Hide Page

Straen Arholiadau yn Achosi Niwed i Bobl Ifanc

Gyda’r cyfnod arholiadau yn cyrraedd, mae ffigyrau newydd rhyddhawyd gan Meic – y llinell gymorth i bobl ifanc yng Nghymru – yn dangos bod y rhai sydd yn astudio, yn sefyll neu’n disgwyl canlyniadau arholiadau yn gyfrifol am 10% o holl gysylltiadau yn ystod 2014-2015.

Gydag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hefyd yn digwydd o 11-17 Mai, mae Meic wedi rhyddhau ffigyrau yn dangos bod 19% o holl gysylltiadau arholiadau yn ystod 2014-2015 yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Dywedai Alice, myfyriwr o Gaerdydd, “Yn aml mae’n ymddangos fel bod mwy o wybodaeth am symptomau straen nag y sydd o ffyrdd i’w oroesi. Mae’n fy ngwylltio i weld y holl dudalennau cyngor yma yn rhestru ‘symptomau straen’… dwi eisiau goroesi’r pla.”

Darllena erthygl Alice, Casáu Bodolaeth Arholiadau sydd yn cynnig awgrymiadau o’r pethau gellir eu gwneud i roi’r cyfle gorau i ti ac i ofalu am dy iechyd meddwl.

Dywedai Pennaeth Meic, Stephanie Hoffman, “Gall arholiadau fod yn amser o newid, cyffro, pryder a disgwyliad, ble mae pobl ifanc yn gallu teimlo pwysau mawr ac ansicrwydd am y dyfodol.

“Mae Meic yma i helpu ac i gefnogi pobl ifanc mewn cyfnodau anodd fel straen arholiadau. Gallem wrando, siarad gyda chi a helpu chi i ddod o hyd i ffordd i symud ymlaen.”

Gall plant a phobl ifanc yng Nghymru, hyd at 25 oed, gysylltu â Meic 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, yn gyfrinachol ac am ddim.

Am wybodaeth bellach ymwela â’n blogiau a thudalennau Cael Help, neu am gyngor gyrfaoedd cysyllta â Gyrfa Cymru.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449