Mae Jo yn ei chael yn anodd gwneud ffrindiau newydd ac wedi gofyn i Meic am gyngor yn Coda’r Meic.
Roedd Coda’r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac roedd yn cael ei ddefnyddio i greu blogiau dienw ar gyfer y wefan i helpu pobl ifanc eraill oedd yn mynd trwy brofiad tebyg. Nid ydym yn cynnig Coda’r Meic bellach. Os wyt ti angen gwybodaeth cyngor neu eiriolaeth, cysyllta â’r llinell gymorth am gefnogaeth ar y manylion ar waelod y dudalen.
Helo Meic,
Cychwynnais mewn ysgol newydd fis Medi ac fel person eithaf swil mae’n anodd gwneud ffrindiau newydd. Beth ydw i am wneud?
Jo, 11 Oed (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)
Cyngor Meic
Helo Jo
Diolch i ti am gysylltu efo ni yma yn Meic. Mae dy deimladau di yn hollol naturiol ac mae’r mwyafrif o bobl ifanc (hyd yn oed y rhai hyderus) yn cael teimladau o bryder wrth gychwyn ysgol newydd, a chyfarfod pobl newydd.
Mae yna rai pethau gallet ti ei wneud i wneud pethau’n haws gyda’r newid mawr yma. Efallai byddai’n syniad da i ti sefydlu arferion da o’r cychwyn wrth geisio gwneud ymdrech i siarad gyda phobl newydd. Efallai bod hyn yn swnio fel syniad brawychus, yn enwedig gan dy fod di’n reit swil yn naturiol, ond nid oes rhaid i ti deimlo fel hyn ac mae posib torri pethau i lawr yn ddarnau llai sy’n haws i ddelio â nhw.
Gofyn cwestiynau
Beth am osod targedau bach i dy hun, fel cyflwyno dy hun i rywun gwahanol yn dy ddosbarth bob dydd? Meddylia am gwestiynau da i’w gofyn er mwy darganfod ychydig mwy am y person sydd yn eistedd wrth dy ochr. Mae pobl yn hoffi pan fydd pobl yn gofyn cwestiynau iddyn nhw. Bydd gwneud hyn yn helpu ti i ddod o hyd i rywun sydd â diddordebau cyffredin. Mae darganfod pobl sydd â’r un diddordebau â thi yn ddull da, bydd gennych chi bethau i siarad amdano yn awtomatig pan fyddech chi’n gweld eich gilydd eto.. Mae hyn yn gwneud y broses yn llawer mwy cyffyrddus. Hefyd, os yw’r ddau ohonoch yn dod ymlaen yn dda yna mae gennych chi lawer o bethau gallech chi ei wneud â’ch gilydd.

Tyfu dy gylch
Paid cadw at y bobl yn dy ddosbarth. Byddi di’n cyfarfod pobl o ddosbarthiadau gwahanol yn yr amser egwyl a chinio hefyd. Mae cyfnodau egwyl yn gallu bod yn anodd fel disgybl newydd, ond os wyt ti wedi gwneud y cysylltiadau yn y dosbarth yna bydd yn haws dod o hyd i bobl i dreulio amser â nhw.
Ceisia beidio canolbwyntio ar un ffrind yn unig gan y gall hyn wneud pethau’n anodd i ti yn y hir dymor, os yw’r ffrind yna’n sâl o’r ysgol un diwrnod er esiampl. Ceisia ymestyn allan a gwneud dipyn o ffrindiau. Bydd hyn yn ymestyn dy ddiddordebau di hefyd o bosib.
Ymuno grŵp
Os wyt ti’n ansicr am gychwyn sgwrs a chymryd y camau cyntaf, beth am weld os oes grwpiau neu glybiau gallet ti ymuno â nhw? Bydd hyn yn rhoi gofod cyffyrddus i ti i fwynhau diddordebau rhannir gyda phobl ifanc eraill o dy ysgol.
Mae hyn yn wir y tu allan i’r ysgol hefyd, felly ceisia ymuno mewn gweithgareddau allgyrsiol neu Grŵp Ieuenctid y tu allan i’r ysgol. Gall gwneud rhywbeth fel hyn helpu ti i wella dy sgiliau cymdeithasol ac efallai bydd rhai o dy gyd-ddisgyblion yno hefyd, bydd hyn yn rhoi diddordeb cyffredin i chi ar ôl dychwelyd i’r ysgol.
Cadwa dy hen ffrindiau
Ceisia gadw cysylltiad gyda ffrindiau o dy hen ysgol. Os wyt ti’n drist dy fod di wedi gadael pobl o dy hen ysgol, nid oes rhaid rhoi diwedd ar y perthnasau yma ar ôl symud i ysgol newydd. Parha i wneud ymdrech i gadw’r ffrindiau yma, mae posib treulio amser â’ch gilydd y tu allan i’r ysgol o hyd.
Yn bwysicach fyth, bydda’n ti dy hun a chofia nad ti yw’r unig un fydd yn teimlo fel hyn. Bydd pobl eraill yn yr un cwch yn union!
Pob lwc!
Y Tîm Meic
Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.
