Hide Page
Healthy relationships

Perthynas Iach neu Berthynas Gwael?

Arwyddion o berthynas da, y rhybuddion sy’n werth rhoi sylw iddynt, a beth allet ti wneud os nad wyt ti’n hapus.

Gall perthnasoedd newid dros amser

Mae pob perthynas yn wahanol. Bydd rhai yn teimlo’n grêt rhan fwyaf o’r amser. Bydd gan eraill ddiwrnodau da a diwrnodau anoddach.

Gall fod yn ddefnyddiol i feddwl am berthnasoedd ar raddfa. Ar un pen mae perthnasoedd iach, lle mae’r ddau berson yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Ar y pen arall, mae perthnasoedd camdriniol, lle mae un person yn cam-drin neu’n rheoli’r person arall. Mae perthnasoedd sydd ddim yn iach yn eistedd rhywle yn y canol. 

Gall perthynas symud ar draws y raddfa hon dros amser. Gall sylwi ble mae dy berthynas di helpu ti i benderfynu beth hoffet ti ei wneud nesaf. Mae’r arwyddion hyn yn ymwneud yn bennaf â pherthnasoedd rhamantus, ond mae llawer ohonynt yn berthnasol i ffrindiau hefyd.

Phone with healthy texts on screen

Beth mae perthynas iach yn edrych fel?

Mae parch yn bwysig iawn. Mewn perthynas iach, mae’r ddau ohonoch yn gwrando ar eich gilydd ac yn cymryd teimladau eich gilydd o ddifrif. Pan rwyt ti’n dweud na, caiff ei dderbyn heb bwdu na rhoi pwysau arnat ti.

Mae yna gydbwysedd hefyd. Mae penderfyniadau’n cael eu rhannu, ac nid un person sy’n cael ei ffordd bob amser, gyda’r llall yn gorfod cyfaddawdu’n gyson.

Mae cael ffydd yn rhywun yn bwysig. Gallech chi dreulio amser ar wahân heb gael dy holi’n dwll neu orfod edrych ble wyt ti a beth wyt ti’n gwneud drwy’r adeg.

Golyga cyfathrebu da eich bod yn gallu siarad yn agored gyda’ch gilydd, hyd yn oed am bethau anodd. Mae’r rhan fwyaf o gyplau yn dadlau weithiau. Mewn perthynas iach, gallwch anghytuno a datrys y sefyllfa’n bwyllog.

Rwyt ti’n cadw dy annibyniaeth, sy’n golygu gallet ti wneud penderfyniadau ar ran dy hun. Rwyt ti dal i weld dy ffrindiau a theulu, ac mae gen ti ddiddordebau dy hun. 

Mae cefnogaeth hefyd yn bwysig. Dylai dy bartner fod yn hapus pan mae pethau da yn digwydd i ti, ac maen nhw yna i ti pan fydd pethau’n anodd. Ar y cyfan, rwyt ti’n teimlo fel ti dy hun gyda nhw.

Exclamation point

Arwyddion i gadw llygaid allan amdanynt

Weithiau, mae perthynas gwael yn gallu teimlo’n llai da yn raddol. Dyma ambell arwydd fod pethau ddim yn iach.  

Mae dy bartner yn edrych trwy dy ffôn, eisiau gwybod lle wyt ti trwy’r amser, neu’n flin pan rwyt ti’n treulio amser gyda ffrindiau. Gelwir hyn yn rheolaeth.

Rwyt ti’n teimlo’n bryderus yn eu cwmni, neu’n poeni am eu hymateb i rywbeth. Efallai dy fod di’n trio cadw nhw’n hapus er mwyn osgoi dadl. Mae gwneud i rywun deimlo’n ofnus yn cael ei ystyried fel bygythiad.

Maent yn rhoi pwysau arnat i wneud pethau nad wyt ti eisiau gwneud. Weithiau gelwir hyn yn orfodaeth. 

Nid yw’n iach os mai un person sy’n gwneud yr holl benderfyniadau neu’n rhoi’r person arall i lawr yn aml. Efallai byddet yn teimlo fel bod rhaid i ti ddibynnu arnynt ar gyfer popeth ac yn teimlo’n ar goll hebddynt. Efallai bod yna gelwydd, diffyg ffydd, neu deimlad na fedri di siarad am dy deimladau.

Os yw hyn yn swnio’n gyfarwydd o gwbl, dylid talu sylw iddo.

Megaphone with stars coming out

Mae’n iawn siarad

Os oes rhywbeth yn achosi pryder i ti, mae gen ti hawl i ddweud hynny. Mae dy deimladau’r un mor bwysig â’u teimladau nhw. 

Gallet ti geisio dewis foment dawel i siarad. Gall helpu i egluro’r ffordd mae rhywbeth yn gwneud i ti deimlo, fel “rwy’n teimlo’n ofidus pan ti’n darllen fy negeseuon.”

Mewn perthynas iach, bydd dy bartner yn gwrando. Efallai na fyddent yn cytuno’n syth, ond byddent eisiau deall. Os ydynt yn gwylltio, yn dy wawdio, neu’n gwneud i ti deimlo’n wirion am godi’r peth, mae hyn yn dweud rhywbeth wrthyt ti hefyd. 

Os wyt ti’n poeni am sut bydd dy bartner yn ymateb, efallai bydd yn fwy diogel i siarad gyda rhywun fedri di ymddiried ynddynt gyntaf.

Person thinking

Gwneud newidiadau neu symud ymlaen

Gellir gweithio trwy rhai problemau os ydy’r ddau ohonoch eisiau gwneud yr ymdrech. Gall gosod ffiniau helpu. Ffiniau yw cyfyngiadau gosodir am yr hyn rydych chi’n gyfforddus ag ef. Er enghraifft, efallai byddet yn penderfynu bod dy ffôn yn breifat, neu ddweud na wrth bethau rhywiol nad wyt ti eisiau ei gwneud. 

Weithiau, dyw pethau ddim yn newid. Os nad wyt ti’n hapus, mae gen ti hawl i orffen perthynas. 

Os wyt ti’n dewis gorffen pethau, gall hyn fod yn anodd. Mae’n normal i deimlo’n drist ar ôl gwneud, hyd yn oed pan mai dyna’r dewis cywir. Gall treulio amser gyda ffrindiau a theulu helpu, yn ogystal â ffocysu ar bethau sy’n gwneud i ti deimlo’n hapus. 

Speech bubbles

Pan allai fod yn rhywbeth mwy

Weithiau, gall ymddygiad gwael droi’n camdriniaeth. Gall camdriniaeth fod yn ffisegol, yn emosiynol, yn rhywiol, neu’n ymwneud ag arian. Os wyt ti’n cael dy frifo, dy fygwth neu dy orfodi i wneud pethau, nid yw byth yn fai arnat ti. Os wyt ti mewn perygl, galwa 999.

Siarad â Meic

Os wyt ti’n ansicr am berthynas, neu eisiau siarad rhywbeth trwyddo, gallet ti siarad â Meic. Gallwn wrando a helpu ti i benderfynu beth hoffet ti ei wneud.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

Croeso i Meic!
Cymraeg
Welcome to Meic!
English