Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo’n dda am y dewis hwnnw yng nghwmni ffrindiau, mewn partïon ac ym mywyd bob dydd.
Beth yw sobrwydd?
Mae sobrwydd yn golygu peidio yfed neu gymryd cyffuriau. Mae rhai pobl yn dewis bod yn sobr am gyfnod byr, fel mis o beidio yfed i Hydref Sobr neu Ionawr Sych, tra bod pobl eraill yn dewis bod yn sobr trwy’r amser.
I rai pobl ifanc, mae yfed alcohol neu gymryd cyffuriau yn rhywbeth nad ydynt erioed wedi dechrau. I rai eraill, mae’r penderfyniad yn dod ar ôl sylwi bod eu defnydd o alcohol neu gyffuriau ddim yn iach iddynt.

Pam bod pobl ifanc yn dewis sobrwydd
Mae pobl yn dewis bod yn sobr am lawer o resymau. I rai, maen nhw eisiau teimlo’n fwy iach, cysgu’n well, neu gael mwy o egni am chwaraeon, gwaith ysgol, neu ddiddordebau. Weithiau, mae pobl yn gweld yr effaith mae alcohol neu gyffuriau wedi’i gael ar rywun sy’n agos iddynt. Dyw rhai ddim yn hoffi sut mae’n gwneud iddynt deimlo, neu mae’n well ganddyn nhw arbed eu harian.
Iechyd yw’r rheswm i rai pobl. Mae alcohol a chyffuriau yn gallu newid sut rwyt ti’n meddwl, teimlo, ac yn bihafio. Os wyt ti’n feichiog, y peth fwyaf diogel yw osgoi alcohol a chyffuriau yn gyfan gwbl, gallent achosi niwed i’r babi.
Nid yw rhai meddyginiaethau’n cymysgu’n dda gydag alcohol, gan gynnwys rhai gwrthfiotigau a chyffuriau gwrth-iselder. Mae cymryd y cyffuriau yma ac yfed yn gallu achosi i ti deimlo’n sâl neu’n atal y feddyginiaeth rhag gweithio’n iawn. Os nad wyt ti’n sicr os gallet ti yfed ar dy feddyginiaeth, gwiria’r daflen sy’n dod yn y pecyn neu gofynna i fferyllydd neu dy feddyg teulu.
Gall crefydd a diwylliant fod yn rheswm hefyd. Mewn rhai crefyddau a chymunedau, nid yw alcohol a chyffuriau yn rhan o fywyd bob dydd, ac felly mae bod yn sobr yn teimlo’n naturiol. Mae rhai pobl yn dewis sobrwydd am ei fod yn cyd-fynd â’u gwerthoedd a’r ffordd maen nhw eisiau byw.
Mae niferoedd mwy o bobl ifanc ar draws y DU yn dewis yfed llai neu beidio yfed o gwbl. Felly, os wyt ti’n ystyried hynny, dwyt ti ddim ar ben dy hun.

Delio gyda cwestiynau a pwysau
Gall delio gydag ymatebion pobl eraill fod yn un o’r rhannau fwyaf anodd am fod yn sobr. Efallai bydd ffrindiau yn gofyn pam nad wyt ti’n yfed, neu’n ceisio dy berswadio i “jest cael un”.
Weithiau, mae pobl yn teimlo’r pwysau fwy fyth pan maent yn mynd i ddigwyddiad lle mae’n ‘normal’ i gymryd sylweddau, fel priodas, noson clwb, neu ddathliad fel penblwydd, Nadolig, neu Flwyddyn Newydd.
Rhan fwyaf o’r amser, dydy pobl ddim yn ceisio bod yn gas. Efallai byddent wedi synnu, neu’n teimlo ychydig yn anghyfforddus am eu dewisiadau nhw. Neu efallai eu bod nhw’n awyddus i ti fwynhau dy hun, a ddim yn deall sut gallet ti fwynhau’n sobr.
Gall helpu i baratoi ateb syml. Mae rhywbeth fel “dwi ddim yn yfed heno” neu “dwi’n iawn, diolch” yn ddigon. Efallai byddai’n haws dal diod feddal neu ddi-alcohol yn dy law fel bod llai o bobl yn gofyn.
Os yw rhywun yn parhau i wthio ar ôl i ti ddweud na, maen nhw’n rhoi pwysau arnat, ac mae’n iawn i gymryd cam i ffwrdd neu dreulio amser gyda phobl wahanol. Bydd ffrindiau go iawn yn parchu dy benderfyniad, hyd yn oed os ydynt yn gwneud un gwahanol.

Cael hwyl heb alcohol a chyffuriau
Mae rhai pobl yn poeni bydd bod yn sobr yn golygu cael dy adael allan. Gall teimlo’n rhyfedd i ddechrau, yn enwedig os yw yfed yn rhan fawr o sut mae dy ffrindiau yn cymdeithasu. Dros amser, mae lot o bobl yn ffeindio bod nhw’n mwynhau cofio nosweithiau allan, yn deffro’n teimlo’n ffres, a chael sgyrsiau go iawn.
Gallet ti awgrymu gweithgareddau sydd ddim yn ymwneud â yfed, fel tripiau i’r sinema, gigiau, chwaraeon, chwarae gemau, neu fynd am bryd o fwyd. Gallet ti hefyd ffeindio ffrindiau newydd trwy glybiau, gwirfoddoli, neu grwpiau gyda diddordebau ti’n rhannu.

Beth yw’r gyfraith?
Yn y DU, rhaid i ti fod yn 18 i brynu alcohol. Mae’n anghyfreithlon i oedolyn brynu alcohol i ti os wyt ti o dan 18, a gall yr heddlu gymryd yr alcohol gen ti os wyt ti’n yfed mewn mannau cyhoeddus. Mae cyffuriau megis canabis, cocên ac ecstasi yn anghyfreithlon beth bynnag yw dy oedran, a gall meddu neu rannu nhw arwain at drwbl difrifol.
Hyd yn oed os wyt ti wedi gwneud rhywbeth sydd yn erbyn y gyfraith, gallet ti dal cael cymorth. Mae gwasanaethau cymorth yna i wrando, nid i feirniadu neu achosi trwbl i ti. Byddent yn cadw’r hyn ti’n ddweud yn breifat, er efallai bydd rhaid iddynt rannu gwybodaeth os ydyn nhw’n poeni dy fod di neu rywun arall ddim yn ddiogel.

Os wyt ti’n ffeindio hi’n anodd stopio
Os wyt ti wedi bod yn yfed neu’n defnyddio cyffuriau ac eisiau stopio, ond mae’n anoddachnag oeddet ti’n ei ddisgwyl, mae hynny’n gyffredin. Mae’n cymryd amser, ac efallai bydd rhwystrau ar hyd y ffordd, ond dalia ati!
Gall siarad gyda rhywun wneud gwahaniaeth. Gall fod yn ffrind, aelod o’r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid neu dy feddyg teulu. Yng Nghymru, mae DAN 24/7 yn llinell gymorth am ddim a chyfrinachol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth neu gymorth am alcohol a chyffuriau.
Mae hefyd mwy o wybodaeth a gwasanaethau cymorth dibyniaeth i’w weld ar ein gwefan.
Os wyt ti’n teimlo’n sâl neu’n anniogel wrth yfed neu gymryd cyffuriau, galwa 999 i gael cymorth ar unwaith.

Bydda’n falch o dy benderfyniad
Mae bod yn sobr yn cymryd hyder, yn enwedig pan mae’n teimlo fel bod pawb o’th gwmpas yn gwneud dewisiadau gwahanol. Beth bynnag dy resymau, bydda’n falch o dy hun am wneud dewis sy’n teimlo’n gywir i ti.
Cofia, mae’n iawn i ti newid dy feddwl. Cymera pethau un diwrnod ar y tro, a gofyn am gymorth pan fyddi di ei angen. Os hoffet ti siarad am bethau, mae Meic yma i wrando a helpu ti i ddarganfod y cymorth iawn i ti.
