Hide Page
Teen boy using laptop and improving privacy options on AI

Preifatrwydd Data wrth Ddefnyddio AI

Pan fyddi di’n sgwrsio gyda Deallusrwydd Artiffisial (AI) neu’n ei ddefnyddio i olygu llun, mae’n hawdd anghofio dy fod di’n siarad â system gyfrifiadurol enfawr. Bob tro byddi di’n anfon neges, rwyt ti’n rhannu data, felly beth sy’n digwydd iddo?

Ydy fy sgwrs AI yn breifat?

Mae’r mwyafrif o adnoddau AI yn ‘dysgu’ wrth edrych ar y sgyrsiau y mae pobl yn eu cael gyda nhw. Golygai hyn, os wyt ti’n dweud cyfrinach wrth AI, yn disgrifio problem bersonol, neu’n uwchlwytho llun o dy dŷ, gall AI ddefnyddio’r wybodaeth yma i hyfforddi’r fersiwn nesaf o’r feddalwedd. Hyd yn oed os yw’r cwmni’n dweud eu bod nhw’n “dad-adnabod” y data (sef tynnu dy enw oddi arno), mae manylion dy fywyd yn dal i gael ei storio yn y system.

Y cyngor gorau i’w ddilyn yw, os na fyddet ti’n ei bostio ar broffil cyhoeddus, paid â’i rannu gydag AI.

Y gyfraith a dy hawliau

Mae’r gyfraith wedi dal i fyny â thechnoleg i roi mwy o reolaeth i ti. O dan Ddeddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025, mae’n rhaid i gwmnïau bellach ddilyn rheolau llawer llymach ar gyfer pobl ifanc, er enghraifft:

  • Rhaid i apiau a ddefnyddir gan rai dan 18 oed gael y gosodiadau preifatrwydd uchaf wedi’u troi ymlaen yn awtomatig.
  • Os yw AI yn gwneud penderfyniad amdanat ti, fel gwrthod cais am swydd, mae gen ti hawl gyfreithiol bellach i ofyn i berson go iawn ei adolygu.
  • Yn ôl y gyfraith, mae bellach yn ofynnol ar gwmnïau i fod â ffordd hawdd i gwyno os wyt ti’n credu bod dy ddata yn cael ei gamddefnyddio.
Online profile with hidden personal info

Sut i ddiogelu dy ddata

Mae cwmnïau eisiau dy ddata am ei fod yn eu helpu i ragweld beth fyddi di’n ei brynu, beth fyddi di’n ei wylio, a sut fyddi di’n pleidleisio. Wrth fod yn ofalus â’r hyn rwyt ti’n rhannu, rwyt ti’n cadw’r wybodaeth yn nwylo dy hun.

Bellach, mae gan lawer o robotiaid sgwrsio nodwedd ble maent yn cofio manylion amdanat er mwyn bod yn fwy defnyddiol. Fel arfer fedri di fynd i’r gosodiadau a diffodd hyn neu glirio’r hanes.

Cyn i ti anfon awgrym, dileu unrhyw fanylion personol fel enw llawn, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, neu ble rwyt ti’n gweithio neu’n astudio. Fedri di ddefnyddio llefydd fel “[Enw]” neu “[Fy Ysgol]” yn lle, fel bod gan AI fynediad at y wybodaeth yna.

Os wyt ti’n gofyn cwestiwn sensitif (e.e. yn ymwneud ag iechyd neu berthynas), gwiria os oes gan yr AI fodd ‘Sgwrs Cyfnod Byr’ neu ‘Anhysbys’ fel nad yw’n cadw dy ddata. Byddai hyn yn sicrhau nad yw’r sgwrs yn cael ei chadw yn dy hanes na’i defnyddio ar gyfer hyfforddiant.

Pan fyddi di’n uwchlwytho llun, mae’n aml yn cynnwys gwybodaeth gudd fel pryd a ble yn union y cafodd ei dynnu. Gelwir hyn yn fetadata. Bydd yn ofalus wrth uwchlwytho ffeiliau gwreiddiol i olygyddion delweddau AI. Yn lle hynny, ceisia dynnu sgrinlun o’r llun a defnyddio hwnnw, gan nad yw sgrinluniau fel arfer yn cario’r un data lleoliad.

Angen siarad?

Gall godi ofn ar rywun os wyt ti’n meddwl bod app wedi cymryd dy ddata heb ganiatâd, neu os wyt ti wedi rhannu rhywbeth gydag AI rwyt ti’n difaru. Nid oes rhaid i ti ddelio â’r straen yma ar ben dy hun. Siarada â Meic.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449