Hide Page
Teen girl floating in an inflatable ring donut on a pool

Cyllidebu ar Gyfer y Gwyliau Haf

Sut i gynllunio gwariant dros yr haf, cynilo ar gyfer teithio gyda ffrindiau, a mwynhau’r gwyliau heb redeg allan o arian.

Trap gwariant yr haf

Mae diwedd y tymor ar y gorwel, ac mae cyfri’r dyddiau nes cychwyn y gwyliau haf wedi cychwyn. P’un a wyt ti’n gorffen arholiadau, yn cyflwyno aseiniadau terfynol, neu’n mynd i’r ychydig ddarlithoedd olaf, mae paratoi ar gyfer cyfnod hir o seibiant o’r ysgol, coleg neu brifysgol yn cymryd ychydig o baratoi.

Cyfrifo dy incwm dros yr haf

Cyn i ti gynllunio dy wario, mae angen i ti ddeall yn union faint o arian sydd gen ti. Eisteddfa i lawr ac ysgrifenna restr sydyn o’r holl arian sydd yn dod i mewn dros fisoedd yr haf. Gall hyn fod yn:

  • Gyflog o swydd haf neu ran amser
  • Arian poced gan rieni neu ofalwyr
  • Arian rwyt ti wedi cynilo dros flwyddyn

Y cyfanswm yma yw’r pwynt cychwyn. Mae gwybod y ffigwr yma yn helpu ti i weld pa gynlluniau’r haf sydd yn realistig.

Friends playing tug of war in a field

Gwahanu’r hyn rwyt ti ei angen o’r hyn rwyt ti eisiau

Unwaith rwyt ti’n gwybod cyfanswm dy incwm, rhanna gynlluniau’r haf yn bethau mae’n rhaid i ti ei dalu a’r pethau rwyt ti eisiau gwneud:

  • Anghenion: y pethau sydd ddim yn opsiwn, pethau fel tocyn bws neu drên i fynd i’r gwaith, neu gyfrannu tuag at fwyd neu rent gartref.
  • Eisiau: y pethau hwyl fel tocynnau i ŵyl, taith i’r sinema, neu wyliau gyda ffrindiau.

Tynna’r pethau mae’n rhaid talu amdanynt o’r arian sydd gen ti i gychwyn. Beth bynnag sy’n weddill ydy dy bot gwario haf swyddogol.

Cynilo ar gyfer gwyliau neu daith fawr

Os wyt ti’n cynllunio gwyliau neu ddiwrnod allan mawr, paid disgwyl tan yr wythnos cynt i ddod o hyd i’r arian. Cyfrifa’r holl gostau mor fuan â phosib.

Os bydd taith sydd yn digwydd mewn pedair wythnos yn costio £400, mae angen i ti gynilo £100 yr wythnos. Rho’r arian gwyliau yma mewn pot bancio ar wahân neu gyfrif cynilo gwahanol unwaith y daw i law. Bydd symud hwn allan o’r prif gyfrif yn golygu na fyddi di’n ei wario ar ddamwain ar eitemau bob dydd fel byrbrydau neu ddillad.

Friends camping together

Darganfod pethau rhatach

Dyw cyllido ddim yn golygu eistedd gartref yn gwneud dim. Mae’n golygu darganfod ffyrdd clyfar, rhatach i wneud pethau. Mae rhai o dirweddau prydfertha’r byd i’w cael yng Nghymru, ac mae yna lawer o weithgareddau’r haf fydda’n costio dim.

  • Diwrnod traeth: Cer draw i’r arfordir ar y bws neu drên gyda Fy Ngherdyn Teithio i deithio’n rhatach.
  • Picnic yn y parc: Yn hytrach nag gwario £15 yr un yn y caffi, gofynna i bawb ddod ag un eitem o adref – fel creision, ffrwythau, brechdanau – a chyfarfod yn y parc.
  • Digwyddiadau am ddim: Cadwch lygaid allan am ddigwyddiadau am ddim sydd yn digwydd yng Nghymru dros y gwyliau, fel amgueddfeydd lleol, gwyliau cymunedol, a digwyddiadau awyr agored.

Beth os nad oes gen ti gyfrif banc eto?

Paid poeni os nad oes gen ti gyfrif banc eto. Gallet ti gynilo’r un mor hawdd yn defnyddio’r pethau sydd gen ti adref.

Casgla ychydig o jariau neu amlenni gwag a’u labelu. Enwa pob un yn rhywbeth rwyt ti’n edrych ymlaen ato sydd angen cynilo amdano. Er enghraifft, gallet ti enwi un ‘Gŵyl’, un arall yn ‘Gwario Dyddiol’, un arall yn ‘Arian Argyfwng’.

Pan fyddi di’n cael arian pen-blwydd neu bres poced, rhanna’r arian i’r jariau’n syth.

Angen help?

Os wyt ti’n teimlo straen am arian weithiau, neu angen help i ddeall sut i gyllidebu, cofia fedri di sgwrsio â Meic am gymorth am ddim.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449