Hide Page
Sun glaring out from a blue sky

10 Tip i Fod yn Ddiogel yn yr Haul

Ffyrdd syml i fod yn ofalus yn y tywydd poeth er mwyn gallu mwynhau’r haf yn ddiogel.

1. Dewis eli haul

Nid yw pob eli haul yn cael ei greu’n gyfartal. Yr opsiwn orau i amddiffyn y croen rhag yr haul yw gwisgo eli haul SPF uchel sydd yn amddiffyn rhag pelydrau UVA a UVB. Rhwbia’r eli ar y croen tua 20 munud cyn i ti fynd allan i’r haul er mwyn rhoi amser iddo weithio. Cofia ail roi’r eli bob 2 awr fel ei fod yn parhau i amddiffyn dy groen. Mae angen gwneud hyn yn fwy aml byth os wyt ti i mewn ac allan o’r dŵr.

2. Sbectol haul cywir

Yn union fel y croen, mae’r llygaid angen amddiffyniad rhag yr haul llachar hefyd. Er bod gen ti sbectols sy’n edrych yn cŵl, efallai nad ydynt yn amddiffyn rhag y golau cryf iawn sy’n gallu achosi niwed i’r llygaid dros gyfnod. Chwilia am sbectol haul gyda label UV400 neu farc CE sy’n sicrhau eu bod yn amddiffyn dy lygaid rhag yr haul yn iawn. Mae gwisgo sbectol iawn yn caniatáu i ti weld yn gyfforddus heb orfod rhythu’r llygaid drwy’r dydd.

Sunhat and sunglasses on pebble beach

3. Gwisgo het haul

Pan fydd yr haul yn disgleirio yn syth ar dop y pen, mae’n gallu achosi rhywun i deimlo’n benysgafn a gorboethi’n sydyn iawn. Mae gwisgo het haul, fel cap pêl-fas neu het bwced, yn creu man bach o gysgod personol. Mae’n cadw’r haul cryf i ffwrdd o’r wyneb, clustiau a chefn y gwddf.

4. Gorchuddio’r ysgwyddau

Mae’r ysgwyddau yn wynebu’n syth i’r awyr, felly dyma un o’r llefydd hawsaf i losgi’n ddrwg. Mae rhoi top ysgafn ymlaen dros fest yn ffordd sydyn i atal y pelydrau UV niweidiol. Cofia hyn os wyt ti’n mynd i nofio yn yr awyr agored yn enwedig, gan fod y dŵr yn adlewyrchu’r haul ac yn cynyddu’r risg o losgi.

5. Yfed sipiau bach o ddŵr

Mae’r corff yn colli dŵr drwy’r adeg pan fydd yn boeth tu allan wrth i ti chwysu, hyd yn oed pan fyddi di ddim yn gwneud llawer. Mae yfed dŵr yn ystod y dydd yn cadw lefel egni yn uwch ac yn atal cur pen. Cadwa fotel dŵr gellir ei ailenwi a chymryd sip bach yn aml cyn i ti ddechrau teimlo’n sychedig. Mae dŵr plaen neu gordial yn llawer gwell i hydradu’r corff nag diodydd pefriog llawn siwgr.

Shady trees in a green park

6. Chwilio am gysgod

Nid oes rhaid cuddio dan do, ond gall ceisio cadw draw o’r haul cymaint â phosib helpu. Chwilia am le cysgodol dan goeden neu ymbarél haul i gael seibiant o’r gwres poeth. Ceisia aros yn y cysgod yng nghyfnodau poethaf y dydd, rhwng 11yb a 3yp fel arfer.

7. Pacio ffan llaw

Gall ffan fach llaw helpu i gadw ychydig yn fwy oer ar ddiwrnodau poeth wrth anweddu’r chwys o’r croen. Mae’r broses yma’n helpu’r corff i oeri’n gyflymach. Gall chwistrellu ychydig o ddŵr ar y wyneb cyn defnyddio’r ffan oeri pethau hyd yn oed mwy!

8. Bod yn ofalus gydag alcohol

Os wyt ti’n ddigon hen i yfed, efallai bod diod alcoholig oer yn yr haul yn swnio’n berffaith i ymlacio. Ond, mae alcohol yn gorfodi’r corff i golli dŵr yn llawer cyflymach nag arfer, a gall arwain at ddadhydradu. Mae’n anoddach hefyd i sylweddoli pan fydd y corff ar dân neu’n mynd yn rhy boeth. Cyfnewidia bob yn ail ddiod am wydriad o ddŵr i gadw lefelau hylif yn uchel a chadw’n ddiogel.

Two children playing in the shallow end of the sea

9. Osgoi sioc dŵr oer

Efallai bod y syniad o neidio i afon, llyn, neu’r môr yn swnio fel ffordd berffaith i oeri pan fyddi di ar dân. Ond gall dŵr agored yng Nghymru aros yn oer iawn trwy’r flwyddyn, hyd yn oed mewn gwres mawr. Mae neidio yn syth i’r dŵr yn gallu achosi sioc dŵr oer, sy’n gwneud i’r corff i anadlu’n ddofn i geisio cael aer ac gall hyn fod yn beryglus iawn. Cerdda i’r dŵr yn araf a gadael i’r corff addasu i’r tymheredd yn ddiogel.

10. Deall arwyddion trawiad haul

Mae’n beth da deall pan fydd y corff yn dweud wrthyt ti gymryd brêc o’r gwres. Mae teimlo’n benysgafn, cael cur pen sydyn iawn, neu deimlo’n sâl, yn arwydd clir dy fod di wedi cael gormod o haul. Os wyt ti neu ffrind yn dechrau teimlo fel hyn, cer i ystafell oer neu rho dywel gwlyb ar y croen i geisio gostwng tymheredd y corff yn ôl i dymheredd diogel.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449