Efallai dy fod di wedi clywed y newyddion trist bod Papyrus Atal Hunanladdiad Ifanc a HopeLine24/7 wedi cau.
Os oeddet ti’n dibynnu ar y gwasanaeth yma neu’n poeni am ble i chwilio am gymorth nawr, rydym yn deall. Mae’n hollol normal i ti deimlo’n ansefydlog ond cofia, ti ddim yn gorfod mynd drwy hyn dy hun.
Mae Meic yma, ond os wyt ti angen cymorth brys mewn argyfwng mewn trallod difrifol, neu’n meddwl am roi diwedd ar dy fywyd, dyma’r llefydd y gallet ti fynd atynt sydd ar gael am ddim 24/7:
- Samariaid (116 123) – cymorth ffôn am ddim 24/7
- Shout (Tecstia SHOUT i 85258) – cymorth tecst am ddim 24/7
- GIG 111 (Opsiwn 2) – cymorth iechyd meddwl ar frys yng Nghymru
Plîs gofala am dy hun a gofyn am help.

Gall Meic helpu
Rydym yn agored 8yb – hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos i unrhyw blentyn neu berson ifanc yng Nghymru (hyd at 25 oed).
Rydym yn ofod cyfeillgar, cyfrinachol, i siarad am unrhyw beth sydd ar dy feddwl – pwysau ysgol, teimlo’n isel, perthnasau, neu angen fentio Gallem gynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i helpu ti i symud ymlaen.
- Ffôn neu WhatsApp: 080880 23456
- Tecst: 07943 114 449
- Sgwrs ar-lein: www.meic.cymru
