A welaist ti’r stondyn Meic yn Eisteddfod yr Urdd eleni?
Roedd hi’n braf iawn i glywed barn pobl ifanc o bob ran o Gymru. Rydyn ni wedi nodi rhain, a byddwn yn eu defnyddio i wella’n gwasanaeth.
Mae lluniau o’n ffotobwth nawr ar ein tudalen Facebook – “Hoffwch” ni er mwyn derbyn y newyddion a weithgareddau diweddaraf.

Nodyn: Ein bŵth gwisg ffansi yn Eisteddfod yr Urdd! Er ein bod wedi cymryd gofal i sicrhau caniatâd rhiant, os wyt ti am ddileu llun o’r rhestr yma, gad sylwad ar y llun, neu gyrru neges trwy’r llinell gymorth.
