Mae pawb wedi ei weld wrth sgrolio cyfryngau cymdeithasol. Mae rhywun rwyt ti’n dilyn yn canmol gofal croen, pâr o drainyrs, neu gêm newydd.
Gall dylanwadwyr (influencers) fod yn ffordd dda i ddarganfod brandiau neu hobïau newydd. Ond cyn clicio ‘prynu’, byddai’n dda i ti ddeall pam bod y fideo yma wedi dangos ar dy ffid.
Beth sy’n gwneud rhywun yn ddylanwadwr?
Nid rhywun enwog gyda miliynau o ddilynwyr yw ‘dylanwadwr’ yn unig. Gallant fod yn ffrydwyr, blogwyr, neu grewyr cynnwys gyda rhai miloedd neu gannoedd o filoedd o ddilynwyr.
Maent yn adeiladu cynulleidfa wrth rannu rhan o’u bywyd neu hobi. Am eu bod nhw’n teimlo’n berthnasol, gall deimlo fel bod y cyngor yn dod gan ffrind yn hytrach nag siop. Dyma pam fod llawer o frandiau yn talu dylanwadwyr i ddangos eu cynhyrchion i ti.
Pam dangos hyn i mi?
Mae dylanwadwyr yn creu cynnwys am wahanol resymau. Weithiau maen nhw wir yn caru’r cynnyrch ac eisiau ei rannu. Ar adegau eraill, maen nhw’n cael eu talu i’w werthu i’w cynulleidfa. Gallant hefyd ennill arian os wyt ti’n prynu rhywbeth gan ddefnyddio eu dolen neu god disgownt.
Nid yw’n amlwg bob tro os ydynt yn rhoi barn annibynnol neu os yw brand yn eu talu i’w hyrwyddo. Dyna pam ei bod hi’n bwysig chwilio am labeli penodol i weld os oes anogaeth ariannol.

Sut i wybod os yw rhywbeth yn #AD
Yn y DU, mae’n ofynnol ar grewyr fod yn glir os ydynt yn derbyn tâl. Chwilia am yr arwyddion yma:
- #Ad, Ad, Advert ayb(Hysbyseb): Maent wedi derbyn tâl i greu’r post.
- #Gifted (Rhodd): Nid ydynt wedi talu am yr eitem, mae’r brand wedi ei yrru iddynt am ddim.
- Dolenni Cyswllt (Affiliate Links): Os wyt ti’n prynu trwy eu dolen, mae’r dylanwadwr yn cael cyfran o’r arian.
- Yr Adolygiad: A yw’n swnio’n rhy berffaith neu wedi’i sgriptio? Mae adolygiadau go iawn fel arfer yn sôn am anfantais fach neu farn gytbwys.
A yw’n teimlo’n rhy dda i fod yn wir?
Yn aml, mae lluniau a fideos yn cael eu hidlo (filtered) neu eu llwyfannu i edrych yn well na bywyd go iawn.
Er enghraifft, os yw rhywun yn dangos eitem gofal croen ac yn dweud “mae fy nghroen i’n glir nawr”, efallai eu bod nhw’n defnyddio hidlwr i newid eu hedrychiad. Neu gallai ffrydiwr gael ei noddi gan frand diod egni. Yn aml mae ganddyn nhw’r caniau ar eu desg fel ‘prop’ ond efallai nad ydynt yn yfed y diod hyd yn oed.

Sut maen nhw’n gwneud i ti deimlo?
Meddylia am y cynnwys rwyt ti’n defnyddio. A yw’r fideo yn gwneud i ti deimlo’n ysbrydoledig ac yn gyffrous, neu fel dy fod di angen prynu rhywbeth i fod yn hapus neu i ffitio gyda eraill?
Os wyt ti’n teimlo angen brys i’w gael, rho gynnig ar hyn: ysgrifenna’r eitem i lawr a dod yn ôl ato mewn ychydig ddyddiau. Os wyt ti wedi anghofio amdano erbyn hynny, mae’n debyg nad oeddet ti ei angen mewn gwirionedd – roeddet ti’n cael dy ddylanwadu ar y pryd.
Cwestiynau i ofyn i ti dy hun
Cyn i ti ymestyn am y cerdyn banc, cymera eiliad i feddwl:
- Pwy sy’n gwneud arian yma? Ydy’r crëwr yn cael ei dalu os cliciaf ‘prynu’?
- Ydw i wir eisiau hwn? Neu ydw i’n hoffi’r person sy’n ei ddangos?
- A yw’n rhagfarnllyd? A fyddent yn dal i siarad am hyn pe na baent yn cael eu talu?
- Beth mae eraill yn ei ddweud? Edrycha ar y sylwadau, gofynna farn ffrindiau a rhieni, neu chwilia am adolygiadau

Ti sy’n penderfynu
Nid oes dim o’i le â phrynu rhywbeth weles di ar gyfryngau cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn dod o hyd i’w hoff gynhyrchion fel hyn!
Y nod yw cadw rheolaeth ar ddewisiadau dy hun. Wrth gadw llygaid allan am hysbysebion a gwneud ychydig o ymchwil, ti sy’n gwneud y penderfyniad – nid y brand.
Angen siarad?
Os wyt ti’n teimlo dan bwysau i wario neu os oes gen ti rywbeth arall ar dy feddwl, nid oes rhaid i ti ddelio ag ef ar ben dy hun. Mae Meic yma bob dydd i siarad, heb farnu. Manylion cyswllt isod.
Eisiau dysgu mwy?
Os wyt ti eisiau ymchwilio’n ddyfnach i’r ffordd mae cyfryngau cymdeithasol yn gweithio a sut i amddiffyn dy feddwl (a dy waled!), dyma rai gwefannau gwych i gychwyn arni:
- Childnet: Lle gwych i ddod o hyd i atebion i gwestiynau fel “Ydw i’n gallu bod yn ffrindiau gyda dylanwadwr?” ac awgrymiadau ar sut i ymdopi â’r pwysau i edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol ar-lein.
- Advertising Standards Authority (ASA): Dyma’r bobl sy’n creu’r rheolau ar gyfer hysbysebion y DU. Mae ganddyn nhw daflenni defnyddiol sy’n esbonio pa labeli y mae’n rhaid i ddylanwadwyr eu defnyddio fel nad wyt ti’n cael dy gamarwain.
- Pwysau Cyfryngau Cymdeithasol: Archwilia pam rydyn ni’n teimlo’r angen i fod yn ‘berffaith’ ar-lein a sut i ymdrin ag ef.
- Effaith Cyfryngau Cymdeithasol ar Bobl Ifanc: Golwg ar sut mae sgrolio yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n bywydau bob dydd.
