Hide Page
Young person with the transgender banner

Beth i’w Wneud os yw dy Bartner yn Dod Allan yn Drawsryweddol

Mae dysgu bod dy bartner yn drawsryweddol yn gallu gwneud i ti deimlo cymysgedd o emosiynau. Gall wneud i ti deimlo cariad, teimlo’n ddryslyd a theimlo’n ansicr. Felly, beth nesaf?

Cydnabod dy deimladau

Mae’n iawn cael teimladau a cwestiynau dy hun. Mae am gymryd amser i ti addasu hefyd. Rho amser i dy hun i brosesu dy emosiynau.

Mae posib bod teimladau tuag atynt yn newid. Mae hyn yn brofiad normal a dilys. Mae hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol yn gymhleth, ac mae profi trawsnewidiad dy bartner yn gallu newid sut ti’n teimlo amdanynt. Bydda’n onest gyda dy hun am dy deimladau, a rho amser i dy hun i brosesu nhw.

Mae’n iawn os ydych chi’n teimlo’n wahanol am eich gilydd. Os yw hynny’n digwydd, mae’n bwysig eich bod yn parhau i drin eich gilydd gyda pharch ac empathi.

Trans flag waving in the wind

Creu gofod diogel

Mae dy bartner wedi rhannu rhywbeth personol iawn. Dyma’r amser i greu gofod diogel, heb feirniadaeth. Gad iddyn nhw arwain y sgwrs a rho amser iddyn nhw fynegi eu teimladau a’u profiadau heb dorri ar draws. Gad iddyn nhw wybod dy fod yn gwrando a bod eu teimladau yn ddilys.

Gwrando

Gwranda’n astud ar beth mae dy bartner yn ddweud, ar lafar ac yn ddi-eiriau. Tala sylw i dôn eu llais ac iaith eu corff. Dangosa empathi a dealltwriaeth.

Dysga am hunaniaethau trawsryweddol

Efallai hoffet ti ddysgu mwy am faterion trawsryweddol i geisio deall profiad dy bartner yn well ac i osgoi unrhyw ragdybiaethau neu stereoteipio. Ymchwilia ffynonellau dibynadwy fel Umbrella Cymru.

Two people holding hands, wrapped in a trans flag

Parchu eu hunaniaeth

Parcha eu henw dewisol a’u rhagenwau, hyd yn oed mewn sgyrsiau preifat. Os wyt ti’n gwneud camgymeriad, cywira dy hun a symud ymlaen.

Bydd yn amyneddgar

Mae trawsnewid yn broses, nid yw’n ddigwyddiad. Bydd cyfnodau da a chyfnodau anodd, i’r ddau ohonoch chi. Bydd yn amyneddgar gyda dy bartner a ti dy hun. Rho amser i addasu a dysgu.

Three people hugging with trans tattoo

Parchu eu dewis

Mae trawsnewid yn beth personol iawn, ond mewn perthynas gall gael effaith ar y ddau ohonoch. Mae bod yn bartner cefnogol yn golygu cerdded ochr yn ochr â dy bartner wrth ddeall hefyd bod y ddau ohonoch yn ceisio addasu i’r bennod newydd hon gyda’ch gilydd. Gallet ti ofyn i dy bartner am y ffordd y maen nhw’n teimlo gallet ti eu cefnogi orau trwy’r trawsnewid cymdeithasol a meddygol yma, a rhannu sut yr hoffet ti gael dy gefnogi hefyd.

Bydd yn gyfaill

Bydd yn gefn i dy bartner yn erbyn gwahaniaethu a rhagfarn. Eiriola drostyn nhw mewn gofodau ble byddant yn teimlo’n fregus. Efallai bydd hyn yn golygu cywiro eraill am eu rhagenwau nhw neu herio sylwadau trawsffobig.

Trans flag

Chwilio am gymorth

Ystyria chwilio am gymorth, yn unigol neu fel cwpl. Mae siarad gyda rhywun proffesiynol yn creu gofod diogel i chi brosesu eich teimladau a datblygu ffyrdd o ymdopi. Mae grwpiau cefnogaeth ar gyfer partneriaid pobl drawsryweddol yn gallu bod yn gymuned ddefnyddiol i rannu profiadau.

Siarada â Meic, llinell gymorth sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth yn rhad ac am ddim yng Nghymru. Rydym yn cynnig cymorth cyfrinachol a dienw ar y ffôn, neges WhatsApp, tecst, a sgwrs ar-lein.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449