Hide Page

Ydy Pobl Ddieithr Yn Gweld dy Gynnwys ar Facebook?

Ydy pobl ddieithr yn gallu gweld y pethau rwyt ti’n postio ar Facebook? Beth am dy rieni? (Paid smalio nad wyt ti wedi gweld y cais ffrind yna! 😂)

Mae’n hawdd gweld:

Cer i’r llun o’r clo yn y cornel dde ar ben y tudalen am drosolwg cyflym o dy osodiadau preifatrwydd.

O dan “Pwy sy’n gallu gweld fy mhethau?’ clicia ar “Beth mae pobl eraill yn ei weld ar fy llinell amser?”

Mae’r tudalen yma’n dy alluogi di i weld dy linell amser fel y byddai person arall yn ei weld.

Mae’n werth cymryd ychydig munud i wirio.

Llwybrau Byr Preifatrwydd - cyfarwyddiadau ar Facebook

Mae Meic yma i siarad o hyd am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Cysyllta yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449