Y rheswm gall tywydd poeth deimlo’n waeth os wyt ti ar feddyginiaeth benodol, a sut i fod yn gyfforddus yn y gwres.
Mwynhau’r haul yn ddiogel
Weithiau mae’r haul cynnes ar dy wyneb yn gallu teimlo’n anhygoel. Ond, os wyt ti’n defnyddio meddyginiaeth benodol, gall y gwres ddod i deimlo’n ormod yn sydyn iawn.
Efallai y byddi di’n teimlo’n benysgafn, yn arbennig o chwyslyd, neu’n cael cur pen. Mae’r rhain yn bethau cyffredin iawn, yn enwedig os wyt ti ar gyffuriau gwrth-iselder. Mae’n dal yn iawn i ti gymryd y feddyginiaeth yma, ond mae’n newid y ffordd mae dy gorff di’n ymdopi gyda thywydd cynnes.
Sut gall meddyginiaeth newid y ffordd rwyt ti’n rheoli tymheredd
Mae yna thermomedr naturiol yn yr ymennydd sy’n cadw’r corff i’r tymheredd cywir. Mae rhai meddyginiaethau iechyd meddwl, gan gynnwys cyffuriau gwrth-iselder cyffredin fel Atalyddion Ail-amsugno Serotonin Detholus (SSRIs), yn newid y ffordd mae’r thermomedr yma’n gweithio. Gall newid y signalau cemegol sy’n dweud wrth y corff pan fydd yn mynd yn rhy boeth.
Gall hyn olygu bod y corff yn cael trafferth oeri yn ddigon sydyn. Efallai nad wyt ti’n teimlo’n sychedig, felly mae’n hawdd mynd yn ddadhydredig heb i ti sylweddoli.

Newidiadau yn y ffordd rwyt ti’n chwysu
Gall cyffuriau gwrth-iselder achosi ti i chwysu mwy nag arfer. Chwysu yw’r ffordd naturiol mae’r corff yn oeri, sydd yn beth da fel arfer. Ond os wyt ti’n chwysu drwy’r adeg yn eistedd yn yr haul, rwyt ti’n colli hylif yn sydyn iawn. Gall achosi ti i deimlo’n sâl, yn flinedig, neu roi cur pen drwg iawn i ti.
Gall rhai meddyginiaethau eraill, fel rhai ar gyfer ADHD neu alergeddau, gael effaith i’r gwrthwyneb ac atal y corff rhag chwysu digon.
Cadw’n oer braf ac yn gyfforddus
Y peth gorau i’w wneud yw aros i ffwrdd o’r haul cryf yn ystod rhannau poethaf y dydd. Ceisia ddarganfod lle cysgodol o dan goeden neu aros y tu mewn pan fydd yr haul ar ei gryfaf. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Gall wisgo dillad llac ac ysgafn hefyd helpu i gadw’n oer braf gan fod yr aer yn rhydd i fynd o amgylch y corff.

Cyngor hydradu
Mae yfed dŵr yn rheolaidd yn helpu, hyd yn oed os na fyddi di’n teimlo’n sychedig iawn. Ceisia gario potel ddŵr gyda thi ble bynnag yr wyt ti’n mynd. Mae sipio’n araf bach yn aml yn ystod y dydd yn llawer gwell nag yfed gwydraid cyfan ar unwaith.
Os yw dŵr plaen yn teimlo braidd yn ddiflas, gallet ti ychwanegu ffrwythau neu rew iddo. Mae’n well osgoi diodydd llawn siwgr neu gaffein, mae’r rhain yn gallu achosi ti i golli hylifau yn gyflymach.
Derbyn cymorth
Mae’n bwysig iawn i ti beidio stopio meddyginiaeth yn sydyn. Gall hynny achosi ti i deimlo’n sâl iawn!
Os wyt ti’n poeni am y ffordd mae meddyginiaeth yn gwneud i ti deimlo yn yr haf, siarada â fferyllydd neu feddyg teulu. Gallant gynnig cyngor gwych i helpu ti i ymdopi â’r gwres.
