Hide Page
Child sitting on sofa with their legs pulled up to their chest, talking to an adult

Siarad ar Ran Dy Hun: Beth yw Hunan-Eiriolaeth?

Gall eiriolaeth swnio’n gymhleth, ond mae’n golygu cael help i sicrhau bod dy lais di yn cael ei glywed. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gwybod beth rwyt ti’n ei feddwl a beth rwyt ti eisiau.

Wyt ti erioed wedi teimlo nad yw pobl yn gwrando arnat ti? Efallai dy fod di’n anghytuno â phenderfyniad a wnaed yn yr ysgol, neu rwyt ti eisiau newid pethau gartref. Gall fod yn anodd dod o hyd i’r geiriau cywir pan fyddi di eisiau newid rhywbeth. Dyma pryd gall eiriolaeth helpu.

Beth yw hunan-eiriolaeth?

Hunan-eiriolaeth yw pan fyddi di’n siarad ar ran dy hun. Mae’n golygu dy fod di’n dweud wrth bobl beth rwyt ti ei angen a beth sy’n bwysig i ti – ti sydd yn deall dy feddyliau a theimladau yn well na neb!

Mae enghreifftiau o hunan-eiriolaeth yn cynnwys:

  • Gofyn i gael eistedd yn agosach i flaen y dosbarth gan na fedri di weld y bwrdd gwyn yn glir
  • Dweud wrth dy rieni neu ofalwyr bod pethau’n teimlo’n ormod ac rwyt ti angen noson i ti dy hun
  • Dweud wrth ddoctor sut mae meddyginiaeth yn gwneud i ti deimlo
  • Dweud wrth ffrindiau nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn mynd i le neu’n gwneud gweithgaredd penodol
  • Siarad gyda chyflogwr am newid oriau shifft fel y gallet ti barhau i astudio ar gyfer arholiadau
  • Dweud wrth oedolion dy fod di eisiau dewis dillad dy hun neu ddewis yr hobïau rwyt ti’n ymuno â nhw ar ôl ysgol
  • Gofyn i gynorthwyydd siop am help neu ad-daliad pan fydd eitem a brynwyd wedi torri

Gall fod yn anodd eirioli ar ran dy hun i gychwyn, ond mae’n dod yn haws os wyt ti’n ymarfer!

Child talking to a teacher

Sut gall Meic helpu ti i ddarganfod dy lais

Efallai dy fod eisiau siarad ar ran dy hun, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau. Gall tîm Meic helpu ti i ddarganfod y ffordd orau i wneud hynny.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gallwn helpu ti i hunan-eirioli:

Gall Meic helpu ti i gynllunio’r hyn rwyt ti eisiau dweud cyn cyfarfod mawr

Gall cyfarfodydd mawr godi ofn ar rywun, yn enwedig pan fydd yr ystafell yn llawn oedolion. Efallai y byddi di’n teimlo’n ansicr neu’n poeni na fyddi di’n cael cyfle i siarad. Gallwn weithio gyda thi o flaen llaw i ddeall dy prif bwyntiau. Gyda’n gilydd, gallwn ddewis y pethau pwysicaf sydd angen i’r oedolion ei wybod. Mae hyn yn helpu ti i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i ti, hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn teimlo’n ormod ar adegau.

Gallet ti ymarfer sgyrsiau gyda Meic fel dy fod di’n teimlo’n fwy hyderus

Gall fod yn anodd dod o hyd i’r geiriau cywir pan fyddi di’n teimlo straen. Gallwn helpu i baratoi ar gyfer y sgwrs cyn iddo ddigwydd. Gall hwn fod yn gyfle i ti ymarfer rhannu dy feddyliau gyda ni fel bod dy farn, dymuniadau a theimladau’n cael eu mynegi’n glir. Mae’n lle diogel i wneud camgymeriadau a meithrin hyder.

Gall Meic helpu ti i chwilio am wybodaeth

Mae’n anodd gofyn am yr hyn rwyt ti ei angen os nad wyt ti’n siŵr beth rwyt ti’n cael gofyn amdano. Mae deall dy hawliau yn ei gwneud hi’n llawer haws sefyll ar ran dy hun. Gall cyfreithiau a rheolau fod yn ddryslyd i’w darllen, ond gallwn eu hesbonio’n syml. Gallwn helpu ti i ddarganfod pa gefnogaeth y mae gen ti hawl gyfreithiol atynt yn yr ysgol neu mewn gofal. Pan fyddi di’n deall y ffeithiau, gallet ti sefyll dy dir am dy fod di’n gwybod dy fod di’n gofyn am rywbeth teg.

Teen talking to a doctor

Pan fyddi di angen rhywun i siarad ar dy ran

Weithiau, mae siarad ar ran dy hun yn gallu teimlo’n ormod. Efallai dy fod teimlo’n rhy ofidus, neu efallai’n poeni na fydd oedolion yn gwrando arnat. Os bydd hynny’n digwydd, gall Meic gamu i mewn ac eirioli ar dy ran – dyma yw Eiriolaeth Uniongyrchol. Golygai hyn y gallwn ni siarad â phobl ar dy ran gan ddefnyddio dy eiriau di, i fynegi’n union sut rwyt ti’n teimlo. Ni fyddwn byth yn gwneud hyn heb dy ganiatâd. Byddwn yn gwrando arnat ti yn gyntaf i ddarganfod yn union beth rwyt ti’n dymuno digwydd.

Dyma ychydig o enghreifftiau o sut y gallwn ni wneud hyn:

  • Yn yr ysgol: Os yw’r ysgol yn anodd oherwydd bwlio neu wersi, gallwn siarad ag athro i gael trefn ar bethau
  • Gyda gweithwyr cymdeithasol: Os oes gen ti weithiwr cymdeithasol, gallwn helpu ti i leisio dy ddymuniadau ynglŷn â ble rwyt ti’n byw neu bwy rwyt ti’n gweld
  • Gyda gwasanaethau iechyd: Gallwn helpu ti i ofyn y cwestiynau i feddyg neu gwnselydd yr wyt ti’n rhy nerfus i ofyn dy hun
Teen talking to a counsellor

Cysyllta

Nid oes rhaid i ti ymdopi â phryderon ar ben dy hun. P’un a wyt ti eisiau siarad neu os wyt ti eisiau i ni siarad ar dy ran, mae Meic yma i ti.

Cysyllta ar y ffôn, neges WhatsApp, neges destun, neu sgwrs ar-lein. Mae Meic am ddim, ac ni fyddwn yn barnu – rydym bob amser ar dy ochr di. Gweld sut y gall Meic helpu ti.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449