Hide Page
Two friends talking, but one is ignoring the other

Siarad am Wleidyddiaeth gyda Ffrindiau

Sut i ymdrin â gwahanol farnau gwleidyddol heb ddifetha perthynas gyda ffrind

Wrth i’r etholiad agosáu, efallai y byddi di’n siarad am wleidyddiaeth yn amlach. Mae’n gyffredin i ffrindiau drafod pwy maen nhw’n bwriadu pleidleisio amdanynt neu beth maen nhw’n ei feddwl am faterion cyfredol. Weithiau, mae’r sgyrsiau yma’n hawdd ac yn ddiddorol. Ond weithiau, gall pethau boethi, yn enwedig os nad ydych yn cytuno ar bethau. 

Mae’n iawn teimlo’n angerddol am dy farn, ond mae hefyd yn bwysig amddiffyn perthynas sy’n bwysig i ti.

Ffurfio barn dy hun

Efallai byddi di’n sylwi bod dy ffrindiau’n siarad lot am eu dewisiadau nhw, neu’r hyn maent wedi’i glywed ar-lein. Mae’n iawn gwrando arnyn nhw, ond paid â theimlo dan bwysau i gytuno am mai dyma yw eu barn nhw. Ti sy’n berchen ar dy bleidlais, a dylai adlewyrchu’r hyn rwyt ti wir yn credu.

Treulia ychydig o amser yn meddwl am wahanol faterion ar ben dy hun. Cofia, mae’n iawn i ti gael barn wahanol i dy ffrindiau. Nid oes rhaid i chi bleidleisio am yr un blaid.

Teen boy thinking

Cadw sgyrsiau’n barchus

Os yw sgwrs am wleidyddiaeth yn dechrau teimlo’n annifyr, cofia nad oes rhai i ti ennill y ddadl. Fedri di dal aros yn ffrindiau gyda rhywun rwyt ti’n anghytuno â nhw! Os bydd pethau’n dechrau poethi, paid ofni newid y pwnc. Gallet ti ddweud, “Dwi’n meddwl bod ni’n gweld hyn yn wahanol, well gen i siarad am rywbeth arall ar hyn o bryd.”

Pam y gall ffrindiau gael safbwyntiau gwahanol

Mae gan bobl brofiadau bywyd gwahanol, ac mae hynny’n llunio sut maen nhw’n gweld y byd. Nid yw’r ffaith bod ffrind yn cefnogi plaid wahanol yn golygu eu bod nhw’n anghywir, neu dy fod di’n anghywir. Ceisia wrando a dod i ddeall eu safbwynt yn hytrach nag aros am dy dro di i ddadlau.

Os wyt ti eisiau deall yn well, gofynna iddyn nhw pam maen nhw’n teimlo felly. Gall dysgu mwy am eich gilydd helpu creu perthynas cryfach.

Gwybod pryd i gymryd cam yn ôl

Er bod anghytuno yn normal, ni ddylet ti deimlo amarch neu’n anniogel yng nghwmni ffrind. Os yw sgwrs yn teimlo fel ei bod yn troi o ddadl i ymosodiadau personol, mae’n bryd stopio.

Mae’n iawn i ti osod ffin a dweud nad wyt ti eisiau parhau i siarad am wleidyddiaeth gyda’r person hwnnw. Mae’n gyfle i ddod o hyd i dir cyffredin ar bethau sy’n bwysig i’r ddau ohonoch chi. Os yw rhywun yn anwybyddu dy ffiniau’n gyson neu’n ceisio gorfodi eu barn arnat ti, efallai y byddai’n werth meddwl a yw’r perthynas hwnnw’n dal i fod yn un positif i ti.

3 friends all talking together over dinner

Canolbwyntia ar yr hyn rwyt ti’n rhannu

Ar ddiwedd y dydd, mae’n debyg nad y blaid maen nhw’n pleidleisio drostynt yw’r rheswm pam y daethoch chi’n ffrindiau. Ceisia ganolbwyntio ar y pethau rydych chi’ch dau yn mwynhau, fel hobïau neu atgofion a rennir, yn hytrach na’r pethau rydych chi’n anghytuno arnynt.

Beth os na fedri di anwybyddu’r peth?

Weithiau, mae anghytundeb yn llawer dyfnach nag gwahaniaeth barn yn unig. Os yw barn dy ffrind yn dy frifo di, neu os ydyn nhw’n anghytuno â dy werthoedd craidd neu bwy wyt ti fel person, mae’n iawn i ti sylweddoli efallai na fyddwch chi’n cytuno. Nid oes rhaid i ti orfodi perthynas os yw’n gwneud i ti deimlo anghyfforddus neu fel dy fod di’n cael dy amharchu.

Mae’n iach cymryd cam yn ôl a chreu rhywfaint o ofod rhyngoch. Os yw’n dechrau cael effaith ar dy iechyd meddwl gallet ti ddewis camu i ffwrdd o’r sgyrsiau hynny, neu o’r perthynas ei hun hyd yn oed. Dy les di sy’n dod gyntaf, ac nid yw’n orfodol i ti gadw perthynas sydd yn gwneud i ti deimlo’n ddrwg am dy hun neu dy werthoedd.

Angen siarad? Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru. Rydym yn cynnig cefnogaeth ar bob math o bynciau, ac mae ein gwefan yn llawn blogiau a gwybodaeth ddefnyddiol ar faterion sy’n bwysig i ti. Ymwela â’n hadran bleidleisio am ragor o arweiniad i leisio dy farn, neu’n hadran ffrindiau.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449