Mae rhai pobl yn dweud y bydd Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn creu miliynau o swyddi newydd, ac eraill yn dweud y bydd yn cymryd drosodd. Mae’n hollol naturiol teimlo ychydig o ‘bryder AI’. Ond mae’r realiti yn ymwneud â sut mae swyddi’n newid yn hytrach na diflannu.
Ydy AI yn cymryd drosodd mewn gwirionedd?
Efallai dy fod wedi clywed am feddalwedd AI a all wneud pethau fel ysgrifennu cod syml, trefnu amserlenni, neu ateb cwestiynau cwsmeriaid hyd yn oed. Golygai hyn bod y tasgau a oedd yn cael eu rhoi i staff newydd gynt, bellach yn cael ei wneud gan fotiaid. Ond dyma’r peth: mae AI yn dal i wneud camgymeriadau, mae’n cael ei ddrysu gan broblemau ‘dynol’, ac yn bendant nid oes ganddo bersonoliaeth fel ti.
Yn hytrach nag robotiaid yn cymryd lle pawb, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n chwilio am bobl a all weithio gydag AI. Maen nhw eisiau pobl a all ymdrin ag ochr ddynol pethau, fel siarad â chwsmer rhwystredig neu feddwl am syniad newydd sbon. Er bod AI yn gwneud y darnau diflas, ailadroddus yn gyflymach, gall ryddhau mwy o dy amser i ganolbwyntio ar y pethau na all eu meistroli.

Defnyddio AI i gael dy gyflogi
Un o’r newidiadau mwyaf yn ddiweddar yw’r ffordd rydym yn gwneud cais am swydd. Mae llawer o gwmnïau mawr bellach yn defnyddio AI i sganio CVs, ond fedri di ddefnyddio AI i helpu ti hefyd! Fedri di ddefnyddio adnoddau fel ChatGPT neu Gemini i helpu ymarfer cwestiynau cyfweliad neu roi gwell trefn ar dy CV.
Ond bydda’n ofalus: os wyt ti’n copïo a gludo cais a ysgrifennwyd yn gyfan gwbl gan AI, mae fel arfer yn eithaf hawdd ei weld. Pan fyddi di’n gwneud cais am swydd, cofia fod y person sy’n cyflogi yn chwilio am gysylltiad dynol. Maen nhw eisiau clywed dy lais a dy brofiad bywyd go iawn. Fedri di gynnwys gwybodaeth am pan fues di’n gwirfoddoli, prosiect roeddet ti’n falch ohono yn yr ysgol, neu hobi sydd o ddiddordeb i ti. Meddylia am AI fel cynorthwyydd ymchwil – gall helpu ti i gychwyn, ond ti sydd angen ei orffen yn steil dy hun.
Y sgiliau na all AI ei wneud
Wrth i AI wella yn y pethau technegol, mae’r pethau sy’n ein gwneud ni’n ddynol yn dod yn fwy gwerthfawr. Mae AI yn wych am weld a gweithio gyda phatrymau, ond mae’n ofnadwy o ran empathi. Mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sy’n dda gyda:
- Deallusrwydd Emosiynol: Deall sut mae pobl yn teimlo a sut i weithio mewn tîm
- Datrys Problemau: Gwybod beth i’w wneud pan fydd pethau ddim yn mynd fel y dylent
- Meddwl yn Feirniadol: Gwirio a yw’r wybodaeth y mae AI yn ei rhoi i ti yn wir mewn gwirionedd neu’n ‘rhithweledigaeth’ yn unig (pan fydd AI yn dyfeisio pethau)
Canolbwyntio ar y sgiliau yma yw’r ffordd orau o sicrhau dy fod di’n barod ar gyfer y dyfodol, pa bynnag dechnoleg newydd a ddaw.

Angen siarad?
Gall meddwl am waith a’r dyfodol deimlo’n ormod, yn enwedig pan mae’r byd yn newid mor gyflym. Os wyt ti’n teimlo dan straen am dy yrfa neu os wyt ti’n ansicr sut i ymdrin â chais am swydd, nid oes rhaid i ti ddatrys hynny ar ben dy hun.
Siarada â Meic. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim i unrhyw un 25 oed ac iau yng Nghymru. P’un a wyt ti’n poeni am ddiogelwch swydd neu rwyt ti angen hwb mewn hyder, rydym yma i wrando a helpu ti i ddod o hyd i’r llwybr cywir.
