Gall rheoli dy gyflog cyntaf fod braidd yn frawychus. Edrychai’r blog yma ar beth ellir ei ddisgwyl pan fyddi di’n cael dy dalu, deall dy slip cyflog, a sut i ofalu am yr arian rwyt ti wedi gweithio’n galed amdano.
Camu i fyd gwaith
Mae cael swydd am y tro cyntaf yn garreg filltir mawr iawn. Gallai fod yn rôl llawn amser, rhan amser i gyd-fynd ag addysg, neu swydd dros dro i gadw’n brysur dros wyliau’r haf.
Beth bynnag yw’r swydd, mae’n golygu cyfrifoldebau newydd a llawer mwy o ryddid. Gorau oll, mae’n golygu ennill arian annibynnol dy hun.
Beth yw PAYE a CThEF (HMRC)?
Pan fyddi di’n gweld dy slip cyflog cyntaf, efallai byddi di’n sylweddoli bod y tâl rwyt ti’n ei gael yn is nag yr oeddet ti wedi’i ddisgwyl. Fel arfer y system PAYE yw’r rheswm dros hyn, sef y cynllun Talu Wrth Ennill.
Dim ond os wyt ti’n gweithio i gyflogwr y mae PAYE yn berthnasol. Golygai hyn eu bod yn cymryd treth ac Yswiriant Gwladol allan o dy gyflog yn awtomatig ac yn ei yrru’n syth i CThEF, sef adran y llywodraeth sydd yn casglu treth.
Yn y DU, mae posib ennill hyd at £12,570 y flwyddyn cyn gorfod talu Treth Incwm. Os wyt ti’n gweithio’n rhan amser, neu am ychydig o wythnosau, mae’n debyg na fyddi di’n cyrraedd y trothwy yma.
Weithiau, pan fyddi di’n cychwyn swydd newydd, byddant yn dy roi ar god treth argyfwng dros dro tra mae’r CThEF yn disgwyl i dy fanylion ddiweddaru. Golygai hyn y byddi di’n talu ychydig gormod o dreth am yr wythnosau/misoedd cyntaf. Paid mynd i banig os yw hyn yn digwydd, maen hawdd ei ddatrys. Dweud wrth dy gyflogwr neu cysyllta â CThEF. Bydd unrhyw arian rwyt ti wedi’i dalu yn cael ei ad-dalu’n trwy dy gyflog.

Agor cyfrif banc cywir
Bydd cyflogwr angen manylion banc er mwyn gallu talu dy gyflog. Os nad oes gen ti gyfrif banc, yna mae posib agor un yn sydyn ar-lein neu wrth ymweld â banc ar y stryd fawr leol. Bydd angen prawf ID a chyfeiriad.
Ymladd yr ysfa i wario’r cyfan
Pan fyddi di’n derbyn dy gyflog cyntaf, gall y temtasiwn i fynd a gwario’r cyfan a phrynu’r pethau rwyt ti eisiau fod yn gryf. Rwyt ti wedi gweithio’n galed am hwn, felly’n bendant dylet ti brynu rhywbeth neis i dy hun, ond ceisio peidio gwario’r cyfan yn syth.
Tric da yw trefnu dy arian ar ddiwrnod y taliad. Gall cyllidebu (budgeting) dy gyflog helpu. Beth am roi tro ar y rheol 50/30/20, sydd yn gallu helpu ti i feddwl faint o arian i roi mewn cyfrif cynilo (savings) neu bot digidol cyn i ti ddechrau gwario. Byddi di’n diolch i dy hun yn hwyrach ymlaen pan fydd gen ti arian dros ben ar gyfer nodau mwy.
Meddwl am dy gostau
Hyd yn oed os wyt ti’n byw gartref, mae costau bob dydd ychwanegol ynghlwm â chael swydd fel arfer. Mae’n syniad da i gymryd amser i feddwl am dy gostau rheolaidd.
Er enghraifft, wyt ti angen:
- Talu am fws neu docyn trên i gael i’r gwaith?
- Prynu cinio tra rwyt ti yno?
- Talu am wisg gwaith penodol?
- Cyfrannu tuag at filiau neu rent adref?
Tynna’r costau yma o dy gyflog gyntaf, fel dy fod di’n gwybod yn union faint o arian gwario sydd gen ti ar ôl.

Cadw’r slipiau cyflog yn ddiogel
Bob tro rwyt ti’n cael dy dalu, mae dy gyflogwr yn gorfod rhoi slip cyflog i ti. Gall hwn fod yn ddarn o bapur neu ddogfen ddigidol ar-lein sydd yn cael ei yrru trwy e-bost, system ar-lein, neu app.
Paid dileu na thaflu’r rhain. Mae slip cyflog yn brawf incwm, ac efallai byddi di angen y rhain yn y dyfodol os wyt ti eisiau rhentu, cael cytundeb ffôn, neu wneud cais am fenthyciad. Maent hefyd yn dangos dy god treth a rhif Yswiriant Gwladol, ac mae’n ddefnyddiol cadw golwg arnynt.
Angen cymorth?
Mae cael swydd am y tro cyntaf yn garreg milltir fawr – da iawn! Os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n cael chwarae teg yn y gwaith, neu rwyt ti wedi drysu â’r cyflog, yna fedri di gysylltu â Meic am gymorth.
