Nid yw Deallusrwydd Artiffisial (AI) mor niwtral ag y byddet ti’n meddwl bob tro. Mae’n debycach i ddrych – yn adlewyrchu’r wybodaeth a roddwyd iddo pan gafodd ei adeiladu. Pe bai’r wybodaeth yma’n unochrog, byddai’r AI yn unochrog hefyd. Dyma elwir yn rhagfarn AI.
Beth yw rhagfarn AI?
Dychmyga dy fod di’n dysgu AI i adnabod beth mae gwyddonydd yn edrych fel. Os byddi di’n dangos 1,000 o luniau o ddynion mewn cot labordy iddo, bydd y robot yn meddwl mai dim ond dynion all fod yn wyddonwyr yn y pen draw. Os bydd merch mewn cot labordy yn cerdded heibio, efallai na fydd y robot yn sylweddoli ei bod hi’n wyddonydd.
Dyma’n union sut mae rhagfarn AI yn gweithio. Mae AI yn ‘dysgu’ o symiau enfawr o ddata o’r rhyngrwyd. Gan fod y rhyngrwyd yn cynnwys llawer o stereoteipiau hen ffasiwn a syniadau annheg, gall yr AI ddysgu’r un arferion hynny ar ddamwain.

Sut mae rhagfarn AI yn cael effaith ar gyfryngau cymdeithasol
Efallai dy fod di’n gweld hyn yn dy fywyd bob dydd heb sylweddoli. Er enghraifft, mae rhai hidlwyr (filters) AI ar gyfryngau cymdeithasol wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio data sy’n cynnwys un math o liw croen neu siâp wyneb. Pan fydd pobl sy’n edrych yn wahanol i hyn yn ceisio defnyddio’r hidlydd, efallai na fydd yn gweithio cystal, neu efallai y bydd yn ceisio ‘trwsio’ eu hwyneb i edrych yn debycach i’r stereoteip.
Gall hyn ddigwydd hefyd gyda’r cynnwys a argymhellir i ti. Os yw algorithm yn meddwl mai dim ond tiwtorialau colur y mae merched eisiau eu gweld, a dim ond fideos gemau cyfrifiadur y mae bechgyn eisiau eu gweld, bydd yn parhau i wthio’r pethau hynny. Mae hyn yn creu siambr adlais, dim ond un darn bach o’r byd rwyt ti’n ei weld yn seiliedig ar ddyfaliad a wnaeth yr AI amdanat ti.
Pam bod rhagfarn AI yn bwysig?
Defnyddir AI mewn llawer mwy na chyfryngau cymdeithasol yn unig! Mae rhai cwmnïau’n defnyddio AI i edrych trwy CVs. Pe bai’r AI hwnnw wedi’i hyfforddi ar restr o bobl a gafodd eu cyflogi 20 mlynedd yn ôl, gallai anwybyddu ymgeiswyr gwych o wahanol gefndiroedd heddiw yn annheg.
Mae enghreifftiau wedi bod ble mae adnoddau AI a ddefnyddir i ragweld graddau neu awgrymu cyrsiau wedi ffafrio myfyrwyr o ardaloedd cyfoethocach, oherwydd y data a fwydwyd iddo’n unig.
Gall hyd yn oed pethau fel adnabod wynebau neu apiau sganio croen fod yn llai cywir i bobl â chroen tywyllach os na chawsant eu profi ar amrywiaeth ddigonol o bobl.

Sut i adnabod rhagfarn AI
Nid oes rhaid i ti stopio defnyddio AI, ond dylet ti ei ddefnyddio gyda llygad beirniadol. Mae hyn yn golygu cwestiynu’r canlyniadau y mae’n ei roi i ti. Os wyt ti’n gofyn i AI ‘greu delwedd o berson llwyddiannus’ a dim ond un math o berson y mae’n ei ddangos i ti, yna gofynna i ti dy hun pam ei fod wedi dewis hynny. Pwy sydd ar goll?
Pan fydd AI yn rhoi ateb neu awgrym i ti, cofia mai dim ond rhagfynegiad yn seiliedig ar y gorffennol ydyw. Nid yw’n deall realiti llawn, amrywiol y byd heddiw. Os yw rhywbeth yn teimlo’n annheg, yna bydda â ffydd yn y teimlad yna a’i herio.
Wrth ddefnyddio AI, cofia’r awgrymiadau yma i gadw’n ddiogel ar-lein.
