Hide Page

Coda’r Meic: Gobaith gan Oroeswr Iechyd Meddwl

Mae Coda’r Meic yr wythnos hon ychydig yn wahanol. Mae’n rhywun sydd eisiau rhannu ei stori iechyd meddwl a’r help derbyniwyd. Goroeswr ydynt – ac fe alli di fod hefyd.


Roedd Coda’r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac roedd yn cael ei ddefnyddio i greu blogiau dienw ar gyfer y wefan i helpu pobl ifanc eraill oedd yn mynd trwy brofiad tebyg. Nid ydym yn cynnig Coda’r Meic bellach. Os wyt ti angen gwybodaeth cyngor neu eiriolaeth, cysyllta â’r llinell gymorth am gefnogaeth ar y manylion ar waelod y dudalen.


Helo Meic

Rwyf wedi bod yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ers i mi fod yn 11 oed. Cychwynnais wrth ddechrau clywed lleisiau, hunan niweidio a phrofi pryder ofnadwy, wedi’i ddilyn gydag iselder clinigol. Achosodd hyn i mi dorri i lawr yn feddyliol ac arwain at gael fy ngorchymyn i Uned CAMHS (Gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed).

Cefais ddiagnosis o anhwylder rhithdyb gyson ac anhwylder trawma cymhleth (PTSD Cymhleth), sy’n cael ei adnabod hefyd fel anhwylder trawma datblygiad. Yn ogystal â hyn mae gen i anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) ac anhwylder hunaniaeth ddatgysylltiol (DID). Ar ôl misoedd o feddyginiaeth a therapïau gwahanol, rwyf wedi darganfod y driniaeth gywir i mi, DBT (therapi ymddygiad dilechdidol) yn seiliedig ar drawma, sydd yn help mawr i mi.

Ni fyddwn yma heb CAMHS, creda di fi! Mae gen i gymaint o broblemau ac rwyf yn teimlo’n hunanladdol pob dydd, ond os oes gen ti salwch meddwl creda mi fyddi di’n GWELLA!! Maen nhw’n dweud bod pobl sydd wedi profi trawma yn ddioddefwyr, ond y gwirionedd ydy mai goroeswyr ydym ni! Os ydym ni wedi llwyddo goroesi’r cyfnod tywyllaf yn ein bywydau (trawma), gallem oroesi a threchu salwch meddwl!!!!

Cariad mawr i bawb.

Ymateb Meic

Diolch yn fawr iawn am gysylltu gyda ni trwy Coda’r Meic. Mae dy stori yn un ysbrydoledig iawn ac yn un fydd yn rhoi gobaith i gymaint o bobl ifanc sydd yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, fel yr wyt ti, yn aml o oedran ifanc.

Heart shape carved out into a green wood panel which has rust marks and paint splatters.

Amrywiaeth

Un o’r negeseuon gellir ei ddysgu o dy stori di ydy bod yna lawer o faterion iechyd meddwl gwahanol gellir eu trin gydag amrywiaeth o ddulliau gwahanol gan gynnwys meddyginiaeth a therapïau siarad. Yn aml gall darganfod y driniaeth gorau i’r unigolyn a’r cyflwr gymryd ychydig o amser i’r gweithiwr meddygol proffesiynol, a gall fod yn rhwystredig iawn pan fydd pethau ddim yn gwella mor sydyn ag yr hoffem. Ond, fel yr wyt ti wedi dangos, mae amynedd a bod yn benderfynol o wella yn gallu, ac yn, talu. Rwyt ti’n oroeswr!

Yn dy neges, nid wyt ti wedi crybwyll y camau cymrwyd i helpu dy hun i wella. Mae hunanofal yn rhywbeth mae pawb yn ei wneud, heb sylweddoli weithiau ein bod ni. Gall hyn, ar gyfnodau, fod mor bwysig â meddyginiaeth a therapïau siarad wrth weithio i wella ein hiechyd meddwl. Edrycha ar y rhestr isod, mae’n debyg dy fod di wedi gwneud rhai o’r pethau yma hefyd!

Pile of small pebbles stacked on top of each other by the sea on a dreary day

15 ffordd i wella dy iechyd meddwl

1. Dweud wrth bobl beth sy’n helpu
2. Dod i adnabod dy arwyddion rhybudd cynnar
3. Cadw dyddiadur hwyliau
4. Adeiladu ar dy hunan-barch
5. Cysylltu gyda phobl eraill
6. Derbyn cefnogaeth gan bobl yn yr un sefyllfa
7. Gwneud rhywbeth i ymlacio
8. Rhoi tro ar ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness)
9. Cael allan i’r awyr agored
10. Cysgu pan fyddi di’n teimlo bod angen
11. Bwyta bwyd iach
12. Ymarfer corff
13. Osgoi alcohol/cyffuriau
14. Cadw amser i ofal personol
15 Cysylltu gyda sefydliad arbenigol

Gobeithiwn fod clywed dy stori yn rhoi gobaith i bobl ifanc eraill sydd yn ymdrechu gyda phroblemau iechyd meddwl eu hunain. Diolch unwaith eto i ti am rannu dy stori.

Y Tîm Meic


Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449