Hide Page

Y Pethau Sy’n Gwneud Ni’n Hapus

Beth sydd yn gwneud plant a phobl ifanc Cymru yn hapus? Penderfynom ddarganfod yr ateb.

Roedd gennym stondin am dridiau yn Eisteddfod yr Urdd eleni ym Mae Caerdydd a chawsom hwyl fawr yn cyfarfod gyda llawer ohonoch oedd yn ymweld â’r maes ac yn cystadlu. Roeddem wrth ein boddau yn cael sgwrs gyda chi ac egluro ychydig am wasanaeth Meic.

Gofynnom i bawb lenwi Wal Hapus Meic gyda’r pethau oedd yn eu gwneud yn hapus a chawsom ganlyniadau grêt. Roedd pawb oedd yn cymryd rhan yn cael cyfle i dynnu rhywbeth allan o’r Twba Lwcus a chael rhywbeth Meic i fynd adref gyda nhw.

Felly, beth oedd y pethau fwyaf poblogaidd oedd yn eich gwneud yn hapus? Pêl-droed, dawnsio, rygbi, ffrindiau, teulu a chathod! Roedd yna lwyth o bethau eraill hefyd, felly cymera olwg ar ein cymylau geiriau o bob dydd.

Diwrnod 1

Pêl-droed, ffrindiau gorau a dawnsio

Diwrnod 2

Enfys, cathod a Chymru

Diwrnod 3

Teulu, bwyd a cherddoriaeth

Gobeithiwn weld mwy ohonoch mewn digwyddiadau ledled Cymru yn y dyfodol.

Cysyllta â Meic

Cofia gwneud yr hyn sydd yn gwneud ti’n hapus. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen help gydag unrhyw beth yna cofia bod posib cysylltu â Meic.

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Cysyllta am ddim.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449