Hide Page

Coda’r Meic: Eistedd Arholiad Yn Saesneg Yn Lle Cymraeg?

Wyt ti’n cael eistedd arholiad yn yr iaith rwyt ti’n dymuno? Gofynnwyd y cwestiwn yma drwy Coda’r Meic. Rhywun i wrando, i’th gymryd o ddifrif ac i roi cyngor.


Roedd Coda’r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac roedd yn cael ei ddefnyddio i greu blogiau dienw ar gyfer y wefan i helpu pobl ifanc eraill oedd yn mynd trwy brofiad tebyg. Nid ydym yn cynnig Coda’r Meic bellach. Os wyt ti angen gwybodaeth cyngor neu eiriolaeth, cysyllta â’r llinell gymorth am gefnogaeth ar y manylion ar waelod y dudalen.


Annwyl Meic,

Rwyf yn ddisgybl mewn ysgol Gymraeg a dwi’n cael trafferth gyda mathemateg. A yw’n bosib i mi eistedd y papur yma yn Saesneg yn hytrach nag Chymraeg?

Diolch

Anhysbys

Cyngor Meic

Helo,

Diolch i ti am dy ymholiad am dy ysgol yn caniatáu i ti eistedd dy arholiad TGAU Mathemateg yn Saesneg.

Siarada

Siarada gyda dy athro Mathemateg os nad wyt ti wedi gwneud hynny’n barod. Gallet ti weld os bydda’r ysgol yn fodlon i wneud cais am bapur Mathemateg Saesneg. Os nad ydynt yn barod i ti wneud hyn, efallai byddai’n syniad da i dy riant/rhieni ofyn am gael cyfarfod gyda nhw i drafod pethau ymhellach.

Rydym wedi cysylltu gyda Bwrdd Archwilio Cymru (cbac) a chawsom wybod bod posib eistedd yr arholiad yn Saesneg, ond bydd rhaid i’r ysgol gytuno. Os yw’r ysgol yn hapus i ti wneud hyn, bydd rhaid iddynt gyflwyno cais i ti eistedd y TGAU Mathemateg yn Saesneg.

Opsiynnau eraill

Os, am unrhyw reswm, bydd yr ysgol yn penderfynu peidio cyflwyno cais am bapur mathemateg Saesneg, posibilrwydd arall fydda fynd at ysgol neu ganolfan arall a gofyn i gael eistedd Mathemateg yn Saesneg. Ond efallai bydd rhaid i dy rieni dalu am hyn.

Os nad wyt ti’n hapus gyda chanlyniad unrhyw drafodaeth gyda’r ysgol, gallet ti ystyried cysylltu gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

Gobeithiwn fod y cyngor uchod yn fuddiol i ti. Cofia gysylltu os wyt ti angen unrhyw wybodaeth, cyngor neu eiriolaeth bellach.

Cymer ofal.

Meic


Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.


Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449