Hide Page
Cash on the table

Y Budd-daliadau Sydd ar Gael i Blant neu Bobl Ifanc yng Nghymru

Wyt ti’n ansicr am y budd-daliadau fedri di eu cael fel plentyn neu berson ifanc yng Nghymru? Mae’r blog yma yn edrych ar y mathau o gymorth ariannol, grantiau, a theithio am ddim sy’n agored i ti.*

(*Mae’r holl ffigyrau yn y blog yma’n gywir ar 21 Mawrth 2026, ond cer i’r gwefannau swyddogol ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf.)

Arian i helpu ti aros yn yr ysgol neu goleg

Os wyt ti rhwng 16 a 18 oed ac wedi dewis aros mewn addysg, yna efallai gallet ti hawlio arian ychwanegol. Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn cynnig £40 bob wythnos. Y bwriad yw bod yr arian yma yn helpu gyda chostau bws, cinio ysgol, neu lyfrau ysgol.

Mae’n rhaid i incwm dy rieni neu ofalwyr fod yn is na swm penodol i fod yn gymwys. Mae’n rhaid i ti hefyd sicrhau dy fod di’n mynd i’r dosbarthiadau ac yn arwyddo cytundeb dysgu. Os wyt ti’n gymwys, yna bydd yr arian yn cael ei dalu yn syth i dy gyfrif banc bob pythefnos. Mae’n ffordd dda i gael ychydig o gymorth ariannol wrth i ti astudio.

Cymorth i fyfyrwyr hŷn

Os wyt ti’n hŷn nag 18 ac yn y brifysgol neu gwrs addysg uwch, gallet ti edrych ar Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn arian sy’n helpu ti i fyw wrth i ti astudio, ac nid oes rhaid talu hwn yn ôl.

Mae’r swm gallet ti ei dderbyn yn ddibynnol ar incwm dy deulu. Gall wneud gwahaniaeth mawr tuag at dalu rhent neu siopa bwyd. Mae posib gwneud cais ar yr un pryd a dy gais am fenthyciad myfyriwr, felly mae’n syniad da edrych ar beth rwyt ti’n gymwys amdano.

Young adult with a rucksack and a folder in his hands

Arian am ddim i gychwyn busnes dy hun

Ydy gweithio i dy hun yn freuddwyd? Os wyt ti’n iau nag 25 oed a ddim yn yr ysgol nac mewn swydd, mae yna Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc ar gael yng Nghymru.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig hyd at £2,000 i helpu ti i gychwyn busnes. Efallai dy fod di eisiau bod yn weithiwr llawrydd, agor siop, neu gychwyn prosiect digidol. Maent hefyd yn cynnwys amser gyda chynghorydd busnes fydd yn arwain ti trwy’r camau o sefydlu popeth.

Cymorth ariannol os oes gen ti anabledd neu salwch

Os wyt ti’n byw gydag anabledd, anhawster dysgu, neu gyflwr iechyd meddwl hir dymor, yna gallet ti hawlio arian i helpu gyda chostau ychwanegol bywyd bob dydd.

I blant dan 16 oed, gall rhiant neu ofalwr hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (DLA). Unwaith i ti droi’n 16 oed, gallet hawlio Taliad Annibyniaeth Personol(PIP) dy hun. Nid yw’r arian yma yn ddibynnol ar incwm teuluol, ac rwyt ti’n cael gweithio neu fynychu’r ysgol. Mae’n cael ei dalu ar raddfeydd gwahanol yn ddibynnol ar y cymorth sydd ei angen arnat i symud o gwmpas neu gyflawni tasgau dyddiol fel gwisgo amdanat.

Teen boy wearing a sunflower lanyard

Help os wyt ti’n chwilio am waith

Os wyt ti dros 18 oed ac allan o waith, neu os oes gen ti anabledd sydd yn golygu bod gweithio yn anodd i ti, yna gallet ti geisio hawlio Credyd Cynhwysol. Taliad misol gan y Llywodraeth sy’n helpu gyda chostau byw fel bwyd, biliau, neu rent.

Os wyt ti’n gwneud cais am dy fod di’n chwilio am waith, byddi di’n cael hyfforddwr gwaith sydd yn gallu helpu ti i ddarganfod cyrsiau hyfforddiant neu swyddi sydd yn gweddu dy sgiliau. Mae yna Hybiau Ieuenctid ledled Cymru hefyd. Mae’r hybiau yma yn tynnu canolfannau swyddi, cyngor tai, a chefnogaeth lles at ei gilydd mewn un lle.

Os oes gen ti anabledd neu salwch hirdymor, mae gan Gredyd Cynhwysol elfen iechyd penodol hefyd. Bwriad hwn yw rhoi arian ychwanegol i ti os yw gweithiwr iechyd yn penderfynu bod dy allu i weithio wedi’i gyfyngu. Bydd yr arian ychwanegol yma yn helpu ti i fyw yn annibynnol ac yn gyfforddus. Pan fyddi di’n gwneud cais, byddi di’n siarad â gweithiwr proffesiynol fydd yn helpu ti i ddarganfod yn union faint o gymorth ychwanegol dylet ti ei gael bob mis.

Cymorth os wyt ti’n gofalu am rywun arall

Os wyt ti’n treulio llawer o amser yn gofalu am aelod teulu neu ffrind sydd yn sâl neu’n anabl, rwyt ti’n ofalwr ifanc. Mae hwn yn gyfrifoldeb mawr, ac mae cymorth ariannol ar gael i helpu.

Os wyt ti’n 16 neu’n hŷn ac yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun, efallai gallet ti hawlio Lwfans Gofalwr. Mae hwn yn rhoi £86.45 yr wythnos i helpu gyda chostau dy hun. Gallet ti hefyd ymchwilio i Gronfa Cymorth Gofalwyr yng Nghymru, sy’n darparu grantiau i helpu gofalwyr di-dâl i brynu eitemau hanfodol neu gael mynediad i gymorth lles.

Young girl looking after her brother in a wheelchair

Cymorth ychwanegol i ofalwyr ifanc o dan 16 oed

Os wyt ti’n iau nag 16 oed, nid wyt ti’n cael hawlio Lwfans Gofalwr eto, ond nid yw’n golygu nad oes cymorth ar gael. Mae gen ti hawl i ofyn i’r cyngor lleol am Asesiad Gofalwr Ifanc.

Nid prawf yw’r asesiad hwn. Sgwrs ydyw i weld yr effaith mae gofalu yn ei gael ar dy waith ysgol, iechyd, ac amser rhydd. Gall y cyngor wedyn gynnig cymorth, fel cyllid ar gyfer hobïau, seibiannau o dy rôl ofalu, neu gysylltiadau â grwpiau gofalwyr ifanc lleol lle gellir cwrdd â phobl sy’n deall dy brofiadau.

Cludiant am ddim a hanfodion ysgol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plant iau a phobl ifanc. Mae’n helpu teuluoedd i brynu gwisgoedd ysgol, citiau Addysg Gorfforol, a bagiau.

Os wyt ti ychydig yn hŷn ac angen teithio, ymchwilia’r cynllun FyNgherdynTeithio. Mae’n rhoi gostyngiad teithio bws ledled Cymru os wyt ti rhwng 16 a 21 oed. Mae cwrdd â ffrindiau neu fynd i gyfweliadau yn llawer rhatach.

Teen wearing UK school uniform in classroom

Darganfod beth fedri di ei hawlio

Mae sefyllfa pawb yn wahanol, a gall y rheolau ynghylch arian newid. Nid oes rhaid i ti ddeall popeth ar ben dy hun. Ffordd wych i gychwyn yw defnyddio teclyn ar-lein preifat am ddim fel cyfrifiannell budd-daliadau HelpwrArian. Mewn ychydig funudau, bydd yn dangos i ti’r union bethau gallet ti hawlio.

Fedri di siarad â sefydliadau fel Advicelink Cymru hefyd. Gallant edrych ar dy fywyd a dweud yn union beth fedri di ei hawlio.

Cofia, os wyt ti wedi drysu, mae Meic bob tro yma i siarad gyda thi am dy ddewisiadau.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449