Hide Page
Man and woman sat on justice scales

Cefnogi Cydraddoldeb Rhywedd

Beth yw cydraddoldeb rhywedd, a pham mae’n bwysig?

Cydraddoldeb rhywedd yw’r syniad y dylai pawb gael yr un hawliau a chyfleoedd. Mae’n golygu na ddylai dy rywedd benderfynu beth fedri di ei wneud na sut mae pobl yn dy drin.

Weithiau, mae pobl yn cael eu trin yn wahanol oherwydd eu rhywedd. Gelwir hyn yn gwahaniaethu. Gwahaniaethu yw pan fydd rhywun yn cael ei drin yn annheg oherwydd pwy ydynt.

Cydraddoldeb yw cael y rhyddid i fod yn union pwy wyt ti. Mae’n golygu gwybod bod dy lais di’r un mor bwysig â llais unrhyw un arall a bod gen ti’r un cyfleoedd.

Pam bod cydraddoldeb o fudd i bawb

Mae pobl yn tueddu i feddwl am ddyn neu ddynes wrth siarad am rywedd, ond mae rhywedd yn sbectrwm. Sbectrwm yw graddfa rhwng dau bwynt sy’n gallu cynnwys llawer o bethau gwahanol. Mae rhai pobl yn teimlo fel bachgen, rhai yn teimlo fel merch, ac mae rhai’n teimlo fel y ddau neu dim un. Yn aml, gelwir hyn yn anneuaidd neu’n amrywiol o ran rhywedd.

Mae gwir gydraddoldeb yn golygu parchu pawb ar y sbectrwm yma. Mae’n golygu peidio â gwneud rhagdybiaethau am rywun oherwydd y ffordd maent yn edrych. Mae gan bawb yr hawl i ddiffinio eu hunaniaeth. Pan fyddwn yn derbyn bod rhywedd yn beth eang ac amrywiol, rydym yn creu byd lle nad oes neb yn teimlo fel eu bod yn cael eu gadael allan. Dylid rhoi cefnogaeth a charedigrwydd i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth rhywedd.

Mae cydraddoldeb hefyd yn helpu i chwalu disgwyliadau niweidiol, a elwir yn aml yn stereoteipiau. Mae stereoteip yn syniad cadarn am grŵp penodol. Er enghraifft, mae rhai pobl yn meddwl mai dim ond rhyweddau penodol ddylai fod yn wydn neu’n ofalgar. Mae cydraddoldeb yn caniatáu i bawb i fod yn nhw heb deimlo pwysau i ymddwyn mewn ffordd benodol.

Male and female icons

Sut fedri di gefnogi cydraddoldeb

Gallet ti helpu i greu byd tecach wrth fod yn gynghreiriad (ally). Mae cynghreiriad yn cefnogi ac yn siarad i fyny dros grŵp nad ydynt yn rhan ohono. Er enghraifft, nid oes rhaid i ti fod yn ferch i gefnogi hawliau merched – dim ond credu mewn tegwch. Mae bod yn gynghreiriad da yn ffordd bwerus i gefnogi i eraill.

Un ffordd o helpu yw dweud pan fyddi di’n gweld rhywbeth annheg. Os wyt ti’n clywed rhywun yn gwneud jôc annymunol am rywedd penodol, yna fedri di ddweud nad yw’n ddoniol.  Fedri di hefyd gefnogi ffrindiau sydd eisiau rhoi tro ar rhywbeth y mae eraill yn dweud sydd ddim ar eu cyfer nhw. Mae gweithredoedd bach fel hyn yn helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl.

Angen cymorth?

Os wyt ti’n teimlo fel dy fod di’n cael dy drin yn annheg, nid oes rhaid i ti fynd drwy hynny ar ben dy hun. Cofia, fedri di gysylltu â Meic. Rydym yma i helpu gyda gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449