Hide Page
Teen girl making pancakes

Cydbwysedd Bywyd fel Gofalwr Ifanc

Yn aml, gall bod yn ofalwr ifanc deimlo fel camp anodd o gydbwyso pethau. Ar un ochr mae gen ti’r cyfrifoldeb adref. Ar yr ochr arall mae gen ti dy addysg neu swydd. Gall fod yn anodd teimlo fel dy fod di’n rhoi digon o sylw i’r ddwy ochr.

I gadw pethau’n gytbwys, mae angen y gefnogaeth gywir. Rwyt ti’n gwneud lot i eraill, ond rwyt ti angen i bobl wneud pethau i ti hefyd. Nid oes rhaid i ti wneud popeth yn berffaith ar ben dy hun er mwyn cael cydbwysedd yn dy fywyd. Dylet ti ddarganfod ffyrdd i wneud i dy drefn ddyddiol weithio i ti. Dyma ychydig o gyngor i helpu ti i geisio darganfod cydbwysedd.

Eglura dy sefyllfa

Mae datgelu yn golygu rhannu dy sefyllfa gyda rhywun. Os nad yw dy ysgol neu weithle yn ymwybodol dy fod di’n ofalwr, yna ni allant helpu. Efallai ei fod yn teimlo’n anodd dweud wrth rywun, ond dyma’r ffordd orau i dderbyn y gefnogaeth rwyt ti’n haeddu.

Nid oes rhaid i ti rannu popeth. Fedri di egluro bod gen ti gyfrifoldebau gofalu fydd efallai’n cael effaith ar dy amser. Unwaith y bydd pobl yn ymwybodol yna gallant helpu. Efallai bydd hyn yn rhoi mwy o amser i ti wneud gwaith cartref, neu ganiatáu i ti gadw dy ffôn rhag ofn bod argyfwng. Gelwir y newidiadau bach yma’n addasiadau. Maent yn helpu i lefelu pethau fel dy fod di’n cael yr un cyfleoedd â phawb arall.

Teen boy at a youth club playing pool

Yn yr ysgol

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru’r hawl i addysg. Os wyt ti’n ofalwr ifanc, dylai fod polisi gan  yr ysgol i helpu. Polisi yw cyfres o reolau neu gynllun y mae grŵp yn ei ddilyn. Gallet ti ofyn a oes ‘Arweinydd Gofalwr Ifanc’ yn dy ysgol. Gwaith y person penodol yma yw sicrhau dy fod di’n iawn.

Gallant helpu gyda phethau fel mwy o hyblygrwydd. Er enghraifft, os wyt ti wedi cael noson anodd yn gofalu am rywun, efallai y byddant yn gadael i ti gychwyn dosbarth  ychydig yn hwyrach neu’n rhoi lle tawel i ti orffwys.

Yn y gwaith

Pan fyddi di’n ymgeisio am swyddi, efallai y byddi di’n poeni nad wyt ti wedi cael cyfle i gael profiad gwaith. Ond cofia, mae’r sgiliau sydd gen ti fel gofalwr yn bwysig a gallet ti siarad am y rhain. Mae’n debyg byddi di wedi dysgu sut i reoli amser a datrys problemau. Dylai cyflogwr ystyried y sgiliau a’r profiad yma’r un mor werthfawr.

Mae gen ti hawliau hefyd os wyt ti’n gweithio neu’n chwilio am swydd. Mae llawer o weithleoedd yn cynnig ‘Absenoldeb i Ofalwr’. Amser penodol i ofalu am rywun neu i ddelio ag argyfwng.

Mae gen ti hefyd yr hawl i feddwl am yr hyn rwyt ti am ei wneud nesaf. Boed yn brifysgol, prentisiaeth, neu swydd newydd, mae’n iawn i ti fod ag uchelgeisiau. Nid oes rhaid i ti roi’r gorau i freuddwydio am dy fod di’n ofalwr. Mae systemau ar waith i gefnogi ti wrth i ti droi’n oedolyn a chychwyn ar dy yrfa.

Girl sat on sofa talking to social worker

Cael Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc (CAGI)

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yw cerdyn ID llun rhad ac am ddim Cymru ar gyfer gofalwyr 18 oed ac iau. Mae’n cael ei gydnabod yn genedlaethol. Ei bwrpas yw bod pobl fel athrawon, doctoriaid, a fferyllwyr yn gallu adnabod ti fel gofalwr yn hawdd a gallet ti gael mynediad i gymorth. Er enghraifft, os oes angen ffonio meddyg neu beiriannydd nwy ar gyfer y person rwyt ti’n gofalu amdanynt, mae’r cerdyn yn helpu ti i brofi pwy wyt ti. Mae’n rhoi awdurdod i ti. Mae awdurdod yn golygu cael y pŵer neu’r hawl i roi gorchmynion neu wneud penderfyniadau.

Gall defnyddio dy gerdyn adnabod helpu oedolion i’th gymryd o ddifrif. Mae’n dangos iddynt dy fod di’n ofalwr swyddogol gyda chyfrifoldebau pwysig. Gall hyn dynnu llawer o’r straen o geisio egluro dy hun dros y ffôn. Mae’n adnodd bach a all wneud gwahaniaeth mawr i ba mor hawdd y mae pethau’n rhedeg adref.

Gwneud Asesiad Anghenion Gofalwr Ifanc

Mae gan bob gofalwr ifanc hawl gyfreithiol i Asesiad Anghenion Gofalwr Ifanc. Paid â phoeni – nid prawf mohono, fyddi di ddim yn ffaelu. Sgwrs gyda gweithiwr proffesiynol ydyw, fel gweithiwr cymdeithasol, i weld pa effaith mae gofalu yn ei gael ar dy fywyd. Byddant yn edrych ar bethau fel dy iechyd, dy deimladau, ac a oes gen ti ddigon o amser i ti dy hun.

Nod yr asesiad hwn yw gweld os yw’r person rwyt ti’n gofalu amdanynt angen mwy o gymorth gan y cyngor. Os ydyn nhw’n cael mwy o gefnogaeth, gall feddwl bod gen ti llai i’w wneud. Mae’n ceisio sicrhau nad yw pwysau’r holl waith rwyt ti’n ei wneud yn rhy drwm i ti ei gario ar ben dy hun. Mae gen ti hawl i ofyn am yr asesiad hwn unrhyw bryd.

Siblings sat together on the sofa

Sicrha bod gen ti system gymorth

Mae system gymorth yn grŵp o bobl neu wasanaethau a all helpu pan fydd pethau’n anodd. Gall hyn fod yn aelod teulu, ffrind, neu ofalwr proffesiynol sy’n dod i’r tŷ. Mae’n bwysig nad ti yw’r unig berson sy’n darparu gofal.

Pan fydd gen ti system gymorth, mae’n gweithredu fel pont sy’n gadael i ti groesi o dy ‘rôl gofalwr’ i dy ‘rôl person ifanc’. Gall hyn olygu cael rhywun arall i gymryd yr awenau am ychydig oriau fel y gallet fynd i glwb ieuenctid neu gysgu. Nid yw derbyn cefnogaeth gartref yn arwydd dy fod di’n gwneud gwaith gwael – mae pawb angen brêc weithiau i gadw’n iach.

Gofala am dy hun

Gall gofalu am rywun effeithio ar dy iechyd meddwl weithiau. Efallai y byddi di’n teimlo dan straen, yn bryderus, neu flin weithiau hyd yn oed. Mae’r rhain yn deimladau cyffredin iawn i ofalwyr ifanc. Mae gen ti hawl i ofalu am dy hun a dy les. Efallai bod hyn yn golygu gosod ffiniau adref. Ffin yw terfyn rwyt ti’n gosod i amddiffyn dy hun. Er enghraifft, efallai ei fod yn rheol dy fod di’n cael awr o amser tawel bob nos i wneud yr hyn rwyt ti’n mwynhau.

Darganfod cymorth ychwanegol

Weithiau mae’n anodd gofyn am gymorth pellach fel gofalwr, ond nid oes rhaid i ti ddarganfod y cydbwysedd ar ben dy hun. Cer i ymchwilio’r sefydliadau yma:

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449