Hide Page

Coda’r Meic: Sut Ydw i’n Gorffen Perthynas?

Yr wythnos hon mae gennym ymgyrch perthnasau arbennig ar Meic. Dyma un o sawl erthygl yn cael ei gyhoeddi ar y pwnc yr wythnos hon. I weld mwy edrycha ar yr adran erthyglau.


Mae person ifanc wedi codi’r Meic i ofyn cyngor am sut i orffen perthynas gyda’i gariad. Dyma ein cyngor ni.

Helo Meic,

Sut ydw i’n gallu gorffen gyda’m nghariad heb frifo ei theimladau?

Diolch

Cyngor Meic

Helo,

Mae gorffen perthynas yn beth anodd iawn ac mae’n gwbl ddealladwy nad wyt ti eisiau brifo teimladau dy gariad. Mae’n amlwg dy fod di’n berson meddylgar iawn a dy fod di eisiau gwahanu yn y ffordd leiaf poenus bosib.

Efallai dylet ti feddwl am bryd i ddweud wrthi a beth wyt ti’n mynd i ddweud. Weithiau mae pobl ifanc yn ei chael yn haws dweud wrth gariad mewn person ac ar amser sydd yn ddistaw ac yn breifat. Mae’r mwyafrif o bobl yn meddwl bod onestrwydd yn bwysig iawn.

Gwybodaeth bellach

Mae gan The Mix lawer iawn o gefnogaeth a chyngor i rai dan 25 oed. Edrycha trwy’r adran Rhyw a Pherthnasau.

Mae gan Brook, y gwasanaeth iechyd rhyw a llesiant i rai dan 25, adran ar wahanu, gyda chyngor ar os dylid gorffen gyda rhywun, sut i orffen gyda nhw a sut i ddelio gyda gwahaniad.

Gobeithiwn fod hyn yn helpu.


Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449