Hide Page
Chwyddwydr gyda'r gair Newyddion yn y canol

Camdriniaeth Rywiol yn y Cyfryngau

Mae hanes camdriniaeth rywiol yn y cyfryngau i’w weld ymhobman ar hyn o bryd, ac mae gweld pethau fel hyn yn gallu teimlo’n ormod i rywun weithiau.

Efallai dy fod di wedi gweld straeon am bobl enwog neu bobl eraill adnabyddus. Mae’r straeon yma yn aml yn trafod camdriniaeth a thrais rhywiol. Gall ymddangos fel bod y penawdau yma ymhobman – wrth agor dy ffôn, troi’r teledu ymlaen, mae’n anodd ei osgoi. Gall hyn deimlo’n ormod ac ypsetio lot o bobl.

Pam bod straeon camdriniaeth rywiol mor anodd ei darllen?

Mae adroddiadau fel hyn yn gallu codi teimladau gwahanol. Gallet ti deimlo’n flin bod pobl wedi cael eu brifo. Efallai dy fod di’n teimlo’n drist i’r rhai sydd ddim yn cael eu credu.

I rai, gall y straeon yma fod yn ‘sbardun’ emosiynol. Golygai hyn eu bod yn gallu codi emosiynau ‘sbardun’ fel ofn neu ddicter sydd efallai’n gysylltiedig â rhywbeth drwg a ddigwyddodd yn y gorffennol. Os wyt ti wedi profi trawma neu gamdriniaeth o’r blaen (camdriniaeth hanesyddol), gall y teimladau hen yma godi unwaith eto, ac yn gryf iawn, sydd yn ffordd normal i’r ymennydd ymateb.

Mae’n enwedig o anodd pan fydd y cyfryngau’n siarad am ddioddefwyr sydd ddim yn cael eu credu. Gall hyn achosi i bobl deimlo fel nad yw eu llais nhw’n bwysig chwaith. Efallai bydd yn gwneud i ti boeni am ddweud rhywbeth wrth rywun am dy brofiadau.

Mae gweld rhywun enwog neu ddylanwadol ddim yn derbyn cosb am bethau fel hyn yn achosi dryswch. Gall wneud i’r byd deimlo fel lle annheg neu anniogel. Mae’r teimladau yma’n ddilys, ac mae llawer o bobl eraill yn teimlo fel hyn hefyd.

Boy sat on step looking upset at his phone

Pa effaith mae newyddion camdriniaeth rywiol yn ei gael ar dy feddwl?

Gall gweld straeon parhaus am ymosodiadau rhywiol achosi’r corff i fynd i stad o argyfwng. Efallai byddi di’n teimlo’n nerfus neu yn cael trafferth ymlacio. Efallai bod cysgu’n anodd neu rwyt ti’n meddwl am y newyddion trwy’r dydd.

Mae rhai pobl yn teimlo’n ddideimlad, pan na fedri di deimlo unrhyw emosiynau o gwbl. Mae’r meddwl yn gwneud hyn i amddiffyn rhag gofidio gormod.

Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i ti ddarllen yr holl fanylion. Mae newyddiadurwyr yn aml yn defnyddio iaith cyffroi, sef defnyddio geiriau er mwyn rhoi sioc neu i dynnu sylw. Mae’n iawn i ti droi i ffwrdd – nid wyt ti’n anwybyddu’r broblem wrth ddewis amddiffyn dy heddwch meddwl.

Cymryd brêc o’r sgrin

Un o’r pethau gorau gallet ti ei wneud yw gosod ffiniau gyda dyfeisiau, fel y ffôn neu’r teledu.

Gallet ti ddewis mudo geiriau penodol ar gyfryngau cymdeithasol fel bod y straeon yma ddim yn ymddangos. Os yw sgwrs mewn sgwrs grŵp yn teimlo’n ormod, yna fedri di adael.

Gall ‘detox’ digidol helpu hefyd, sef cadw draw o’r rhyngrwyd am gyfnod byr.

Gallet ti dreulio amser ar y pethau sy’n gwneud i ti deimlo’n ddiogel ac yn gadarn yn lle hynny. Beth am fynd am dro, gwrando ar gerddoriaeth, neu chwarae gêm? Mae canolbwyntio ar y byd o’th gwmpas yn gallu helpu i ddistewi’r twrw gan y cyfryngau. Mae’n atgoffa ti bod mwy i fywyd nag y pethau yn y penawdau.

Person comforting a young girl

Finding someone to talk to

Darganfod rhywun i siarad â nhw

Os wyt ti’n teimlo’n isel oherwydd y newyddion, paid cuddio’r teimladau yma.

Gall siarad gyda ffrind helpu, ond weithiau efallai bydd angen siarad â rhywun proffesiynol. Gweithiwr proffesiynol yw rhywun fel cwnselydd neu weithiwr cymorth sydd wedi’u hyfforddi i helpu. Maent yn deall sut i wrando heb feirniadu. Gallant roi’r adnoddau i helpu ti i ddelio â’r emosiynau rwyt ti’n teimlo.

Rhai gwasanaethau defnyddiol sy’n cael eu cynnal gan bobl broffesiynol:

  • Camdriniaeth Rywiol NSPCC: Gwybodaeth am gamdriniaeth rywiol plant, sut i’w adnabod a chefnogi plentyn sy’n ddioddefwr
  • Byw Heb Ofn: Llinell gymorth 24/7 i unrhyw un yng Nghymru sy’n profi camdriniaeth neu drais rhywiol. Gallet ti ffonio unrhyw amser ar 0808 8010 800, tecst 07860077333, neu ymweld â’u gwefan am sgwrs fyw
  • Cymorth i Ferched Cymru: Elusen yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd i drais yn erbyn merched a genethod
  • Galop: Elusen wrth-gamdriniaeth LHDT+ yn gweithio gyda, ac ar ran, dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth a thrais LHDT+
  • Survivors UK: Darparu cwnsela i gefnogi goroeswyr camdriniaeth, ymosodiad neu drais rhywiol sy’n wrywaidd neu’n anneuaidd
  • Rape Crisis: Gwybodaeth a chymorth arbenigol i rai wedi’u heffeithio gan drais, camdriniaeth, neu aflonyddu rhywiol a phob math arall o drais a chamdriniaeth rywiol.

Mae Meic yn llinell gymorth sy’n cael ei redeg  gan gynghorwyr proffesiynol cyfeillgar sydd ddim yn barnu. Maent wedi’u hyfforddi i roi gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i ti. Mae cysylltu â llinell gymorth Meic yn rhad ac am ddim, a gellir sgwrsio â chynghorwr yn Saesneg neu’n Gymraeg.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449