n bryderus, neu mae’n anodd codi o’r gwely i gychwyn rŵtin hyd yn oed, nid oes rhaid i ti ddioddef ar ben dy hun. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449