Hide Page
Two men with a vrius

Meningitis a Sepsis – Dyliwn i Boeni?

Mae llid yr ymennydd (meningitis) a sepsis yn gyflyrau difrifol, ond gall deall y rhybuddion wneud gwahaniaeth enfawr.

Efallai dy fod wedi clywed adroddiadau am gynnydd mewn achosion o feningitis yng Nghaint (Kent). Mae timau Iechyd Cyhoeddus ac ysgolion yn rhannu gwybodaeth i sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel. Er ei bod hi’n bwysig peidio â chynhyrfu, aros yn wybodus yw’r ffordd orau i amddiffyn dy hun.

Deall y peryglon

Mae meningitis yn haint leinin yr ymennydd. Gelwir un math cyffredin yn Feningitis B (MenB). Cafodd y mwyafrif o bobl o dan 10 oed y brechlyn MenB fel babanod. Fodd bynnag, dim ond yn 2015 y cyflwynwyd y brechlyn hwn. Mae hyn yn golygu nad yw’r mwyafrif o fyfyrwyr ysgol uwchradd a phrifysgol wedi’i dderbyn.

Mae yna frechlyn arall, sef MenACWY. Efallai cefais di hwn ym Mlwyddyn 9. Mae’n amddiffyn rhag pedwar math o lid yr ymennydd, ond nid y straen B.

Y cysylltiad rhwng meningitis a sepsis

Efallai dy fod di’n pendroni pam bod cyngor iechyd yn aml yn sôn am sepsis ochr yn ochr â meningitis. Mae cysylltiad agos rhwng y ddau gan fod yr un bacteria neu firysau sy’n achosi meningitis yn gallu achosi sepsis hefyd.

Weithiau gelwir sepsis yn wenwyn gwaed ac mae’n ymateb i haint sy’n gallu bod yn beryg i fywyd. Mae’n digwydd pan fydd y system imiwnedd yn gorymateb wrth geisio ymladd bacteria neu firysau, sy’n niweidio organau’r corff.

Gan fod y bacteria neu’r firysau yn teithio drwy’r llif gwaed, gallant achosi meningitis, sepsis, neu’r ddau ar yr un pryd. Yn aml, mae meddygon yn eu trin fel yr un argyfwng. Nid oes angen i ti fod yn arbenigwr i’w gweld – dim ond angen deall pan fydd pethau ddim yn teimlo’n iawn.

Man in hospital bed

Beth yw’r arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt?

Gall meningitis a sepsis deimlo fel ffliw drwg neu ben mawr ar y dechrau. Gall y ddau ddigwydd yn gyflym iawn. Efallai bydd gen ti dymheredd uchel, cur pen drwg, neu’n dechrau chwydu.

Mae symptomau eraill yn cynnwys:

  • Gwddf tynn neu gymalau dolurus
  • Ddim yn hoff o oleuadau llachar (gallant frifo dy lygaid)
  • Dwylo a thraed oer, hyd yn oed os oes gen ti dymheredd
  • Teimlo’n gysglyd iawn, yn ddryslyd, neu’n ei chael hi’n anodd deffro
  • Croen gwelw, blotiog, neu las-aidd

Y prawf gwydr

Arwydd cyffredin o feningitis yw brech. Mae’n edrych fel pigiadau bach coch neu gleisiau porffor. Gall fod yn anoddach ei weld ar groen tywyllach. Edrycha ar fannau mwy gwelw fel cledrau’r dwylo neu wadnau’r traed.

Os wyt ti’n gweld brech, gwna’r prawf gwydr. Pwysa wydr clir yn gadarn yn erbyn y marciau. Os yw’r marciau’n aros yn weladwy a ddim yn pylu, gall fod yn argyfwng.

Fodd bynnag, paid aros i frech ymddangos. Os wyt ti’n profi symptomau eraill, cer i gael archwiliad, mae posib mynd yn sâl iawn hyd yn oed cyn i frech ymddangos.

Man with a rash

Ymddiried yn dy reddf

Os wyt ti neu ffrind yn teimlo’n sâl neu’n gwaethygu’n gyflym, paid ag aros. Ti sy’n adnabod dy gorff orau! Os wyt ti’n poeni, ffonia 999 neu cer i’r Adran Argyfyngau ar unwaith. Cael cymorth yn gynnar yw’r ffordd orau i wella.

Dweud wrth y staff meddygol os wyt ti wedi bod o gwmpas unrhyw un sydd â meningitis. Cadwa olwg ar ffrindiau, yn enwedig os ydyn nhw’n anarferol o flinedig neu’n ymddwyn yn wahanol i’r arfer.

Poeni am yr achosion meningitis?

Os wyt ti’n poeni am yr achosion ac eisiau trafod pethau, sgwrsia â’n cynghorwyr cyfeillgar yn Meic. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449