Mae cynnwys wedi’i gynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) ym mhobman. Mae’n cael ei ddefnyddio i adeiladu gwefannau, ysgrifennu erthyglau newyddion, a chreu proffiliau cyfryngau cymdeithasol sy’n edrych fel rhai go iawn. Gan ei fod mor gyffredin, mae deall sut i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n wir a’r hyn sydd wedi’i greu gan gyfrifiadur yn un o’r ffyrdd gorau i gadw dy gyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.
Pam bod pobl yn defnyddio AI ar gyfer hyn?
Fel arfer, mae pobl yn defnyddio AI i arbed amser neu i fod yn greadigol. Ond weithiau, mae’n cael ei ddefnyddio i dwyllo. Mae gwefannau newyddion ffug yn defnyddio AI i greu miloedd o erthyglau i ledaenu gwybodaeth anghywir, ac mae sgamwyr yn defnyddio proffiliau a gynhyrchir gan AI i edrych fel pobl go iawn fel y gallant ennill ffydd pobl. Gan nad oes gan y cyfrifon yma label ‘Wedi’i greu gan AI’ bob tro, mae’n rhaid edrych ychydig yn fanylach.
Cliwiau i helpu adnabod AI: Lluniau a Fideos
Mae AI yn gwella ar fanylion mewn lluniau a fideos, ond mae’n dal i gael trafferth creu cynnwys sy’n berffaith.
- Chwydda i mewn ar ymylon llun. A yw’r gwallt yn pylu’n berffaith i’r cefndir mewn ffordd sy’n edrych yn annaturiol? A yw ategolion fel clustdlysau neu sbectol yn edrych fel eu bod wedi’u cyfuno â’r croen?
- Edrycha ar y cefndir. A oes ffenestri sydd ddim yn leinio i fyny? A yw cysgod person yn pwyntio i gyfeiriad gwahanol i gysgod coeden?
- Mewn fideos, gwylia’r geg a’r llygaid. Os yw’r person yn blincio mewn rhythm rhyfedd, roboteg, neu os yw eu dannedd yn edrych fel un bloc gwyn solet yn lle dannedd unigol, mae’n debyg mai AI ydyw.

Cliwiau i helpu adnabod AI: Ysgrifennu a Gwefannau
Yn aml, mae yna deimlad penodol iawn i ysgrifennu AI. Fel arfer mae’n gwrtais iawn, wedi’i strwythuro’n dda, a gall deimlo ychydig yn rhy berffaith weithiau.
- Os yw post cyfryngau cymdeithasol yn swnio’n fwy fel llyfr neu araith werthu na pherson go iawn yn siarad, yna mae hynny’n rhybudd. Mae pobl go iawn yn defnyddio slang, yn gwneud camgymeriadau teipio, ac yn cyffroi.
- Mae AI wrth ei fodd yn cychwyn paragraffau yn yr un ffordd, gan ddefnyddio geiriau fel ‘ar ben hynny’ neu ‘yn ogystal’. Os yw pob adran o wefan yn edrych yn union yr un fath, efallai ei bod wedi’i chynhyrchu gan AI.
- Ar wefannau siopa, chwilia am adolygiadau sy’n amwys iawn. Cadwa lygad am adolygiadau heb unrhyw fanylion penodol am y cynnyrch, er enghraifft, “mae hwn yn gynnyrch gwych, rwy’n ei argymell yn fawr”.
Sut i wirio ffeithiau’n gyflym
Os wyt ti’n gweld pennawd sy’n achosi sioc, neu gynnig sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, cymera funud i wirio!
- Defnyddia chwiliad delweddau croes (reverse image search) i weld ble arall mae’r llun wedi bod. Os ymddangosodd llun ‘newyddion yn torri’ heddiw ar wefan dair blynedd yn ôl, mae’n eithaf clir nad yw’n wir.
- Clicia ar y cyfrif. Oes yna hanes o bostiadau go iawn, neu ydy hwn wedi’i greu o fewn yr wythnos diwethaf? A yw’n postio’r un math o gynnwys dro ar ôl tro yn unig?
- Os yw post wedi’i gynllunio i wneud i rywun deimlo’n flin neu’n ofnus iawn, yna’n aml mae hynny’n gliw mai AI sydd wedi’i greu i fynd yn firaol.
Angen siarad?
Gall dod ar draws cynnwys ffug achosi dryswch, yn enwedig os yw’n ymwneud â rhywun rwyt ti’n adnabod neu bwnc rwyt ti’n poeni amdano. Os wyt ti wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi dy gynhyrfu, neu os wyt ti’n poeni dy fod di wedi bod yn siarad â phroffil AI yn lle person go iawn, mae Meic yma i helpu.
