Hide Page

Deall dy Hawliau: Bwlio

Dy hawl i ddiogelwch a pharch

Mae gen ti’r hawl i deimlo’n ddiogel, i gael parch a chael dy amddiffyn ym mhob man rwyt ti’n mynd – yn yr ysgol, ar-lein, ac yn dy gymuned. Pan ddaw i fwlio, mae’r gyfraith a chonfensiynau hawliau dynol yn sicrhau bod gen ti’r hawl i:

  • Amddiffyniad a gofal: Mae dy les yn cael ei ddiogelu, ac mae gen ti’r hawl i oroesi a datblygu’n llawn (CCUHP Erthygl 6)
  • Diogelwch yn yr ysgol: Mae gen ti’r hawl i ddisgwyl i dy ysgol ddilyn safonau’r llywodraeth i dy gadw’n ddiogel ac yn rhydd o fwlio (CCUHP Erthygl 3)
  • Rhyddid meddwl a mynegiant: Mae gen ti’r hawl i ddweud, meddwl a chredu beth rwyt ti’n ei hoffi, ac i gwrdd a threulio amser gyda phobl (CCUHP Erthygl 13, 15)
  • Amddiffyn rhag ymosodiad: Mae gen ti’r hawl i gael amddiffyniad rhag ymosodiadau ar dy anrhydedd a dy enw da – mae hyn yn cynnwys seiberfwlio (CCUHP Erthygl 16)
  • Adferiad a chymorth: Os bydd bwlio yn digwydd, mae gen ti’r hawl i gefnogaeth i wella a chael yn ôl i fwynhau dy fywyd (CCUHP Erthygl 37)

Mae bwlio yn ddifrifol: gall fod yn drosedd

Mae trosedd yn drosedd p’un a yw’n digwydd ar y stryd, yn y cartref, yn y parc, neu yn yr ysgol. Gall llawer o weithredoedd a ddisgrifir fel ‘bwlio’ fod yn droseddau difrifol. Yng Nghymru a Lloegr, gall pobl gael eu cyhuddo o drosedd o 10 oed.

  • Lladrad: Os yw rhywun yn defnyddio bygythiadau a thrais i gymryd dy arian, dyna’r drosedd ddifrifol o ladrad (Deddf Dwyn 1968, Adran 8). Gall y person yma wynebu carchar os penderfynir eu bod yn euog
  • Troseddau eraill: Yn dibynnu ar y ffeithiau, gallai bwlio hefyd gael ei drin fel ymosodiad, aflonyddu neu ddwyn

Dychmyga hyn: Pe bai’r person sy’n cael ei fygwth yn berson oedrannus, a fyddai’r athro yn dal i ddweud, ‘Anwybydda nhw’? Mae gan bawb yr hawl i amddiffyniad cyfartal o dan y gyfraith.

Yr hyn y mae’n rhaid i ysgolion ei wneud yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd cyfreithiol rhwymol i bob ysgol ar yr hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud am fwlio, gan nodi: Mae gan bob dysgwr ym mhob ysgol yr hawl i ddysgu, yn rhydd o ofn bwlio, pa bynnag ffurf y gall y bwlio ei gymryd.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r ysgol:

  1. Cael polisïau: Cael polisïau clir ar waith i atal a delio â bwlio ar unwaith
  2. Gweithredu: Rhaid i’r athrawon gymryd pob digwyddiad o ddifrif, gwrando arnat ti, a chymryd camau i dy amddiffyn

Os wyt ti’n cael dy fwlio, mae’n dy atal rhag mwynhau gweithgareddau y mae gen ti hawl i’w gwneud. Mae gan dy athrawon gyfrifoldeb cyfreithiol i amddiffyn dy hawliau.ps you from enjoying activities you have a right to do. Your teachers have a legal responsibility to protect your rights.

Beth i’w wneud nesaf

Os wyt ti’n cael dy fwlio neu’n dyst i fwlio, mae gen ti’r hawl i siarad a chael dy glywed.

Rho wybod amdano a’i gofnodi:

  • Cer yn syth at dy athro, neu aelod o staff rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt
  • Cadwa ddyddiadur neu gofnod o’r hyn sydd wedi digwydd (dyddiadau, amseroedd, lleoliadau, a’r hyn a ddywedwyd)

Oes gen ti gwestiynau? Angen help?

Cysyllta â ni ar linell gymorth Meic a byddwn yn hapus i helpu ti ddeall dy hawliau neu ddod o hyd i gefnogaeth.


Cyfeiriadau cyfreithiol:

  • Erthyglau CCUHP 2, 3.2, 3.3, 6, 13, 14, 15, 16, 28, 29, 31, 37, 38
  • Deddf Dwyn 1968, Adran 8
  • Llywodraeth Cymru: Parchu eraill: trosolwg gwrth-fwlio 2011

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449