Hide Page

Coda’r Meic: Eisiau Gwneud Ffrindiau Newydd

Eisiau cyngor am sut i gael ffrindiau newydd a gwneud bywyd ychydig yn fwy diddorol? Gofynnir sut i wneud newidiadau a bod yn fwy cymdeithasol yn Coda’r Meic yr wythnos hon. Dyma’n cyngor.


Roedd Coda’r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac roedd yn cael ei ddefnyddio i greu blogiau dienw ar gyfer y wefan i helpu pobl ifanc eraill oedd yn mynd trwy brofiad tebyg. Nid ydym yn cynnig Coda’r Meic bellach. Os wyt ti angen gwybodaeth cyngor neu eiriolaeth, cysyllta â’r llinell gymorth am gefnogaeth ar y manylion ar waelod y dudalen.


Helo Meic,

Rwyf wedi bod yn teimlo mor ddiflas ac unig yn ddiweddar. Rwyf angen cyngor ar sut i wneud ffrindiau a chael bywyd cymdeithasol gwell. Oes gennych chi gyngor i’w roi?

Cyngor Meic

Mae’n ddrwg gen i glywed dy fod di’n teimlo mor ddiflas ac unig ar hyn o bryd. Mae’n siŵr bod hynny’n anodd i ti. Efallai byddai’n help gwybod nad ti yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Mae bywyd mor gyflym y dyddiau hyn fel nad yw’n hawdd cyfarfod pobl a chadw ffrindiau bob tro. Mae’n beth da dy fod di wedi ymestyn allan am gyngor ar sut i newid y sefyllfa yma. Gobeithiaf fod y wybodaeth yma yn rhoi ychydig o syniadau i ti am sut i wneud ffrindiau a gwella dy fywyd cymdeithasol.

Pedwar pâr o draed mewn jîns ac esgidiau du gyda streipiau gwyn. Mae'r dyfyniad oddi tano yn dweud "Byddi di'n dod i adnabod pobl wrth ymuno grwpiau gwahanol".

Ymuna â grŵp

Mae’r syniad o gyfarfod a gwneud ffrindiau yn gallu teimlo’n eithaf brawychus, ond unwaith i ti gychwyn bydd pethau’n dod yn haws! Beth am ystyried ymuno â grŵp? Gwna restr o’r pethau rwyt ti’n ei fwynhau neu defnyddia’r cyfle yma i roi tro ar hobi rwyt ti eisoes wedi rhoi cynnig arni. Byddi di’n dod i adnabod pobl wrth wneud pethau. Mae yna lawer o grwpiau a dosbarthiadau wedi’i selio ar weithgareddau gallet ti roi cynnig arnynt. Dyma ychydig o syniadau i’w hystyried:

  • Clybiau chwaraeon (beicio, athletau, pêl droed, tenis, ioga, rygbi ayb)
  • Dosbarthiadau drama neu ddawns
  • Clybiau llyfrau
  • Clybiau ieuenctid (Gwobrau Dug Caeredin ayb)
  • Grwpiau cerdded/teithio
  • Dosbarthiadau coginio
Llun agos o bentwr o ddwylo ar ben ei gilydd. Dyfyniad oddi tano yn dweud "Mae pobl yn teimlo'n hapusach pan fyddant yn helpu pobl eraill"

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych arall o gyfarfod ffrindiau newydd. Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn teimlo’n hapusach pan fyddant yn helpu pobl eraill neu gymunedau. Edrycha ar yr erthygl Meic Gwirfoddoli – Beth Sy’n Dda Amdano?

Gyda diddordeb? Yna edrycha ar wefan Gwirfoddoli Cymru am wybodaeth hwirfoddoli a’r cyfleoedd sydd yn agored i ti.

Menyw â gwallt coch, yn dal ei chôt wrth ei gwddf i gadw'n gynnes, yn sefyll ar ei phen ei hun wrth ymyl dŵr. Mae'r dyfyniad oddi tano yn dweud "Efallai bydd yn anodd ond ceisia gychwyn sgwrs."

Camu allan o sefyllfa gyfforddus

Mae dod i adnabod pobl a gwneud ffrindiau newydd yn golygu camu allan o dy sefyllfa gyfforddus. Efallai bydd pethau’n teimlo’n anodd ac yn anghyfforddus i gychwyn ond ceisia gychwyn sgwrs gyda’r bobl ti’n eu cyfarfod, o ddydd i ddydd ac yn unrhyw un o’r syniadau amlinellwyd uchod. Gallet ti ymarfer gwenu a chyflwyno dy hun yn y drych gartref (mae pobl yn fwy tebygol o deimlo’n agos atat os wyt ti’n gwenu ac yn cadw cyswllt llygad). Gallet ti feddwl am beth i’w ddweud o flaen llaw.

Bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau â’ch gilydd yn helpu, bydd gennych chi rywbeth yn gyffredin yn awtomatig. Yna bydd posib symud ymlaen i ddarganfod y pethau sy’n gyffredin rhyngoch, fel eich hoff gerddoriaeth. Bydd hyn yn dod yn haws wrth i ti ei wneud fwy, a byddi di’n dod yn fwy hyderus.

Yn dymuno pob lwc, cyfeillgarwch a llawer o hwyl i ti!

Y Tîm Meic


Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449