Beth sy’n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a’r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.
Beth yw trosedd casineb?
Trosedd casineb yw pan fydd rhywun yn cyflawni trosedd yn erbyn rhywun oherwydd pwy ydyn nhw. Mae hefyd yn cyfrif os yw’n digwydd oherwydd pwy maen nhw’n meddwl yw’r person hwnnw.
Mae’r gyfraith yng Nghymru yn cydnabod pum math o drosedd casineb. Maen nhw’n seiliedig ar hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol rhywun.
- Mae hil yn cynnwys pethau fel lliw croen, cenedligrwydd ac o ble daw dy deulu.
- Mae crefydd yn cynnwys y rhai sydd heb grefydd o gwbl.
- Mae cyfeiriadedd rhywiol yn golygu’r bobl sy’n ddeniadol i ti.
- Mae anabledd yn golygu cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith fawr a pharhaol ar fywyd bob dydd rhywun.
- Mae hunaniaeth drawsryweddol yn golygu pan fydd rhyw rywun yn wahanol i’r rhyw penodwyd ar eu genedigaeth..
Gall troseddau casineb ddigwydd unrhyw le – ar y stryd, yn yr ysgol, ar y bws neu ar-lein. Gallai gynnwys bygythiadau, taro rhywun, difrodi eiddo neu anfon negeseuon sarhaus. Mae’r weithred yn drosedd casineb pan mae’r weithred yn anghyfreithlon ac oherwydd y rheswm amdano.

Beth am ddigwyddiadau casineb?
Weithiau gall rhywbeth sy’n llawn casineb ddigwydd sydd ddim yn groes i’r gyfraith. Gelwir hyn yn ddigwyddiad casineb. Efallai ei fod yn sylw niweidiol neu rywun yn cael ei dargedu oherwydd y person ydynt.
Mae modd riportio digwyddiadau casineb hefyd. Mae riportio digwyddiadau o’r fath yn helpu’r heddlu a gwasanaethau cymorth i nodi patrymau a chadw pobl yn fwy diogel.
Mae’n bwysig deall bod y ffiniau rhwng digwyddiadau casineb a throsedd casineb yn gallu bod yn aneglur. Er enghraifft, os yw rhywun yn gwneud sylwadau llawn casineb dro ar ôl tro, gellir ystyried hynny’n aflonyddu, sy’n drosedd.
Pa effaith gall troseddau casineb ei gael ar rywun
Mae cael dy dargedu oherwydd pwy wyt ti yn gallu brifo. Efallai dy fod di’n teimlo ofn, blin, trist neu’n unig, neu’n dechrau teimlo’n anniogel mewn llefydd yr oeddet ti’n arfer ei fwynhau. Efallai dy fod di’n osgoi’r ysgol neu’r gwaith, yn aros gartref yn amlach, neu’n rhoi’r gorau i wneud pethau rwyt ti’n caru.
Mae’n gallu chwalu hyder rhywun hefyd. Efallai y byddi di’n dechrau teimlo cywilydd o’r person wyt ti, er nad wyt ti wedi gwneud dim o’i le.
Mae teimlo fel hyn ar ôl profiad tebyg yn iawn. Mae pawb yn ymateb yn ei ffordd ei hun.
Gall troseddau casineb effeithio ar gymunedau cyfan hefyd. Pan fydd unigolyn yn cael ei dargedu oherwydd pwy ydyw, gall eraill sy’n rhannu’r un hunaniaeth deimlo’n bryderus hefyd.

Os yw hyn wedi digwydd i ti
Nid wyt ti ar fai am beth ddigwyddodd. Mae gen ti hawl i deimlo’n ddiogel ac i fod yn ti dy hun.
Os wyt ti mewn perygl, ceisia gyrraedd man diogel yn gyntaf. Gall helpu i ddweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt. Galla hyn fod yn aelod o’r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid neu ffrind.
Os fedri di, mae ysgrifennu’r hyn ddigwyddodd yn gallu helpu weithiau. Noda’r dyddiad, yr amser, y lle ac unrhyw beth a ddywedwyd neu a wnaed. Gall sgrin lun o negeseuon ar-lein fod yn ddefnyddiol hefyd, gan fod hyn yn dystiolaeth. Mae’n syniad da safio’r rhain cyn blocio rhywun.
Sut i adrodd trosedd casineb yng Nghymru
Os yw rhywun mewn perygl neu os yw’n digwydd ar hyn o bryd, ffonia 999. Os nad yw’n argyfwng, ffonia’r heddlu ar 101. Mae posib adrodd ar-lein hefyd trwy wefan yr heddlu lleol.
Dewis arall yw Canolfan Cymorth Casineb Cymru. Elusen Cymorth i Ddioddefwyr (Victim Support) sy’n rhedeg y gwasanaeth. Mae posib ffonio am ddim ar 0300 30 31 982, unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Fedri di hefyd adrodd ar-lein. Gallant wrando, trafod opsiynau a chynnig cefnogaeth, p’un a wyt ti’n mynd at yr heddlu neu beidio. Os wyt ti’n 13 oed neu’n hŷn, fedri di gysylltu â nhw dy hun. Os wy ti’n iau nag 13 oed, gall rhiant neu ofalwr helpu i gysylltu â nhw.
Fedri di hefyd ffonio Fearless, sy’n rhan o Crimestoppers, ar 0800 555 111.
Gall adrodd am drosedd deimlo fel cam mawr. Mae’n iawn i ti gymryd ychydig o amser. Pa bynnag bryd fyddi di’n barod, mae cymorth ar gael, hyd yn oed os digwyddodd pethau beth amser yn ôl!
Os wyt ti’n gweld hyn yn digwydd i rywun arall
Os wyt ti’n gweld trosedd casineb yn digwydd i rywun arall, dy ddiogelwch di yw’r peth pwysicaf. Gall ymyrryd ar y funud honno dy roi di mewn perygl weithiau.
Gallet ti ofyn sut mae’r person wedyn a rhoi gwybod iddynt nad ydynt ar eu pen eu hun. Gallet ti hefyd eu helpu i riportio’r digwyddiad. Neu gallet ti ei riportio dy hun fel tyst, sy’n golygu dy fod di wedi gweld beth ddigwyddodd. Gall pethau bach fel hyn wneud gwahaniaeth mawr.
Siarad â Meic
Os yw rhywbeth wedi digwydd a ti ddim yn siŵr beth i’w wneud, siarada â Meic. Gallwn wrando, helpu ti i ystyried dy opsiynau a chefnogi ti i riportio os wyt ti eisiau gwneud hynny.
Mae Meic yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, ar agor o 8yb tan hanner nos bob dydd.
