Hide Page
Spooky hands creeping towards sad girl sitting on floor. Depressed teenager scared of abuse

Grŵmio a Chamdrin Rhywiol: Pobl yn Defnyddio’u Henwogrwydd a Phŵer

Efallai dy fod di wedi gweld straeon yn y newyddion yn ddiweddar am ddynion enwog yn defnyddio’u statws uchel i gamdrin merched ifanc. Dyma beth i wneud os wyt ti wedi aflonyddu, neu os wyt ti’n poeni am ymddygiad rhywun.

Weithiau, mae pobl sydd yn bwerus neu gyda statws uchel yn defnyddio’u dylanwad i gamdrin pobl sydd â llai o bŵer. Yn ddiweddar, mae’r newyddion wedi bod yn llawn straeon am ddynion enwog sydd wedi’u cyhuddo o wneud hynny.

Efallai bod y straeon yma wedi dy aflonyddu di, neu wedi gwneud i ti feddwl ddwywaith am ymddygiad oedolyn ti’n nabod. Mae’n normal i deimlo’n ofidus oherwydd y pethau yma. Cymera gam i ffwrdd o gyfryngau cymdeithasol os ydy’r newyddion yn teimlo’n ormod.

Dyma beth i wybod am grŵmio a chamdrin rhywiol, a lle i droi am gymorth. 

Beth yw grŵmio?

Mae grŵmio yn digwydd pan fydd oedolyn yn meithrin perthynas gyda phlentyn neu berson ifanc ac yn ennill eu hymddiriedolaeth er mwyn eu camdrin neu eu hecsploetio. Gall ddigwydd ar-lein neu wyneb i wyneb.

Nid enwogion yn unig sy’n gallu grŵmio pobl. Gall unrhyw un sydd ag ymddiriedaeth neu awdurdod gamddefnyddio ei ddylanwad i fanteisio ar bobl ifanc. Nid merched yn unig sy’n cael eu targedu – gall unrhyw un o unrhyw ryw fod yn ddioddefwr grŵmio. 

Nid oes rhaid i oedolyn fod â phŵer ac awdurdod i  grŵmio pobl ifanc. Weithiau gall bwlch oedran mawr greu cydbwysedd pŵer sydd ddim yn iach. Efallai bydd yr oedolyn yn prynu anrhegion i ti (weithiau alcohol neu gyffuriau), yn mynd a ti ar dripiau, yn rhoi lot o ganmoliaethau a sylw i ti, ac yn cynnig cyngor a dealltwriaeth. Gallet ti deimlo fel bod nhw’n trin ti’n wahanol i oedolion eraill ac yn dy ddeall yn well. 

Byddent yn gwneud i ti deimlo’n arbennig ac yn dy drin fel petai ti’n hŷn nag yr wyt ti mewn gwirionedd. Efallai byddent yn dweud “ti’n aeddfed am dy oedran” neu “ti’n wahanol i ferched arall yr un oed”. Neu efallai byddent yn defnyddio seicoleg wrthol a dweud pethau fel “dwi’n meddwl bod ti’n rhy ifanc”. Mae hyn yn gwneud i ti eisiau profi dy hun iddynt. 

Unwaith iddynt ennill dy ymddiriedolaeth, byddent yn aml yn dy arwahanu o dy ffrindiau a theulu. Efallai bod nhw’n annog ti i gadw cyfrinachau, ac yn gwneud i ti feddwl mai nhw yw’r unig berson gallet ti siarad gyda. Os wyt ti’n credu dy fod di mewn perthynas cariadol gyda nhw, yna rwyt ti’n meddwl dy fod di’n  bradychu nhw os wyt ti’n dweud wrth unrhyw un beth sy’n digwydd. 

Pan fydd person ifanc mewn perthynas gyda rhywun sydd llawer hŷn, mae’n achos pryder. Os wyt ti neu berson ifanc ti’n nabod mewn perthynas gydag oedolyn, dylet ti siarad gydag oedolyn dibynadwy fel rhiant, athro, neu weithiwr ieuenctid a dweud wrthynt beth sy’n digwydd. Gallet ti hefyd gysylltu â llinell gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000 i gael cyngor.

Beth ddyweda’r gyfraith?

Ni all person sydd o dan 16 mlwydd oed roi caniatâd i gael rhyw. 

Er bod y gyfraith yn gyffredinol yn ystyried bod person o dan 18 yn blentyn, yn bresennol mae’n gyfreithlon i oedolyn i gael rhyw gyda rhywun sy’n 16-17. 

Mae straeon diweddar yn y newyddion wedi annog sgwrs ehangach am “cau’r gwagle caniatâd”. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried newid yr oedran caniatâd i olygu bod hi’n gyfreithlon i bobl yn eu harddegau i gael rhyw gyda’i gilydd, ond eu bod nhw wedi’u hamddiffyn o gamdriniaeth gan oedolion. 

Ond cofia, trosedd yw grŵmio a chamdrin rhywiol bob tro, beth bynnag yw dy oedran. 

Supporting human hand helping sad woman flat vector illustration. Cartoon lonely lady sitting and hugging knees.

Dweud Wrth Rywun am Gamdriniaeth 

Os wyt ti wedi cael dy gamdrin, gall siarad am y peth godi ofn. Efallai dy fod yn teimlo euogrwydd, cywilydd, neu’n poeni bod pobl ddim yn dy gredu. Mae’n hollol normal i deimlo’r ffordd yma ond cofia – doedd dim bai arnat ti am beth ddigwyddodd a doeddet ti ddim yn haeddu hyn. Does neb yn haeddu cael ei gamdrin.

Os wyt ti mewn perygl, galwa 999. I adrodd camdriniaeth i’r heddlu, galwa 101. Gallet ti hefyd alw Crimestoppers yn anhysbys ar-lein neu trwy alw 0800 555 111. 

Dyma rhai gwasanaethau eraill gallet ti gysylltu i gael cyngor gan arbenigwyr proffesiynol: 

  • NSPCC Camdriniaeth Rywiol: Gwybodaeth am gamdriniaeth rywiol plant, sut i adnabod ef, a sut i gefnogi plentyn sydd wedi dioddef
  • Byw Heb Ofn: Llinell gymorth 24/7 ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy’n profi trais neu gamdriniaeth rywiol. Gallet ti alw nhw unrhyw amser ar 0808 8010 800, tecstio 0786007733, neu sgwrsio ar-lein ar eu gwefan
  • Cymorth i Ferched Cymru: Elusen yng Nghymru sy’n gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn merched a menywod
  • Galop: Elusen gwrth-gamdriniaeth sy’n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr trais a chamdriniaeth sy’n LHDT+ 
  • Survivors UK: Elusen sy’n cynnig cwnsela i fechgyn a phobl traws neu anneuaidd sydd wedi goroesi trais neu gamdriniaeth rywiol 
  • Rape Crisis: Gwybodaeth arbenigol i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan drais, aflonyddwch rhywiol, a phob math o gamdriniaeth rywiol 

Gallet ti hefyd gysylltu â Meic i siarad gyda’n cynghorwyr am ddim. Byddent yn cynnig gwybodaeth a chyngor heb farnu. 

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

Croeso i Meic!
Cymraeg
Welcome to Meic!
English