Mae’n swyddogol, mae cyfnod yr arholiadau wedi dod i ben, a’r haf hir yn ymestyn o dy flaen. Dyma ychydig o syniadau i ti – cymysgedd o ymlacio, darganfod anturiaethau newydd, ac ymdopi gyda’r disgwyl nes diwrnod canlyniadau.
Ti newydd orffen dy arholiadau TGAU, Lefel A, BTEC neu brifysgol – da iawn ti! Ond mae’n deimlad bach od unwaith i ti gerdded allan o’r neuadd arholiad yna am y tro diwethaf. Efallai dy fod di’n teimlo’n llawn egni, ond mae’n normal i deimlo’n flinedig iawn hefyd. Rwyt ti wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers misoedd.

Anghofia am yr arholiadau
Gall fod yn anodd peidio mynd i edrych ar atebion ar-lein neu siarad gyda ffrindiau am yr atebion. Ond, mae ceisio ailfeddwl am yr arholiadau drosodd a throsodd yn achosi ti i boeni mwy. Ta waeth os wyt ti wedi gwneud yn dda neu ddim, y gwir yw, mae’r arholiadau wedi dod i ben. Nid yw’n bosib newid yr atebion nawr.
Os wyt ti’n poeni’n ormodol, neu’n gorfeddwl papur penodol, nid oes rhaid i ti ddelio â’r straen yma ar ben dy hun. Gall cysylltu â chynghorwr Meic fod yn help mawr i waredu’r teimladau yma o dy ben fel dy fod di’n gallu ymlacio.
Gorffwys yn iawn
Nid oes rhaid cychwyn prosiect mawr neu fod a chynlluniau prysur. Rho amser i anadlu.
Mae’n debyg bod lefelau cortisol y corff (yr hormon sy’n cael ei greu pan fyddi di’n teimlo straen) wedi bod yn uchel iawn. Gall y corff gymryd ychydig o amser i addasu a sylwi bod llai o bwysau arnat ti.
Cysga, gwylia dy hoff raglenni, treulia amser yn yr awyr agored – ffyrdd da i ailwefru. Ar ôl yr ymlacio, efallai byddi di wedi dechrau diflasu. Mae hyn yn normal! Mae’r strwythur oedd gen ti gyda’r ysgol, coleg neu brifysgol wedi diflannu, ac yn sydyn iawn gall yr haf ymddangos braidd yn hir. Dyma’r amser perffaith i feddwl am ffyrdd ysgafn, hwyl i lenwi dy ddyddiau.

Gwirfoddola
Os wyt ti’n awyddus i wneud rhywbeth ystyrlon ond ddim eisiau’r pwysau o gytundeb ffurfiol, yna mae gwirfoddoli yn opsiwn da iawn. Rho amser i helpu lloches anifeiliaid, cefnogi grŵp ieuenctid, neu dacluso gardd gymunedol. Mae’n ffordd hyfryd i gyfarfod pobl newydd sy’n rhannu’r un diddordebau â thi.
Er na fyddi di’n derbyn tâl, mae’n dda i roi ar dy CV. Mae cyflogwyr wrth eu bodd yn gweld dy fod di wedi defnyddio dy amser rhydd i helpu eraill. Mae’n dangos sgiliau gwaith tîm a’r gallu i ymrwymo i rywbeth, wrth wneud rhywbeth sy’n helpu’r gymuned!
Ennill arian
Os wyt ti eisiau ychydig o arian ychwanegol, efallai gallet ti chwilio am swydd haf rhan-amser. Mae llawer o lefydd yn chwilio am gymorth ychwanegol dros yr haf, yn enwedig siopau, caffis, sinemâu a mannau twristaidd.
Mae cael swydd haf yn dysgu llawer am fyd oedolion. Rwyt ti’n dysgu sut i reoli arian dy hun, sut i siarad â chwsmeriaid, a sut i weithio mewn amgylchedd prysur. Gall roi hwb mawr i’r hyder.
Os nad wyt ti eisiau swydd draddodiadol, gallet ti ystyried gwaith achlysurol yn dy ardal leol. Mae mynd â chŵn am dro, gwarchod plant, neu helpu cymydog i dorri’r lawnt yn ffyrdd gwych o ennill arian ar delerau dy hun.

Ymdopi gyda disgwyl tan ddiwrnod canlyniadau
Wrth i fis Awst agosáu, efallai byddi di’n teimlo ychydig yn nerfus eto. Mae’n help cofio bod pawb yn yr un cwch. Cyfynga dy amser ar gyfryngau cymdeithasol os fedri di, nid yw’n help gweld pobl yn postio am ganlyniadau. Yn lle hynny, cynllunia weithgaredd braf ar gyfer diwrnod y canlyniadau, rhywbeth i edrych ymlaen ato, beth bynnag sydd yn yr amlen.
Os wyt ti’n teimlo dan ormod o bwysau, nid oes rhaid i ti ysgwyddo’r baich yma ar ben dy hun. Siarad am dy deimladau gydag aelod o’r teulu, ffrind, neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Mae rhannu pryderon fel arfer yn gwneud i rywun deimlo’n llawer gwell.
Os yw’r cyfnod aros am ganlyniadau yn cael effaith arnat ti, neu os wyt ti eisiau trafod dy opsiynau, mae’r tîm yn Meic yma i wrando a chynnig cefnogaeth. Cysyllta ar y ffôn, drwy neges WhatsApp, neges destun, neu sgwrs ar-lein.
