Beth yw cydraddoldeb rhywedd, a pham mae’n bwysig?
Mae pobl yn aml yn defnyddio’r geiriau ‘rhyw’ a ‘rhywedd’ i feddwl yr un peth, ond mewn gwirionedd, mae’r rhain yn wahanol iawn.
- Rhyw – fel arfer yn cyfeirio at nodweddion biolegol (fel genynnau [genes] a nodweddion corfforol) a bennir ar berson ar ôl eu geni
- Rhywedd – yn ymwneud â hunaniaeth, y ffordd rwyt ti’n teimlo ar y tu mewn, y ffordd rwyt ti’n mynegi dy hun, a’r disgwyliadau cymdeithasol sy’n cael eu gosod arnom
Cydraddoldeb rhywedd yw’r syniad y dylai pawb gael yr un hawliau, parch, a chyfleoedd, warth beth fo’u hunaniaeth rhywedd. Ni ddylai dy rywedd gyfyngu’r hyn y gallet ti ei wneud na sut mae pobl yn dy drin.
Pan fydd pobl yn cael eu trin yn annheg oherwydd pethau fel rhywedd, gelwir hynny’n ‘gwahaniaethu’.
Cydraddoldeb yw cael y rhyddid i fod yn union pwy wyt ti. Mae’n golygu gwybod bod dy lais di’r un mor bwysig â llais unrhyw un arall a bod gen ti’r un cyfleoedd.
Pam bod cydraddoldeb o fudd i bawb
Er bod rhyw fiolegol yn cael ei bennu ar enedigaeth fel arfer, ar sail nodweddion corfforol, mae rhywedd yn ymwneud â’r ffordd rwyt ti’n uniaethu ac yn teimlo’n fewnol. Mae rhywedd yn bodoli ar sbectrwm – sef graddfa rhwng dau bwynt yn hytrach nag dau bwynt sefydlog. Mae rhai pobl yn teimlo fel bachgen, rhai yn teimlo fel merch, ac mae rhai’n teimlo fel y ddau neu dim un. Yn aml, gelwir hyn yn anneuaidd neu’n amrywiol o ran rhywedd.
Mae gwir gydraddoldeb rhywedd yn golygu parchu pawb ar y sbectrwm yma. Mae’n golygu peidio â gwneud rhagdybiaethau am rywun oherwydd y ffordd maent yn edrych. Mae gan bawb yr hawl i ddiffinio eu hunaniaeth. Pan fyddwn yn derbyn bod rhywedd yn beth eang ac amrywiol, rydym yn creu byd lle nad oes neb yn teimlo fel eu bod yn cael eu gadael allan. Dylid rhoi cefnogaeth a charedigrwydd i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth rhywedd.
Mae cydraddoldeb hefyd yn helpu i chwalu disgwyliadau niweidiol, a elwir yn aml yn stereoteipiau. Mae stereoteip yn syniad cadarn am grŵp penodol. Er enghraifft, mae rhai pobl yn meddwl mai dim ond rhyweddau penodol ddylai fod yn wydn neu’n ofalgar. Mae cydraddoldeb yn caniatáu i bawb i fod yn nhw heb deimlo pwysau i ymddwyn mewn ffordd benodol.

Sut fedri di gefnogi cydraddoldeb
Gallet ti helpu i greu byd tecach wrth fod yn gynghreiriad (ally). Mae cynghreiriad yn cefnogi ac yn siarad ar ran grŵp nad ydynt yn rhan ohono. Er enghraifft, nid oes rhaid i ti fod yn ferch i gefnogi hawliau merched a genethod, Mae bod yn gynghreiriwr da yn golygu sefyll dros unrhyw un sy’n wynebu triniaeth annheg oherwydd eu rhyw.
Un ffordd o helpu yw dweud pan fyddi di’n gweld rhywbeth annheg. Os wyt ti’n clywed rhywun yn gwneud jôc annymunol am rywedd penodol, yna fedri di ddweud nad yw’n ddoniol. Fedri di hefyd gefnogi ffrindiau sydd eisiau rhoi tro ar rhywbeth y mae eraill yn dweud sydd ddim ar eu cyfer nhw. Mae gweithredoedd bach fel hyn yn helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl.
Angen cymorth?
Os wyt ti’n teimlo fel dy fod di’n cael dy drin yn annheg, nid oes rhaid i ti fynd drwy hynny ar ben dy hun. Cofia, fedri di gysylltu â Meic. Rydym yma i helpu gyda gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim.
