Hide Page
Social media ban

Y Ddadl Gwahardd Cyfryngau Cymdeithasol: Beth Mae’n ei Olygu i Ti

Mae yna sgwrs fawr yn digwydd ledled y DU yn trafod os ddylid cyflwyno gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc dan 16 oed.

Mae llawer o bobl yn gofyn y cwestiwn os dylid gwahardd pobl dan 16 oed yn gyfreithiol rhag defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, TikTok, a Snapchat. Efallai dy fod di wedi clywed hyn yn cael ei drafod yn y newyddion, wedi’i weld yn trendio ar gyfryngau cymdeithasol, neu fod athro wedi sôn am y peth yn yr ysgol efallai.

Mae’n fater mawr, ac er nad oes dim wedi newid eto yn y DU, mae’n bwnc dadl. Yn dilyn y newyddion bod Awstralia wedi cyflwyno gwaharddiad ei hun yn ddiweddar, mae llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad i benderfynu beth i’w wneud yma. Dyma friff o’r hyn sy’n digwydd, pam bod pobl yn dadlau, a beth mae’n ei olygu i ti mewn gwirionedd.

Stop sign with exclamation marks

Beth sy’n digwydd?

Ar hyn o bryd, mae llywodraeth y DU yn edrych ar wahanol ffyrdd o newid sut mae plant a phobl ifanc yn treulio amser ar-lein. Er mai gwaharddiad llwyr yw’r prif syniad, mae’r llywodraeth hefyd yn meddwl am gyrffyw digidol i atal apiau rhag anfon pings yn y nos. Gallent hefyd orfodi cwmnïau technoleg i gael gwared ar bethau fel strîcs sy’n gwneud i ti deimlo fel bod rhaid i ti agor yr app bob dydd. Er mwyn i hyn weithio, byddai angen ffyrdd llawer llymach i wirio oedran, fel defnyddio sgan wyneb neu ID i brofi dy oedran.

Mae’r llywodraeth mewn cyfnod gwrando ar hyn o bryd. Maent yn siarad ag arbenigwyr, cwmnïau technoleg ac ysgolion i glywed barn pobl. Mae’n ddewis mawr rhwng cadw pobl yn ddiogel a gadael i bobl fod yn rhydd i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel y dymunant.

Y ddadl gwahardd cyfryngau cymdeithasol

Mae rhai pobl yn credu mai gwaharddiad yw’r ffordd orau i gadw pawb yn ddiogel. Maent yn poeni y gall y ffordd y mae apiau’n cael eu hadeiladu arwain at bethau fel pryder, hwyliau isel, neu ddiffyg cwsg. Mae pobl yn dadlau bod pobl yn mynd yn gaeth i’r apiau yma. Maen nhw’n credu y byddai terfyn oedran cyfreithiol yn lleihau’r pwysau sydd ar bobl ifanc i fod ar-lein drwy’r amser ac yn eu helpu i ganolbwyntio mwy ar fywyd go iawn ac ysgol.

Ar y llaw arall, mae rhai pobl yn credu bod gwaharddiad yn gamgymeriad. Maen nhw’n dweud bod cyfryngau cymdeithasol yn ffordd bwysig i gadw cysylltiad, yn enwedig i bobl sy’n teimlo’n unig neu sydd eisiau dod o hyd i eraill gyda’r un hobïau. Mae pryder hefyd, os bydd gwaharddiad ar yr apiau mawr, y bydd pobl yn symud i rannau cyfrinachol o’r rhyngrwyd sy’n llawer mwy peryglus. Yn lle gwahardd, maen nhw’n dadlau y dylid dysgu plant a phobl ifanc sut i aros yn ddiogel ar-lein yn hytrach na chael eu rhwystro rhag bod ar-lein.

Two people talking with speech bubbles

Angen siarad?

Os wyt ti angen cefnogaeth a chymorth, mae cynghorwyr Meic yma i wrando a chynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth. Rydym yn llinell gymorth ddienw, ddwyieithog ac am ddim sydd ar gael dros y ffôn, neges WhatsApp, neges destun neu sgwrs ar-lein.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449