Mae sawl ffordd y gallet ti gynilo (safio) arian, ac un o’r opsiynau i’w ystyried yw agor cyfrif cynilo.
Beth yw cyfrif cynilo?
Mae cyfrif cynilo yn le diogel i ti gadw arian at y dyfodol. Yn wahanol i gyfrif banc arferol sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwario bob dydd, mae cyfrif cynilo yn talu llog (interest) fel arfer.
Llog yw arian sy’n cael ei ychwanegu gan y banc am gadw’r arian gyda nhw. Yr uchaf yw’r gyfradd llog (interest rate), y mwy o arian bydd yn cael ei ychwanegu. Mae’n ffordd wych i wylio dy arian yn tyfu dros gyfnod.
Cyfrif cynilo mynediad hawdd
Mae cyfrif mynediad hawdd yn un o’r ffyrdd mwyaf syml i gynilo. Rwyt ti’n gallu rhoi arian i mewn a thynnu arian allan unrhyw amser. Os wyt ti angen arian yn sydyn ar gyfer anrheg pen-blwydd neu wyliau, mae posib cael at hwn yn syth. Mae’r gyfradd llog yn eithaf isel fel arfer am ei fod mor hawdd tynnu arian allan. Mae’n anoddach i ti gynilo hefyd os yw’r temtasiwn yno i dynnu’r arian allan.
Cyfrifon cynilo rheolaidd
Mae cyfrif cynilo rheolaidd ychydig yn wahanol. Mae angen i ti addo rhoi swm penodol o arian i mewn bob mis, fel £10 neu £20. Yn aml y rhain sy’n cynnig y cyfraddau llog uchaf sydd ar gael. Mae hyn yn dda os oes gen ti swydd rhan amser neu arian poced reolaidd ac yn awyddus i ddechrau cynilo. Ond, gyda’r cyfrifon yma, mae cyfyngiad ar faint rwyt ti’n cael rhoi i mewn mis, a bydd y banc yn gostwng y gyfradd llog os wyt ti’n colli mis neu’n tynnu arian allan.

Cyfrifon cynilo tymor penodol
Os wyt ti’n chwilio am gyfradd llog sicr, efallai bydd cyfrif tymor penodol yn dda i ti. Rwyt ti’n cael cyfradd llog uwch wedi’i warantu am gyfnod penodol, fel blwyddyn neu ddwy. Mae hyn yn golygu y byddi di’ n gwybod yn union faint o arian byddi di wedi elwa erbyn y diwedd. Ond y broblem yw na fedri di gael mynediad i’r arian yma nes bydd y cyfnod wedi dod i ben. Os wyt ti angen yr arian mewn argyfwng, yna ni fedri di gael yr arian yma allan, neu rwyt ti’n gorfod talu ffi fawr i wneud hyn.
Beth yw ISA?
Cyfrif Cynilo Unigol yw ISA. Os wyt ti’n derbyn llawer o arian llog yna gall y llywodraeth gymryd swm o hwn gen ti mewn treth. Gyda ISA, mae’r holl log rwyt ti’n derbyn yn hollol ddi-dreth.
Mae posib agor ISA Iau pan fydd rhywun yn cael ei eni (gyda help rhiant), a ISA arian parod safonol ar ôl i ti droi’n 18 oed. Gyda ISA Iau nid wyt ti’n cael tynnu’r arian allan nes i ti droi’n 18. Unwaith i ti droi’n 18 oed, mae’r arian yma yn dod yn arian i ti.
MoApiau a photiau cynilo arian
Os wyt ti dros 16 oed, mae posib agor cyfrifon gyda banciau digidol fel Monzo neu Starling. Mae gan sawl banc traddodiadol y stryd fawr apiau da hefyd.
Mae gan lawer o’r apiau yma nodwedd gelwir yn “potiau”. Mae hyn yn caniatáu i ti rannu dy brif cynilon i mewn i gadw-mi-gei digidol llai. Gallet ti alw un pot yn ‘Gwyliau Haf’ ac un arall yn ‘Esgidiau Newydd’. Gallet ti osod yr ap i gasglu unrhyw geiniogau dros ben pan fyddi di’n prynu rhywbeth a’i roi yn syth i mewn i bot arall. Mae’n gwneud i gynilo teimlo’n awtomatig, ac rwyt ti’n cynilo heb sylweddoli!

Chwilia o gwmpas am y fargen orau
Mae pob banc yn cynnig cyfraddau llog a manteision gwahanol. Efallai y bydd rhai yn rhoi taleb neu rywbeth am ddim i ti pan fyddi di’n cofrestru, neu efallai eu bod yn cynnig cyfradd llog llawer gwell. Rho amser i ymchwilio a chymharu ar-lein. Paid aros gyda’r un banc am fod dy deulu neu ffrindiau yn ei ddefnyddio, edrycha ar rai eraill gyntaf cyn gwneud penderfyniad.
Cynilo os nad wyt ti’n ddigon hen
Os wyt ti’n rhy ifanc i agor cyfrif ar ben dy hun, neu os nad oes gen ti’r ID sydd ei angen eto, paid poeni. Gallet ti ofyn i riant, gofalwr, neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt, i agor cyfrif cynilo plentyn i ti. Nhw fydd â rheolaeth o’r cyfrif, ond dy arian di ydyw.
Gallet ti hefyd gynilo gydag arian parod. Mae cael cadw-mi-gei neu jar yn dy ystafell wely yn ffordd dda i gychwyn. Mae gweld y ceiniogau a’r arian papur yn pentyrru mewn jar yn deimlad boddhaol iawn. Mae pob ceiniog rwyt ti’n arbed nawr yn helpu ti yn hwyrach ymlaen.
Angen help?
Ymwela â gwefan Helpwr Arian am wybodaeth bellach ar sut i gynilo, ac i ddefnyddio eu cyfrifiannell cynilo neu gynlluniwr cyllideb.
Cer draw i’n tudalennau gwybodaeth Arian am wybodaeth a dolenni,
Os wyt ti angen siarad â rhywun i gael arweiniad, neu i sgwrsio am boenau arian, cysyllta â Meic i siarad gyda chynghorwr cyfeillgar.
