Gall bargeinion mawr, amserydd sy’n cyfrif i lawr, a negeseuon fel “dim ond 2 ar ôl!” wneud hi’n anodd meddwl yn glir. Dyma sut mae prynu’n fyrbwyll yn gweithio, ac awgrymiadau syml i reoli dy arian.
Beth yw prynu’n fyrbwyll?
Prynu’n fyrbwyll yw pan rwyt ti’n prynu rhywbeth yn y fan a’r lle, heb fwriadu gwneud. Efallai byddet yn gweld hwdi ar sêl, gêm ar ddisgownt, neu set harddwch mewn fideo TikTok, ac yn sydyn mae o yn dy fasged. Mae’n digwydd i bawb, ac yn enwedig o gyffredin yn yr wythnosau cyn digwyddiadau tymhorol fel Nadolig.
Mae digwyddiadau fel ‘Dydd Gwener Du’ neu ‘Dydd Llun Seibr’ yn gallu gwneud hi’n anoddach fyth i ddweud ‘na’. Mae llawer o siopau yn dechrau hysbysebu’r bargeniau cyn y diwrnod ei hun, sy’n golygu bod y pwysau i brynu yn gallu para’n hirach na fyddet yn ei ddisgwyl.

Pam bod hi mor hawdd i gael dy dynnu i mewn
Mae siopau ac apiau wedi’u dylunio i wneud i ti wario arian. Gan ddefnyddio amserydd sy’n cyfrif i lawr, rhybuddion sy’n fflachio gyda negeseuon fel ‘stoc isel’ neu ‘heddiw yn unig’, maent yn creu teimlad o frys. Weithiau gelwir y teimlad hwn yn ‘FOMO’, sy’n golygu bod ti’n ofni colli allan. Pan rydym yn teimlo bod rhaid i ni frysio, rydym yn llai tebygol o stopio i ofyn a ydyn ni wir eisiau’r peth.
Mae cyfryngau cymdeithasol yn ychwanegu i’r teimladau yma. Yn aml, mae dylanwadwyr yn cael eu talu neu’n derbyn nwyddau am ddim i’w hyrwyddo. Gall hysbysebion dy dargedu di ar sail dy ddiddordebau neu’r hyn rwyt ti wedi edrych arni o’r blaen. Os wyt ti’n teimlo fel bod pawb yn prynu pethau, gall fod yn anoddach dweud na.
Mae achlysuron arbennig yn dod â phwysau ychwanegol hefyd. O gwmpas penblwyddi, gwyliau neu ddathliadau, efallai dy fod di eisiau prynu anrhegion i ffrindiau a theulu, neu’n teimlo bod rhaid i ti gadw lan gyda beth mae pobl eraill yn gwario. Cofia bod y bobl sy’n dy garu di yn gwerthfawrogi’r meddwl y tu ôl i’r anrheg yn fwy na’r pris.

Ydy hi wir yn fargen?
Mae rhai bargeinion ‘Dydd Gwener Du’ yn wirioneddol dda. Ond, dydy rhai ddim mor dda mewn gwirionedd. Weithiau, mae siopau yn codi’r prisiau cyn y sêl er mwyn gwneud i’r disgownt edrych yn fwy. Gall gwefannau cymharu pris ddangos i ti cost pethau dros y misoedd diwethaf, sy’n helpu ti i weld os yw’r fargen yn un go iawn.
Cwestiwn call i ofyn i yw: “a fyddwn i’n prynu hwn heb y disgownt?” Os mai ‘na’ yw’r ateb, efallai bod hi’n well peidio.

Ffyrdd syml i aros mewn rheolaeth
Cyn i’r sêl ddechrau, ysgrifenna rhestr o bethau rwyt ti wir eisiau neu angen, yn ogystal â syniad o faint o arian rwyt ti’n gallu fforddio gwario arnynt.
Os wyt ti’n dod ar draws rhywbeth rwyt ti eisiau prynu, cymera frêc bach i feddwl yn iawn cyn gwneud penderfyniad. Gad o yn y fasged am 24 awr a gweld sut rwyt ti’n teimlo’r diwrnod wedyn. Yn aml, bydd y chwant yn pasio.
Gallet ti hefyd drio diffodd negeseuon ar apiau siopa, a stopio dilyn cyfrifau sy’n gwneud i ti teimlo fel bod angen i ti brynu pethau. Gall rhoi rhwystrau bach mewn lle, fel peidio arbed gwybodaeth cerdyn ar wefannau, rhoi amser i ti feddwl.

Bydd yn ofalus gyda chynlluniau “prynu nawr, talu wedyn”
Os wyt ti dros 18, efallai byddet yn gweld opsiwn i dorri’r gwariant yn ddarnau llai neu dalu wedyn. Er y gall hyn ymddangos yn ddefnyddiol, mae’n hawdd colli trac o’r ddyled sydd gen ti ar draws apiau gwahanol.
Gall fethu taliad arwain at gostau ychwanegol a chael effaith ar dy sgôr credyd (cofnod sy’n cael ei ddefnyddio gan fenthycwyr i benderfynu os ydyn nhw am fenthyg arian i ti). Mae angen i ti fod yn sicr y gallet ti fforddio pob taliad cyn defnyddio’r fath gynllun.

Beth i wneud os wyt ti’n difaru prynu rhywbeth
Os wyt ti wedi prynu rhywbeth ar-lein o fewn y DU, fel arfer bydd gen ti 14 diwrnod i newid dy feddwl a danfon yn ôl, hyd yn oed os nad oes rhywbeth yn bod gyda’r cynnyrch. Mae yna eithriad i rai eitemau, er enghraifft nwyddau personoledig. Bydd rhai siopau yn cynnig cyfnodau hirach i ddanfon eitemau yn ôl dros gyfnod y Nadolig, felly mae gwerth edrych ar bolisi pob un.
Mae pawb yn prynu pethau’n fyrbwyll weithiau, felly nid oes rhaid i ti deimlo’n euog.
Cael cymorth
Os wyt ti’n poeni am arian, gall siarad gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt helpu’n fawr. Gallet ti siarad gyda Meic.
