Hide Page
LGBTQ+ pride parade

Pam Bod Mis Pride Dal yn Bwysig?

Bob Mehefin, mae Mis Pride yn cael ei ddathlu ledled y byd, ond cwestiwn sy’n codi bob tro yw: Os yw cyfreithiau’r DU yn amddiffyn hawliau cyfartal, yna pam dathlu Pride o hyd?

Hanes sydyn hawliau LHDTC+ yn y DU

Cyflawnwyd yr hawliau cyfreithiol sy’n bodoli heddiw oherwydd degawdau o ymgyrchu. Roedd grwpiau eiriolaeth, fel Stonewall, yn rhan fawr o ymgyrchu am newidiadau i gyfreithiau’r DU.

Dyma linell amser o gerrig milltir gyfreithiol bwysig hanes modern y DU:

2000 – Dileu gwaharddiad gwasanaeth milwrol

Cyn y newid yma, roedd pobl LHDTC+ wedi’u gwahardd rhag gwasanaethu yn y fyddin Brydeinig. Roeddent yn gallu cicio pobl allan o’r fyddin neu’n tynnu eu medalau oddi arnynt os oeddent yn darganfod eu hunaniaeth.

2001 – Cyfartalu Oedran Caniatâd

Newidiodd Deddf Diwygio Troseddau Rhywiol oedran caniatâd dynion hoyw a deurywiol i 16. Ar ôl 35 mlynedd o anghydraddoldeb cyfreithiol, roedd yn cyfateb i’r rheolau ar gyfer pobl heterorywiol o’r diwedd.

2002 – Hawliau Mabwysiadu

Daeth Deddf Mabwysiadu a Phlant i rym. Roedd hyn yn caniatáu i gyplau di-briod, gan gynnwys cyplau o’r un rhyw, wneud cais i fabwysiadu plant gyda’i gilydd.

Two dads and their family

2003 – Diddymu Adran 28

Roedd Adran 28 yn gyfraith a gyflwynwyd ym 1988 a oedd yn atal ysgolion rhag addysgu neu siarad am gyfunrywioldeb. Cymerodd 12 mlynedd i gael gwared ohono yn yr Alban (2000) a 14 mlynedd yng Nghymru a Lloegr (2003).

2013 – Cydraddoldeb Priodas

Roedd y Ddeddf Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) yn golygu bod pobl o’r un rhyw yng Nghymru a Lloegr yn cael priodi yn gyfreithiol. Dilynodd yr Alban gyda chyfraith debyg yn 2014, a Gogledd Iwerddon yn 2020.

Y Bwlch Rhwng y Gyfraith a Realiti

Er bod cyfreithiau’n amlinellu amddiffyniadau cyfreithiol, nid yw gwir brofiadau bob dydd yn newid ar yr un cyflymder a’r rheolau bob tro.

Mae ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith bod gwahaniaethu, sy’n golygu cael dy drin yn wahanol neu’n annheg oherwydd pwy wyt ti, yn dal i fod yn broblem i lawer o bobl ifanc LHDTC+ yn eu bywydau bob dydd.

Roedd adroddiad gan elusen Just Like Us (2021) yn dangos bod disgyblion ysgol LHDTC+ ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu bwlio yn y flwyddyn flaenorol o’i gymharu â disgyblion sydd ddim yn LHDTC+. Mae hyn yn cynnwys triniaeth annheg yn yr ystafell ddosbarth, mannau ar-lein, a sgyrsiau grŵp.

Yn ôl astudiaeth YouGov a gyhoeddwyd yn 2026, dywedodd 37% o bobl LHDTC+ eu bod wedi wynebu gwahaniaethu trwy iaith, agwedd neu ymddygiad rhywun arall wrth ymarfer corff, neu geisio ymarfer corff, yn gyhoeddus.

Er bod hawliau LHDTC+ wedi’u diogelu gyda chyfraith y DU, mae amrywiaeth mawr mewn diogelwch ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae agosatrwydd rhwng cyplau o’r un rhyw yn dal yn anghyfreithlon mewn bron i 60 o wledydd.

Celebrating pride with flags and banners

Deall Dy Hawliau

Mae hawliau wedi’u cynllunio i amddiffyn pawb yn gyfartal, pwy bynnag wyt ti, ble bynnag ti’n byw, neu beth bynnag rwyt ti’n credu.

Er mwyn helpu i leihau’r bwlch rhwng hawliau cyfreithiol a realiti bob dydd, mae Llywodraeth Cymru wedi creu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru. Nod y cynllun yma yw taclo gwahaniaethu a chreu Cymru sy’n fwy diogel i fyw ynddi.

Er bod hawliau LHDTC+ wedi’u diogelu o dan gyfraith y DU, mae diogelwch ledled y byd yn amrywio llawer. Ar hyn o bryd, mae agosatrwydd rhwng cyplau o’r un rhyw yn dal yn anghyfreithlon mewn bron i 60 o wledydd ledled y byd.

Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di

Nid oes rhaid i ti gario’r holl bryderon ar ysgwyddau dy hun. Beth bynnag sy’n digwydd yn dy fywyd, mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.

Gallet ti gysylltu ar y ffôn, neges WhatsApp, testun, neu sgwrs ar-lein. Mae Meic am ddim a byth yn barnu. Gweld sut gall Meic helpu.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449